BWYDYDD CYSUR
"Pan wyf mewn trwbl, bwyta yw'r unig beth i'm cysuro"
- Oscar Wilde
- Oscar Wilde
YNGLYN Â BWYDYDD CYSUR
BWYDYDD CYSUR A STRAEN
Yn ôl gwyddonwyr, gellir lleddfu symptomau straen cronig drwy fwyta bwyd cysur. Mae'n debyg bod gan y corff dynol duedd i flysio bwydydd melys a seimllyd pan o dan bwysau mawr. Mae bwyta'r math hynny o fwydydd yn effeithiol i guddio'r teimladau o straen a phryder, sy'n egluro pam mae pobl yn troi at y math hyn o fwydydd pan maent o dan bwysau.
Yn wir, yn dilyn yr ymosodiadau terfysgol ar Efrog Newydd a Washington ar 11 Fedi 2001, gwnaethpwyd astudiaeth gan sefydliad Americanaidd ar gyfer ymchwil i fewn i gancr. Fe ddarganfu bod o gwmpas 20% o Americanwyr wedi newid eu hymborth er gwaeth yn y deufis yn dilyn y trychinebau. Hynny yw, er mwyn ymdopi â'r ing, y straen a'r pryder am 9/11, fe droes lawer o bobl at fwydydd cysur, llai iachus.
Mae hyn yn awgrymu, fod digwyddiadau ysgytiol yn effeithio'n wael ar rai pobl, ac felly, yn dilyn achlysur o'r math, maent yn fwy tebygol i ildio i'r chwant am fwydydd sy'n gwneud iddynt deimlo'n well. Fodd bynnag, gall hyn fod yn beth digon afiach oherwydd y braster a'r calorïau ychwanegol a fwytir - yn enwedig os yw'r unigolyn yn dod i ddibynnu ar yr arfer. Argymhella'r dietegwyr i unigolion gadw eu 'bwyta er cysur' dan reolaeth pan maent o dan straen, a gwneud ymarfer corff a darganfod technegau ymlacio yn lle bwyta bwydydd "afiach".