BWYDYDD CYSUR
"Pan wyf mewn trwbl, bwyta yw'r unig beth i'm cysuro"
- Oscar Wilde
- Oscar Wilde
YNGLYN Â BWYDYDD CYSUR
BETH YW 'BWYDYDD CYSUR'?
"Pan wyf mewn trwbl, bwyta yw'r unig beth i'm cysuro"
- Oscar Wilde
Yn amlach na pheidio, mae'r bwydydd a elwir yn 'fwydydd cysur' â chanran uchel o fraster a / neu siwgr - hynny yw, bwydydd melys, stwnshlyd. Er maiÍr bwydydd hyn sy'n gyffredin pan fydd pobl yn bwyta er mwyn chwilio cysur, mae pobl hefyd yn dewis bwyta bwyd iach, fel cawliau, llysiau a phasta. Mae'n anodd dod o hyd i ddiffiniad manwl am 'fwydydd cysur', ond gallwn weld fod y rhan fwyaf o dai bwyta yn ei gynnig, gan mai'r prif reswm i bobl fwyta allan yw er mwyn cael pryd o fwyd pleserus!
Yn ogystal, hysbysebir rhai mathau o fwydydd cysur yn ddi-ben-draw ar y teledu. Mae delweddau o 'fwydydd cyflym' (e.e. McDonalds a KFC), pizzas, siocled, teisennod neu'r cynigion diweddaraf o'r uwchfarchnadoedd mawr yn mynd mor bell â phlannu awgrym o'r 'pryd o fwyd perffaith' yn ein meddyliau. Gall y delweddau hyn achosi chwantau cryf, sy'n gallu gorfodi pobl i ddiwallu'r blys cyn gynted ag y bo modd.
Yn ddiweddar fe wnaeth pôl piniwn ar gyfer rhaglen y BBC, 'The Nation's Favourite Food' ddatgelu rhestr y deg uchaf o 'fwydydd cysur' Prydain. Hwyrach y byddai rhai yn anghytuno, ond dyma nhw:
1. Siocled
2. Te a bisgedi
3. Tost (gan amla, gyda rhyw fath o haenen uwchben)
4. Hufen iâ
5. Prydau o'r ffrimpan
6. Selsig a thatws stwnshh
7. Cawl
8. Pwdin ffrwyth (e.e. afal, apricot a.y.y.b.)
9. Pwdinau wedi'u stemio
10. Pwdin reis