dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
diets picture

DEIETS ARBENNIG

Gall orfod byw gyda'r ffaith fod bwydydd arbennig yn gadael rhai yn teimlo'n wael ei gwneud hi'n ddigon anodd i rai pobl wybod beth yn union y gallant fwyta neu beidio.

Mae'r adran hon yn darparu gwybodaeth ac ychydig o gyngor am alergeddau ac anoddefgarwch bwyd a sut y gall pobl ddod i dermau â hyn.
Yn ogystal â bod yn rhywbeth sy’n rhaid ei wneud er mwyn byw, mae bwyta yn brofiad pleserus. Mae mwynhau’r hyn rydym ni’n eu bwyta yn un o flaenoriaethau bywyd ­ mae arolwg barn diweddar yn dangos mai’r peth byddai Prydeinwyr yn ei golli’r mwyaf pe baent yn symud tramor fyddai cinio dydd Sul! Fodd bynnag, mae’n rhaid i rai pobl fod yn wyliadwrus ynglyn â’r hyn maent yn ei fwyta, gan fod ambell fwydydd yn gallu achosi adwaith ­ digon mewn rhai achosion fel bod angen triniaeth feddygol. Fel canlyniad, mae’n rhaid iddynt ddilyn ymborth arbennig, gan osgoi’r cynhwysion a fydd yn peri poen iddynt.

ALERGEDD BWYD AC ANODDEFGARWCH TUAG AT FWYD

  • Cafodd adwaith negyddol tuag at rai fwydydd ei sylwi mor bell yn ôl â 75 CC, pan ysgrifennodd bardd ac athronydd Rhufeinig o’r enw Lucretius "Gall yr hyn sy’n fwyd i un dyn fod yn wenwyn ffyrnig i ddyn arall." Cyn hynny, fe hawliodd y meddyg Groegaidd, Hippocrates, "Yr ydym yr hyn ni’n ei fwyta!". Roedd e’n llygad ei le, gan ystyried sut gymaint o effaith mae ein hymborth yn cael ar ein hiechyd, ac felly ar y ffordd ni’n byw ein bywydau.

  • Dros y canrifoedd mae’n bwyd yr ydym yn ei fwyta wedi’i drawsnewid, gan ein bod ni bellach yn gallu mwynhau cynnyrch o ar draws y byd. Hefyd, mae llawer o fwydydd cyfoes gyda chynhwysion wedi’u hychwanegu atynt, ac rydym wedi datblygu sawl ffordd newydd i gadw a storio bwyd. Does dim syndod, felly, bod nifer sylweddol ohonom gyda sensitifrwydd i’r hyn ni’n eu bwyta, yn syml oherwydd mae gennym ystod mor eang o bethau i’w bwyta.

  • Ceir dwy fath wahanol o gyflwr sy’n gallu achosi adwaith i fwydydd penodol - alergedd bwyd ac anoddefgarwch tuag at fwyd. Dros y degawdau diwethaf fe welwyd nifer cynyddol o’r ddwy fath o gyflwr, ond beth yw’r gwahaniaeth rhyngddynt?

    - Alergedd Bwyd yw pan fod gan yr unigolyn system imiwnedd sy’n hynod sensitif, ac sy’n adweithio’n ffyrnig i rai fwydydd sydd, fel arall, ddim yn achosi unrhyw drafferthion. Mae’r corff yn gor-ymateb trwy ryddhau maint aruthrol o’r gemeg histamin o’r celloedd. Caiff y rhan fwyaf o alergeddau eu hachosi gan ychydig o fathau o fwydydd ­ wyau, llaeth, pysgod, pysgod cregyn, pysgnau, soia, gwenith, cnau coed a hadau ­ ac mae’n anarferol iawn i unrhyw unigolyn gael adwaith alergaidd o fwyta mwy nag un neu ddwy fath o fwyd. Mae effeithiau’r rhyddhad o histamin mewn adwaith alergaidd yn gallu amrywio o ychydig o chwyddo ac anesmwythdod yn y geg trwyddo i ‘anaphylactic shock’, cyflwr difrifol sy’n cynnwys chwyddo peryglus yn y gwddf, a allai rwystro’r anadlu. Mae’r symptomau hyn yn ymddangos yn hynod gyflym ac yn galw am driniaeth ar frys yn y fan a’r lle. Felly, mae’n hanfodol bwysig bod pobl sy’n dioddef o alergedd difrifol yn gwybod yn union pa gynhwysion sydd yn yr hyn maent yn eu bwyta, gan fod bwyta hyd yn oed ychydig o’r bwydydd anghywir yn gallu bod yn angheuol.
    - Anoddefgarwch tuag at fwyd (neu Alergedd Gohiriedig i Fwyd) yw pan fod yr adwaith yn arafach ac yn llai dwys. Mae hyn yn gyflwr llawer fwy cyffredin nag alergedd bwyd, ond eto mae e dal yn amharu ar ddewis yr unigolyn o’r hyn maent yn gallu ei fwyta. Y bwydydd mwyaf cyffredin i achosi’r trafferthion yw gwenith, bwydydd llaeth, ffrwythau sitrws a burum. Dyw ymateb y corff ddim o reidrwydd yn cyffroi’r system imiwnedd, ond yn hytrach ceir fel arfer symptomau anghyffyrddus fel poenau stumog, dolur rhydd, rhwymo, pennau tost, brechau a rhai trafferthion gyda’r croen fel ecsema. Gall weld sgil-effeithiau bwyta’r bwydydd anghywir o fewn ychydig funudau, neu o fewn ychydig oriau. Nid yw’r symptomau yn peryglu’r bywyd, ac nid ydynt yn rhy ddifrifol, ond maent yn annymunol. Fodd bynnag, yn aml fe all rhywun gydag anoddefgarwch fwyta ychydig o’r bwydydd trafferthus heb iddo achosi trafferthion.
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY