
DEIETS ARBENNIG
Gall orfod byw gyda'r ffaith fod bwydydd arbennig yn gadael rhai yn teimlo'n wael ei gwneud hi'n ddigon anodd i rai pobl wybod beth yn union y gallant fwyta neu beidio.
Mae'r adran hon yn darparu gwybodaeth ac ychydig o gyngor am alergeddau ac anoddefgarwch bwyd a sut y gall pobl ddod i dermau â hyn.
Mae'r adran hon yn darparu gwybodaeth ac ychydig o gyngor am alergeddau ac anoddefgarwch bwyd a sut y gall pobl ddod i dermau â hyn.
YNGLYN Â DEIETS ARBENNIG
SUT I DDARGANFOD OS OES GENNYCH ALERGEDD NEU ANODDEFGARWCH AT FWYDYDD PENODOL
- Mae sawl ffordd i ddod i adnabod os oes gennych sensitifrwydd i fathau arbennig o fwyd. Bydd alergedd yn achosi adwaith dwys ar unwaith, ac felly maent yn hawdd iw hadnabod. Fodd bynnag, efallai na fydd symptomau anoddefgarwch yn ymddangos am oriau neu hyd yn oed dyddiau, ac felly maen anoddach rhoi eich bys ar yr hyn syn achosir adwaith.
- Os ydych yn credu bod gennych alergedd neu anoddefgarwch tuag at fwyd, yna dylech gysylltu âch GP cyn gynted â phosibl. Gellir gwneud sawl prawf i gadarnhaur cyflwr:
- Hanes Diet: Mae cadw cofnod or diet yn rhan bwysig or proses, er mwyn cymharur hyn syn cael ei fwyta cyn unrhyw ymddangosiad or symptomau.
- Prawf Pigor Croen: Mae hyn yn brawf lle mae ychydig or bwyd amheus yn cael ei roi ar y croen (ar flaen y fraich). Fe ddawr canlyniadau o fewn 20 munud ac nid ywr prawf ei hunan yn boenus.
- Prawf Gwaed: Dyma lle cymerir ychydig o waed ai danfon at labordy ar gyfer testio. Defnyddir y prawf hwn ar gyfer archwilio achosion alergeddau bwyd difrifol.
- Profion Sialens Fwyd: Ym mhresenoldeb arbenigwyr, caiff darnau bychain or bwydydd amheus eu cuddio au bwydo ir claf. Bydd meddyg yn adolygu ymateb y corff.
- Profion Gwahardd: Dyma lle bydd yr unigolyn yn osgoir bwydydd amheus am ychydig wythnosau cyn iddynt gael eu hail-gyflwynon raddol. Cedwir dyddiadur i gofnodi ymateb y corff ir bwydydd er mwyn adnabod pa un syn achosir symptomau. Dylid gwneud y prawf hwn o dan oruchwyliaeth dietegydd. - Unwaith i chi gael canlyniadaur profion, dylid trafod âch GP fel eich bod yn gallu lunio cynllun ar gyfer eich diet. Yn ychwanegol, dylid adolygu pob diagnosis o alergedd bwyd, yn enwedig os mai plant syn dioddef.
