
DEIETS ARBENNIG
Gall orfod byw gyda'r ffaith fod bwydydd arbennig yn gadael rhai yn teimlo'n wael ei gwneud hi'n ddigon anodd i rai pobl wybod beth yn union y gallant fwyta neu beidio.
Mae'r adran hon yn darparu gwybodaeth ac ychydig o gyngor am alergeddau ac anoddefgarwch bwyd a sut y gall pobl ddod i dermau â hyn.
Mae'r adran hon yn darparu gwybodaeth ac ychydig o gyngor am alergeddau ac anoddefgarwch bwyd a sut y gall pobl ddod i dermau â hyn.
YNGLYN Â DEIETS ARBENNIG
BYW GYDA'R CYFLWR
- Mae gorfod cyfynguch hunan o ran eich diet yn gallu bod yn drafferthus gan nad ydych yn gallu bwyta unrhywbeth chi eisiau, ac hefyd bod yn rhaid hysbysu eraill och anghenion pan yn bwyta allan. Serch hynny, maen rhaid cadwn agos at y diet arbennig oherwydd y canlyniadau difrifol. Dyma rhai cynghorion defnyddiol i osgoi alergedd bwyd:
- Y dull mwyaf effeithiol o osgoir symptomau yw i beidio â bwytar bwydydd trafferthus eto.
- Cofiwch ddarllen labeli bwyd yn ofalus, gan osgoi cynhwysion ychwanegol ar cemegau i gadwr bwydydd yn ffres.
- Yn ystod misoedd olaf eu beichiogrwydd, dylai merched syn ddisgwyl osgoi bwydydd syn debygol o achosi alergedd.
- Dylid oedi cyn cyflwyno bwydydd soled i fabanod, nes eu bod nhw o leiaf 6 mis oed. Y bwydydd syn addas i fabanod ar yr oedran hyn yw cig oen, cyw iâr, reis, tatws melys, carots a phêrs. Am y flwyddyn gyntaf dylid osgoi llaeth buwch, wyau, gwenith, pysgod, soia a ffrwyth sitrws. Ni ddylid cyflwyno cnau a physgnau nes eu bod nhwn dair oed.
- Cymerwch ofal pan yn bwyta allan neu mewn parti. Paid ag ofni gwneud eich gofynion yn hysbys, rhag ofn bod dewis arall ar gael.
- Trafodwch gydach GP cyn defnyddio gwrth-histamin i ddelio âr symptomau.
- Os ydych mewn perygl o ddioddef o anaphylactic shock fel canlyniad o alergedd, dylech gario chwistrelliad o adrenalin, a sicrhau bod eich ffrindiaun gwybod sut iw defnyddio mewn argyfwng.
- Trafodwch gydach dietegydd yr hyn syn ddiogel i chi ei fwyta. Bydd yn rhaid cadwn agos at y cyngor hyn. - Mae sawl math o afiechyd syn deillio o alergedd neu anoddefgarwch bwyd, er enghraifft:
- Clefyd Coeliac: mae hyn yn adwaith i glwten, sef protein sydd iw ddarganfod mewn gwenith, rhyg, ceirch a haidd. Maen rhaid dod o hyd i gynnyrch syn rhydd o glwten, ond gan fod glwten yn bresennol mewn cyn gymaint o fwydydd, maen hanfodol i dderbyn cyngor gan ddietegydd profiadol.
- Anoddefgarwch tuag at Lactos: cyflwr pan nid ywr unigolyn âr ensym i dreulior siwgr sydd mewn llaeth. Maen rhaid ir cleifion ofalu nad ydynt yn bwyta cynnyrch a ddaw o faidd. - Gall rhai bwydydd achosi afiechydon y croen fel dermatitis ac ecsema, ac maen bosibl hefyd i bwl o asthma gael ei ddechrau gan fwydydd penodol. Ym mhob achos, maen rhaid ir unigolyn gadwn agos at ganllawiau ei ddiet arbennig er mwyn gallu byw bywyd normal.
