
DEIETS ARBENNIG
Gall orfod byw gyda'r ffaith fod bwydydd arbennig yn gadael rhai yn teimlo'n wael ei gwneud hi'n ddigon anodd i rai pobl wybod beth yn union y gallant fwyta neu beidio.
Mae'r adran hon yn darparu gwybodaeth ac ychydig o gyngor am alergeddau ac anoddefgarwch bwyd a sut y gall pobl ddod i dermau â hyn.
Mae'r adran hon yn darparu gwybodaeth ac ychydig o gyngor am alergeddau ac anoddefgarwch bwyd a sut y gall pobl ddod i dermau â hyn.
YNGLYN Â DEIETS ARBENNIG
GOFALU AM EICH IECHYD DRWY FWYTA'N IACH
- Mae gan Gymru enw drwg am beidio â bwytan iach. Yn wir, mae adroddiadau diweddar yn dangos bod plant Cymru yn bwyta mwy o fwydydd parod a bwydydd sothach nag erioed, ac felly mewn perygl o fod yn dew erbyn iddynt dyfu i fyny. Dylai unrhywun syn gofalu am eu hiechyd sicrhau eu bod nhwn torri lawr ar fwydydd syn niweidiol iw lles.
- Yn anffodus mae gormod o gynlluniau diet o gwmpas, a llawer ohonynt yn fyrhoedlog, ac iw hosgoi gan eu bod yn llawer yn rhy lwm ar yr unigolion, yn ôl dietegwyr proffesiynol. Er eu bod nhwn gallu bod yn ffasiynol iawn, mae llawer or dietau hyn yn gallu gwneud mwy o ddrwg na daioni yn y pendraw.
- Y peth cyntaf iw wneud yw ystyried yr hyn rydych yn ei fwyta, ai faint. Hefyd, agwedd pwysig arall o ddilyn bywyd iach yw ymarfer. Dylai taro cydbwysedd fan hyn : yn gyffredinol dylai pobl fod yn bwyta llai ac yn ymarfer mwy. Mae diet iachus yn seiliedig ar fod yn gymedrol ac yn amrywiol.
- Yr allwedd yw i fwyta mwy o lysiau ffres a ffrwythau tran bwyta llai o siwgr a bwydydd seimllyd. Ar y cyfan gallwch fwyta cyn gymaint â hoffech o lysiau a ffrwythau ffres gan fod cynlleied o fraster ynddynt, a chan eu bod yn llawn mwynau a fitaminau llesol. Wrth gwrs, maen rhaid bwyta ychydig o saim, ond maen bwysig ei gadwn gymedrol.
- Maen hynod bwysig cadwch diet yn iachus os oes gennych y clefyd melys, lefel uchel o golesterol neu os ydych mewn perygl o ddatblygu clefyd y galon. Os oedd rhywun ag un or cyflyrau hyn yn methu â dilyn diet addas, byddair canlyniadaun ddifrifol.
- Y broblem fwyaf maen rhaid ei wynebu tran ystyried ein hymborth ywr maint o fraster nin ei fwyta yn enwedig braster dirlawn (saturated fats). Os yn bosibl, dewiswch gynnyrch sydd â llai o fraster nar hyn byddech yn arfer ei brynu, a chadwch eich llygad allan am fwydydd syn isel eu braster. Cynghorion eraill ar gyfer torri i lawr ar fraster:
- Defnyddiwch laeth sgim neu hanner-sgim yn hytrach na llaeth llawn braster.
- Yn lle menyn, defnyddiwch fargarîn neu ddewis arall syn isel mewn braster.
- Gostyngwch y maint o gaws chin ei fwyta: maer rhan fwyaf ohonynt yn uchel eu cynnwys o fraster. Dau fath o gaws sydd â lefelau iselach o fraster yw Edam a Brie.
- Bwytewch llai o basteiod.
- Osgowch ffrio pan yn bosib.
- Dewiswch ddresins salad sydd heb fraster.
- Defnyddiwch iogwrt naturiol neu fromage frais yn lle hufen.
- Bwytewch gig goch, gan dorrir braster oddi ar ddarnau. Er gwaethar temtasiwn iw fwyta, dylid cymryd y croen oddi ar gyw iâr.
- Torrwch i lawr ar fwydydd seimllyd fel selsig a byrgers, neu dewiswch rhai syn isel eu braster.
- Defnyddiwch fwy o lysiau mewn cawliau a chaserolau.
- Os ydych yn hoffi byrbrydau fel creision, ceisiwch fwyta mathau syn isel eu braster, fel pretzels, cacenni reis a sticiau bara.
- Torrwch i lawr ar y diodydd alcoholaidd, yn enwedig os ydych yn yfed mwy dros y penwythnos. - Gan fod cyn gymaint o wahanol fathau o ddietau ar gael, mae pobl yn teimlo bod yn rhaid iddynt golli pwysaun syth. Ond y tuedd wedyn yw i ddychwelyd ir hen arferion bwyta, syn meddwl iddynt roir pwysau nôl arno.
- Y peth gorau yw i geisio colli pwysaun raddol, er mwyn gadael digon o amser ir corff ymdopi âr newid. Mae deitegwyr yn argymell colli rhwng un a dau bwys bob wythnos trwy gyfuniad o ymarfer a bwytan iach. Mae pobl yn disgwyl gweld newid yn eu golwg yn syth, syn egluro pam fod cyn gymaint o ddietau yn methu. Fodd bynnag, gellir llwyddo i golli tipyn o bwysau trwy ddal ati gyda diet iach ac ymarfer rheolaidd. Yn amlwg maen llawer haws i roi pwysau arno nai golli ac felly maen galw am dipyn o ddisgyblaeth a dyfalbarhad i gyrraedd y nod.
- Mater dadleuol ywr nifer o galorïau sydd eu hangen bob dydd. Ar gyfartaledd, meddair dietegwyr, dylai dynion fwyta gwerth 2500 o galorïau bob dydd (gan gynnwys dim mwy na 95g o fraster a 7g o halen) tra dylai merched gael gwerth 2000 o galorïau bob dydd (gan gynnwys dim mwy na 70g o fraster a 5g o halen). Maer nifer yn newid o unigolyn i unigolyn, ond ar y cyfan dylswn ni anelu ar fwyta gwerth 400 o galorïau gyda phob pryd.
