dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
diets picture

DEIETS ARBENNIG

Gall orfod byw gyda'r ffaith fod bwydydd arbennig yn gadael rhai yn teimlo'n wael ei gwneud hi'n ddigon anodd i rai pobl wybod beth yn union y gallant fwyta neu beidio.

Mae'r adran hon yn darparu gwybodaeth ac ychydig o gyngor am alergeddau ac anoddefgarwch bwyd a sut y gall pobl ddod i dermau â hyn.

BETH SY'N ACHOSI'R CYFLWR?

  • Achosir alergedd bwyd go iawn gan gemeg estron a elwir yn alergen. Mae’r rhan fwyaf o alergenau yn cynnwys protein, cynhwysion digon cyffredin yn ein bwydydd. Byddai system imiwnedd or-sensitif yn ystyried yr alergenau-protein hyn yn ‘ymosodwyr’ peryglus, ac yn cynhyrchu gwrthgorffynnau - ‘antibodies’ - er mwyn amddiffyn y corff. Byddai hyn yn arwain i gellau eraill ryddhau cemegau a fydd, yn eu tro, yn arwain at symptomau adwaith alergaidd.

  • Fe ddaw anoddefgarwch tuag at fwyd, ar y llaw arall, pan nad yw’r corff yn gallu cynhyrchu digon o ensym arbennig sy’n hanfodol ar gyfer treulio’r bwyd. Felly, pan nid yw’r corff yn gallu ymdopi â chemeg benodol mae’n adweithio mewn modd sy’n anghyffyrddus i’r unigolyn.

  • Mae rhai ffactorau sy’n effeithio ar sensitifrwydd yr unigolyn tuag at fwydydd penodol. Mae’n beth cyffredin i fabanod fod yn sensitif i wyau a llaeth yn eu blwyddyn gyntaf, ond bydd y rhan fwyaf ohonynt yn tyfu allan o hyn o fewn dwy flwyddyn. Fodd bynnag, bydd eraill yn datblygu alergedd neu anoddefgarwch. Hefyd, mae’n debyg y bydd babanod sydd ag alergedd neu anoddefgarwch tuag at gnau neu bysgod yn parhau gyda’r cyflwr hyd eu hoes. Mae tua 20% o bobl yn honni bod ganddynt alergedd tuag at rai fwydydd, ond bydd y rhan fwyaf o’r rhein ond ag anoddefgarwch, gydag ond 2% yn dioddef o alergedd go iawn.

  • Felly pam bod rhai pobl yn dioddef o alergedd neu anoddefgarwch? Ceir tri phrif ffactor sy’n peri’r cyflwr: - Cefndir Genetaidd: Pan gaiff y duedd ei throsglwyddo trwy’r genynnau. Mae dynion yn fwy tebygol o ddatblygu alergedd na merched.
    - Amgylchedd: Mae blwyddyn gyntaf bywyd yn dyngedfennol, gydag ymborth y baban yn chwarae rhan hollbwysig. Os yw bwydydd sy’n cynnwys alergenau yn cael eu cyflwyno’n rhy gynnar fe all hyn achosi adwaith negyddol.
    - Datguddiad: yn debyg i’r uchod, fe all alergedd ddod fel canlyniad i’r plentyn gael gormod o ryw fwydydd yn gynnar yn ei fywyd.
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY