
Y PASG
I lawer, mae cyfnod y Pasg yn golygu diwedd misoedd oer a thywyll y gaeaf, a dechrau tywydd gwell.
YNGLYN Â Y PASG
BYNS Y GROG
- Ers amser maith bu byns y Grog yn rhan o ddathliadau’r Pasg, ac maent mor boblogaidd heddiw ag erioed. Yn y gorffennol, doedd y danteithion hyn ond ar gael ar ddydd Gwener y Groglith, a olygodd bod rhywbeth tebyg i derfysg y tu-allan i siop teisennod yn Chelsea ym 1792, wrth i’r cyhoedd geisio cael eu dwylo ar y byns prin.
- Fe waharddwyd byns y Groglith gan Oliver Cromwell yn ystod ei deyrnasiad, ac roedd yn rhaid aros tan yr Adferiad cyn iddynt ymddangos eto.
- Yn draddodiadol, cafodd byns gyda chroesau arnynt eu cynhyrchu trwy gydol cyfnod ympryd y Grawys, yn barod i’w bwyta dros y Pasg. Fodd bynnag, fe honnir fod mynach yn yr 12fed ganrif, wedi cynhyrchu byns y Grog fel yr unig bethau i’w bwyta ar ddydd Gwener y Groglith, y diwrnod cysegredig ar ddiwedd cyfnod yr ymprydio.
- Mae llawer yn credu bod y byns yn symboleiddio croeshoeliad Iesu Grist, ac felly fe’u bwytir ar ddydd Gwener y Groglith. Fodd bynnag, roedd yn hen arferiad ofergoelus i bobl roi croes ar eu bara i sicrhau na fyddai’r diafol yn ymyrryd â’u bwyd.
- Awgryma rhai bod byns â chroesau arnynt yn yn tarddu o deisennod cysegredig yr Eingl-Sacsoniaid a gafodd eu bwyta yn ystod y wledd flynyddol i anrhydeddu duwies y Gwanwyn, Eostre. Yn y wledd hon, byddai’r Sacsoniaid yn aberthu ychen i Eostre, gyda chyrn yr anifail yn cael eu defnyddio i dorri’r bara defodol. Mae’n ddiddorol bod y gair Seisnig ‘bun’ yn dod o’r gair Sacsonaidd ‘boun’, sy’n golygu ‘ych cysegredig’.
- Mae rhai wedi awgrymu hefyd bod y byns â chroesau arnynt yn cynrychioli’r lleuad, a oedd hefyd yn gysylltiedig â’r dduwies Eostre. Roedd y paganiaid yn credu y byddai’r byns yn para am flwyddyn gyfan cyn llwydo, a byddent yn aml yn eu hongian yn eu cartrefi i atal tân a drygioni.
- Yn debyg i lawer o fwydydd sy’n glwm â chrefydd, fe gafodd byns y Grog eu cysylltu â nifer o ofergoelion. Byddai morwyr yn eu cymryd ar eu mordeithiau i’w amddiffyn rhag llongddrylliad, tra bod ffermwyr yn credu y byddai byns yn groglith yn ddigon i ddiogelu gwenith rhag llygod ffrengig. Yn ogystal, dywedir bod gan y byns rinweddau cyfrin a allai wella rhai afiechydon.
- Ar ddydd Gwener y Groglith byddai eglwysi Cristnogol yn pobi bara a / neu fyns ar gyfer aberth yr offeren, ac yn dynodi’r toes arbennig gyda chroes.
- Yn Llundain mae ‘na dafarn sy’n cynnal defod flynyddol sy’n defnyddio byns y Grog. Ar ddydd Gwener y Groglith mae morwr yn ychwanegu bynsen y Pasg at y rhai sy’n hongian yno yn barod er cof am weddw dlawd a bobodd fyn i’w hunig fab na ddaeth byth yn ôl o’r môr.
