dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
easter picture

Y PASG

I lawer, mae cyfnod y Pasg yn golygu diwedd misoedd oer a thywyll y gaeaf, a dechrau tywydd gwell.

TEISEN RAWYS - SIMNEL CAKE

  • Erbyn hyn, mae’n draddodiad i bobi teisennod Grawys ar gyfer y Pasg, ond yn wreiddiol fe’u gwnaethpwyd ar gyfer pedwerydd Sul y Grawys. Adnabuwyd y diwrnod hwn naill ai fel Sul y Mamau ynteu Sul Ymborth, oherwydd i’r rheolau ynglyn ag ympryd y Grawys gael eu llacio ar y diwrnod hwnnw.


  • Mae’r deisen Rawys yn deisen ffrwythau â gorchudd trwchus o bâst almwn neu eisin. Weithiau roedd y gorchudd yn gymysgedd o flawd a dwr wedi’i liwio â saffrwm. Byddai’r teisennod Grawys cynharach â golwg tebycach i fisgedi oherwydd eu maint â’u trwch.


  • Roedd dydd Sul y Mamau yn adeg ynghanol ympryd hir y Grawys a neilltuwyd ar gyfer ymlacio a mwynhad. Yn yr hen ddyddiau, byddai morwynion ifanc a oedd yn gweithio i ffwrdd o’u cartrefi yn cael rhwydd hynt gan eu meistri er mwyn ymweld â’u mamau ar y diwrnod arbennig hwn, a byddent yn pobi teisien Rawys fel anrheg. Yn ôl traddodiadau cynharach byddai’r deisen yn cael ei bwyta ar y diwrnod hwn, ond yn ddiweddarach fe ddaeth yn arferiad i gadw’r deisen am wythnos tan Sul y Pasg.


  • Byddai cadw’r deisen am yr wythnos hon yn cael ei weld fel prawf o sgiliau coginio’r ferch ifanc: cawsai hi ei hystyried yn gogyddes dda pe tasai’r deisen yn cadw ei blas a’i lleithder hyd at Sul y Pasg. Yn ffodus, mae gan deisennod ffrwythau enw da am gadw’n dda, ac roedd hyn yn gymorth mawr i’r merched!


  • Fe ddaw’r enw Seisnig ‘simnel’ o’r hen air Ffrengig ‘simenel‘, sy’n tarddu o’r gair Lladin am y blawd gorau i bobi teisennod, ‘simila’. Fodd bynnag mae chwedl i egluro’r enw, sy’n adrodd hanes Simon a’i wraig Nell yn dadlau ynglyn â’r ffordd orau i wneud teisen ar gyfer Sul y Mamau: ai ei phobi ynteu ei berwi? Yn y diwedd, fe ddefnyddion nhw’r ddau ddull, ac fe alwyd y deisen ar ôl eu henwau hwythau – Sim-Nell!


  • Fel afer byddai pen y deisen yn cael ei addurno gydag 11 neu 12 o beli pâst almwn, i gynrychiolu’r apostolion, a thanlinellu arwyddocâd crefyddol y gacen. Ni chredai’r rhan fwyaf o bobl fod Jwdas yn haeddu lle ar y deisen, er bod yn well gan rai i gynnwys yr apostolion i gyd. Un traddodiad oedd i gerfio darlun o’r Iesu ynghanol y deisen, gyda’r 11 ynteu 12 o beli yn amgylchynu’r ddelwedd.


  • Heddiw, fe addurnir teisiennod Grawys gydag eitemau amrywiol fel blodau crisialog (fel arfer, fioledau neu friallu) neu gywion ac wyau lliwgar wedi’u gwneud allan o eisin, siocled ac ati.
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY