
Y PASG
I lawer, mae cyfnod y Pasg yn golygu diwedd misoedd oer a thywyll y gaeaf, a dechrau tywydd gwell.
YNGLYN Â Y PASG
WY’R PASG
- Ers canrifoedd, mae’r wy wedi cael ei ystyried fel un o symbolau mwyaf addas y Pasg, oherwydd iddo gyflwyno’r syniad o fywyd newydd, ac felly dechreuad y gwanwyn ac atgyfodiad Iesu. Mae’r symbolaeth yn estyn yn ôl i amseroedd hynafol, pan fu’r Rhufeiniaid a’r Eifftiaid yn cyfnewid wyau er mwyn cyfleu parhad bywyd wedi marwolaeth.
- Mewn defodau paganaidd roedd yr wy yn symbol o ffrwythlondeb ac aileni. Fe ddaw y gair Saesneg "Easter" o enw’r dduwies Eingl-Sacsonaidd Eostre, duwies y wawr a’r gwanwyn. Yma hefyd ceir gwreiddiau’r cysylltiad rhwng cwningod a’r Pasg, oherwydd fod ysgyfarnog yn un o’r symbolau â chysylltiad agos ag Eostre. Credodd yr hen Sacsoniaid gynt fod gan Eostre ysgyfarnog arbennig fel anifail anwes : un a ddodwyai wyau adeg y Pasg!
- Yn fuan fe ddaeth yr wy yn un o symbolau’r ffydd Gristnogol. Ym Mesopotamia byddai plant yn staenio gymaint o wyau ag y medrent yn goch adeg y Pasg, er mwyn cofnodi gwaed Iesu. Hefyd, fe fabwysiadwyd yr wy fel symbol o’r garreg a orchuddiodd bedd Crist.
- Yn ogystal â’u lliwio’n goch, fe baentiwyd wyau yn wyrdd ac yn felyn er mwyn cofnodi’r gwanwyn a bywyd newydd. Fe ddaeth cyfnewid wyau yn arferiad poblogaidd. Awgrymir mai’r Croesgadwyr a ddaeth a’r arferiad hwn i Brydain wedi iddynt ddychwelyd ar ôl eu teithiau a’u brwydrau.
- Erbyn teyrnasiad Edward I yn y 13eg Ganrif, arferid rhoi wyau wedi’u berwi’n galed ac wedi’u lliwio yn rhoddion i gyfeillion a pherthnasau ar Sul y Pasg.
- Dywedir i’r brenin Harri VIII dderbyn rhodd gan y Pab o wy’r Pasg mewn blwch arian.
- Ar adeg y Pasg, byddai teuluoedd yn cymryd basgedi llawn wyau wedi’u berwi’n galed i’r eglwys leol i gael eu bendithio. Câi’r wyau cysegredig eu cymryd adref a’u rhoi yng nghanol y bwrdd cinio. Yn aml fe gâi’r wyau eu lliwio, a byddent yn cael eu harddangos trwy gydol wythnos y Pasg a’u cynnig i ymwelwyr fel rhoddion. O’r diwedd byddent yn cael eu bwyta ar Sul y Pasg, ac felly dod a chyfnod ymprydio’r Grawys i ben.
- Roedd llawer o ofergoelion yn gysylltiedig â wyau yn ystod dathliadau’r Pasg. Fe honnir y byddai wyau a ddodwyd ar Ddydd Gwener y Groglith yn aros yn ffres am byth, tra byddai lwc dda yn dilyn unrhyw un a fwytai wyau a ddodwyd ar Ddydd Gwener y Groglith neu Sul y Pasg ar yr un diwrnod. Hefyd byddai wyau a ddodwyd ar y diwrnodau hyn yn llawn rhinweddau meddygol, ac fe’u defnyddiwyd i wella mân afiechydon.
- Fe ddaeth gemau yn defnyddio wyau yn boblogaidd ymhlith y plant ar adeg y Pasg. Yr un mwyaf poblogaidd oedd rholio wyau i lawr y rhiwiau: byddai’r wy a barodd hiraf heb gracio, neu’r un a deithiodd bellaf heb dorri yn ennill y wobr. Mae’r traddodiad hwn yn para hyd heddiw mewn rhai mannau ym Mhrydain ac, ers 1878, mae ‘na draddodiad i Arlywydd UDA ymuno â phlant i rowlio wyau ar lawnt y Ty Gwyn. O safbwynt Cristnogol, y mae rholio’r wy yn symbol am y maen yn cael ei dreiglo i ffwrdd o fedd Iesu.
- Gêm arall oedd ‘pace eggs’, a oedd yn debyg i ‘conkers’ gan mai’r amcan oedd malu wy y gwrthwynebydd. (Fe ddaw y gair ‘pace’ o’r ymadrodd Iddewig am Basg), Hefyd roedd difyrrwch o chwilio o gwmpas yr ardd am wyau, gyda’r plentyn a ddaethai o hyd i’r mwyaf yn ennill. Yn ogystal byddai teuluoedd ac eglwysi yn cynnal cystadlaethau i ddod o hyd i’r wyau mwyaf addurnedig.
- Yn y 17eg a’r 18fed ganrif, fe gyfnewidiwyd wyau caled am deganau mewn siâp wy. Erbyn y 19eg ganrif derbyniai plant wyau ffug wedi’u gwneud o gardbord a satin, ac a lanwyd gan siocledi a melysion.
- Cynhyrchwyd yr wyau cyntaf i’w gwneud yn gyfangwbl o siocled (a’u llenwi gyda melysion) gan Cadbury yn 1873. Wyau siocled tywyll oedd y rhein: fe gynhyrchodd Cadbury yr wy cyntaf o siocled llaeth ym 1905.
- Erbyn heddiw mae wyau siocled yn cynrychioli tua 8% o’r gwerthiant blynyddol o siocled. Yn wir, mae’r Crème Egg gan Cadbury mor boblogaidd nes i dros 300 miliwn ohonynt gael eu cynhyrchu bob blwyddyn!
