
Y PASG
I lawer, mae cyfnod y Pasg yn golygu diwedd misoedd oer a thywyll y gaeaf, a dechrau tywydd gwell.
YNGLYN Â Y PASG
PYSGOD
- Mae pysgod yn un o’r bwydydd a ganiateir yn ystod ympryd y Grawys, ac mae’n un o symbolau’r eglwys fore. Mae’r rhan fwyaf o enwadau Cristnogol yn ystyried dydd Gwener yn ddiwrnod o ympryd oherwydd iddo fod yn ddiwrnod marwolaeth Iesu. Yn Saesneg, yr enw gwreiddiol am ‘Ddydd Gwener y Groglith’ oedd ‘God Friday’, cyn iddo newid i ‘Good Friday’.
- Byddai ympryd y Grawys yn golygu fod addolwyr yn ymwrthod â chig a phob cynnyrch a ddaw o anifeiliaid gan gynnwys llaeth, caws ac wyau – yn debyg iawn i vegan heddiw. Roedd Cristnogaeth cynnar yn cysylltu pysgod â’r Iesu, sy’n awgrymu’r rheswm pam y caniatawyd i bysgod gael eu bwyta yn ystod y Grawys pan waharddwyd nifer fawr o fwydydd eraill.
- Flynyddoedd lawer yn ôl, y pysgodyn mwyaf cyffredin i’w fwyta ar ddydd Gwener y Groglith oedd y pennog coch, oherwydd iddo fod yn rhad a bod cyflenwad helaeth ohono ar gael. Fodd bynnag, nid oedd ei flas yn plesio’n ormodol, ac felly fe guddiwyd y blas annymunol gyda dos digonol o fwstard i wneud y pysgod yn fwy derbyniol.
- Hyd at ddiwedd y 19eg Ganrif fe gynhaliwyd seremoni fechan ar Sul y Pasg yng Ngholeg y Brenin, Rhydychen, i ddynodi diwedd yr ympryd. Y cwrs cyntaf ar y bwrdd uchel y noson honno fyddai pennog coch wedi ei ffurfio i ddarlunio dyn yn carlamu i ffwrdd ar gefn ceffyl.
- I raddau helaeth, mae’n arferiad hyd heddiw i ddarparu pysgod ar ddydd Gwener oherwydd y cysylltiad â Gwener y Groglith a’r arferiad hynafol o ymprydio.
DOFEDNOD
- Ers tipyn mae cyw iâr wedi bod yn ffefryn ar gyfer cinio Sul y Pasg, oherwydd y cysylltiad rhwng y cyw â genedigaeth a bywyd newydd. Yn ogystal, erbyn heddiw mae cyw iâr yn rhatach na chig oen, sy’n ffactor arall i egluro ei boblogrwydd.
- Yn ogystal â’i bwysigrwydd i ginio Nadolig, mae cig twrci wedi tyfu mewn poblogrwydd nes iddo ddod yn ddewis i lawer ar gyfer Sul y Pasg. Gan fod y twrci yn ddigon mawr i lenwi sawl plât - ffactor sydd o bwys pan fod teuluoedd yn ymgynnull - mae’r aderyn hwn wedi dod yn hanfodol ar gyfer y Nadolig, a Diwrnod Diolchgarwch yn UDA. Mae bwyta twrci adeg y Pasg yn draddodiad cymharol ddiweddar, a gafodd hwb oherwydd poblogrwydd y twrci ar adeg y Nadolig a thrwy ymdrechion y diwydiant dofednod – a hefyd y ffaith bod yr aderyn yn blasu’n arbennig!
