dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
easter picture

Y PASG

I lawer, mae cyfnod y Pasg yn golygu diwedd misoedd oer a thywyll y gaeaf, a dechrau tywydd gwell.

HANES BWYDYDD TRADDODIADOL Y PASG

I lawer, mae cyfnod y Pasg yn golygu diwedd misoedd oer a thywyll y gaeaf, a dechrau tywydd gwell. I’r crefyddol, mae’n amser i ystyried croeshoeliad, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist. Mae hwn hefyd yn amser ar gyfer wyau siocled a Byns y Grog, sydd â’u gwreiddiau yn ddwfn yn hanes y Pasg.

Er mwyn deall tarddiad bwydydd y Pasg mae’n bwysig cofio ei fod yn cael ei ragflaenu yn hanesyddol gan y Grawys, â’r traddodiad Cristnogol o ymprydio am 40 diwrnod. Mae’r cyfnod yn dechrau ar Ddydd Mercher y Lludw, sef y diwrnod ar ôl Ddydd Mawrth Ynyd, ac mae’n dod i ben ar ddydd Sul y Pasg. Byddai Cristnogion yn ymprydio dros y Grawys i gydnabod y caledi a wynebodd yr Iesu yn ystod ei amser yn yr anialwch wrth iddo fyfyrio am ei fywyd.

Roedd yn arferiad i ymwrthod â rhai bwydydd fel cig a wyau, tra bod prydau bach o bysgod a bara yn cael eu caniatáu ar rai achlysuron. Gyda chyfnod pwysig y Pasg fe ddaw diwedd i’r ymprydio a chyfle i fwynhau bwydydd ffres, sydd i’w cael yn helaethach yn y gwanwyn. Hefyd, gan fod pobl wedi bod heb fwyd maethlon dros gyfnod ymprydio y Grawys, byddai gwledda ar fwydydd newydd a ffres yn rhoi egni newydd i’r corff, ac felly’n dwyn cymhariaeth gyda dechreuad bywyd newydd ac atgyfodiad Iesu Grist.

PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY