
Y PASG
I lawer, mae cyfnod y Pasg yn golygu diwedd misoedd oer a thywyll y gaeaf, a dechrau tywydd gwell.
YNGLYN Â Y PASG
CIG OEN
- Ystyrir cig oen yn gig traddodiadol y Pasg oherwydd ei gysylltiadau crefyddol.
- Dros y canrifoedd mae nifer o grefyddau gwahanol wedi aberthu wyn i blesio’u duwiau. Yn ogystal, mae nifer o grefyddau yn gwahardd eu dilynwyr rhag bwyta cig moch, sy’n golygu bod cig oen wedi dod yn brif ddewis naturiol ar gyfer gwleddau crefyddol.
- Er bod cig oen â chysylltiad agos â chinio Sul y Pasg, mae ei bwysigrwydd yn ymestyn nôl ymhellach hyd at Wyl y Bara Croyw a Phasg yr Iddewon. Ar y Pasg cyntaf yn yr Aifft, aberthodd yr Iddewon wyn a rhoi eu gwaed ar byst eu drysiau er mwyn dangos eu ffyddlondeb. Aeth Angel Marwolaeth heibio i bob ty â’r marciau gwaed ar byst y drws, ac felly arbedwyd cyntaf-anedig y teuluoedd Iddewig. Wedyn rhostiwyd cig yr oen a’i fwyta gyda bara croyw a pherlysiau chwerw.
- Cyfeiria Cristnogion at Iesu Grist fel "Oen Duw", tra bod yr Iddewon yn ei adnabod fel "Oen y Pasg" (hynny yw, yr oen aberthol). Gan mai o wreiddyn Iddewig y tyfodd Cristnogaeth, fe unwyd nifer o’r traddodiadau Iddewig gyda’r ffydd newydd. Felly, fe ddaeth yr oen a aberthwyd adeg Gwyl Pasg yr Iddewon yn gysylltiedig â marwolaeth Iesu ar y groes.
- Dywedir i gig oen gael ei ddarparu i Grist yn y Swper Olaf ac, ers y 9fed Ganrif, mae cig oen wedi’i rhostio wedi bod yn brif gynnwys cinio Pasg y Pab.
- Mae hefyd yn addas mai cig oen sy’n cael ei fwyta adeg y Pasg oherwydd y cysylltiad â genedigaeth a bywyd newydd sy’n cael ei gydnabod yn y Gwanwyn – felly’r ymadrodd "oen y gwanwyn". Cafodd y cysylltiad hwn ei gydnabod ers y 4ydd ganrif, pan ddechreuodd Cristnogion ddathlu’r atgyfodiad, ac felly sefydlu’r patrwm o’r ffordd y dethlir y Pasg hyd heddiw.
- Mewn mytholeg Gristnogol ystyrir yr oen yn symbol o ddiniweidrwydd pur, ac felly, dyma’r unig ddelwedd na all y Diafol ei chymryd wrth iddo grwydro’r ddaear.
- Dywedir fod lwc dda yn dilyn y sawl sy’n gweld oen mewn cae ar Sul y Pasg, tra bod bugeiliaid y Dwyrain Canol yn credu fod oen yn cynrychioli gobaith ar gyfer y dyfodol.
