dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas

OFFER CEGIN HANFODOL


kitchen essentials picture

Cyllyll

mae'r cyllyll gorau ar gyfer y cartref yn ysgafn ac yn hyblyg. Ceir casgliadau safonol o gyllyll mewn siopau arbenigol, ac fe fydd rhai setiau yn cynnwys siswrn a minell.

Llwyau, ffyrc a chwisgiau

cymeradwyir detholiad da o lwyau pren, gan eu bod bob amser o ddefnydd. Bydd angen llwyau metal ar gyfer draenio, brasteru a phlygu. Defnyddier ffyrc pren i sgramblo wyau a lledu reis, tra bod fforc metal yn angenrheidiol ar gyfer rhostio darn o gig. Awgrymwn ddau chwisg da: un bychan ac un 'balwn'.

Sbatwlae

Sbatwla pysgod (bydd angen un hyblyg); sbatwla cacennau (gellir defnyddio hwn i godi darnau o bastai); ac un â chanddo ben rwber.

Gefel (Tongs)

yn ddefnyddiol i troi selsig, stêc, bacwn a.y.y.b ac ar gyfer codi sbageti allan o ddwr berwedig.

Colandrau

yn angenrheidiol ar gyfer draenio dwr yn ddi-drafferth.

Sgeintwyr

ar gyfer gwasgaru blawd, neu siwgr eisin dros bobiad mawr. Gograu (Sieves) - ar gyfer hidlo blawd a siwgr eisin.

Gratwyr

mae un â phedair ochr yn ddelfrydol ar gyfer caws a llysiau, tra bod y gratwyr fflat (boed yn fain neu yn fras) yn addas iawn ar gyfer sinsir.

Taclau malu

pestl a morter a melinau halen a phupur.

Gwasg

ar gyfer lemwn a ffrwythau sitrws eraill

Taclau Mesur

Jygiau mesur; clorian pwyso; oriawr i amseru; a chasgliad o lwyau mesur.

Sosbannau

Awgrymwn set a wnaethpwyd o alwminiwm trwchus, oherwydd eu bod yn ddibynadwy, ac yn gallu dod i ben â gwaith caled. Maent hefyd yn enwog am eu cryfder ac am drosglwyddo gwres yn dda.

Dysglau Caserol

Byddai'n ddoeth i fuddsoddi mewn dysgl gaserol drom o safon, a all gael ei defnyddio naill ai yn y ffwrn neu ar y pentan.

Tuniau Rhostio

mae'n bwysig iawn i brynu tuniau cadarn na fydd yn plygu yng ngwres y ffwrn.

Sosbannau Stemio

mae stemio yn ffordd iachus o goginio. Mae'r sosban-stemio dwbl yn ddelfrydol i stemio pwdinau, mae stemiwr-padell yn dda ar gyfer llysiau ac mae sosban-stemio bambw yn arbennig ar gyfer pysgod ac amryw ryseitiau o'r Dwyrain.

Taclau Pobi

Rholbren syth (heb ddolen), torwyr (ar gyfer pasteiod, bisgedi a phiciau-ar-y-maen), brwsys (na ddylai byth fynd i fewn i'r peiriant-golchi-llestri!), tuniau a hambyrddau pobi (a ddylai fod yn gryf i osgoi plygu), rhesel wifr (i adael i'r bara, teisennod, pasteiod a.y.y.b i led-oeri) a thorrwr latis.

Byrddau Torri

mae plocyn torri cigydd, un trwchus, yn ddelfrydol i dorri cig a llysiau, ac mae bob amser yn ddefnyddiol i gael plocyn teneuach wrth law ar gyfer torri caws

DYFEISIAU


Ymysgyddion (Blenders)

mae'r rhai gorau â'u llafnau'n cyrraedd y gwaelod er mwyn sicrhau cymysgedd llyfn o'r cynhwysion.

Prosesydd Bwyd

mae arbed llawer o'ch amser gan ei fod yn torri, rhygnu, sleisio, tylino a chymysgu yn gyflym ac yn drwyadl. Rhaid cyfarwyddo â'r peiriant hwn gyntaf er mwyn cael y gorau ohono.

Gwneuthurwr Bara

Nid oes dim byd gwell na bara cartref, ac mae'r teclyn hwn yn cymryd y drafferth allan o wneud bara. Hefyd gall wneud toes ar gyfer ryseitiau eraill fel pizza, ac ati.

Chwythlamp (Blowtorch)

Delfrydol ar gyfer crême brûlée ac i roi sglein ar ddarnau o gig wedi'u marinadu.

Chwisg Llaw Trydan

teclyn hanfodol i'r gegin sy'n berffaith ar gyfer gwneud gwyn wy ysgafn fflwfflyd, hufen a mayonnaise.
MWY
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI