dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas

DARPARWYR BWYDYDD

SAFLEOEDD CHWILIO CYFFREDINOL


Wedi ei sefydlu ym 1992, mae Cegin Cymru yn cynnig dewis eang o gynnyrch Cymreig y gellir eu prynu ar lein, gan gynnwys siocled, cawsiau ac hyd yn oed hamperi llawn. Hefyd, mae ganddynt siopau ar draws Cymru, ystafelloedd te a thy bwyta: ceir y manylnion ar y safle we isod.
www.welsh-food.com

Dewch o hyd i bopeth, o ryseitiau i ffeiriau bwyd lleol a rhestr o gyflenwyr yn foodwales.com, safle we wedi ei gynllunio'n graff gan Awdurdod Datblygu Cymru. Gallwch ddilyn trywydd caws' trwy ddefnyddio'r map rhyngweithiol, neu drefnu noswaith arbennig trwy ddewis lle bwyta sydd wedi'i gymeradwyo gan Blas ar Gymru'. Mae'r safle hwn yn llawn-dop o wybodaeth, newyddion a hyd yn oed yn cynnwys llyfrgell o gyhoeddiadau!
www.foodwales.com

a'r safleoedd cysylltiedig: www.cheesewales.com | www.tasteofwales.com

Mae gan gwmni Welsh Food Traders restr fychan o gyflenwyr Cymreig, sy'n cynnig nwyddau ffres fel cig eidion, cynhyrchion llaethdy, nwyddau sych a bwydydd wedi'u puro â mwg. Mae gan y cyflenwyr hyn safleoedd we cymwys, a gellir archebu ar lein.
www.welshfoodtraders.com

Nid bwyd yn unig sydd ar gael ar safle we Wales Direct, sy'n cael ei rhedeg gan bobl busnes Cymreig, ac a enillodd wobr "e-commerce" ym 2002 am fod y masnachwr rhanbarthol gorau. Mae'r dewis o gynhyrchion sydd ar gael ar y safle yn tyfu o hyd, ac ymfalchïant eu bod yn dethol nwyddau oddi wrth gyflenwyr Cymreig.
www.wales-direct.co.uk

Er mwyn darganfod pa gyflenwr bwydydd ffres sydd agosaf atoch, gallwch ymweld â safle we 'Big Barn'. Os ydych yn rhoi eich côd-post, a'r pellter y byddwch yn fodlon teithio, bydd y peiriant chwilio yn cynnig yr opsiynau i chi. Mae hwn yn declyn defnyddiol, sy'n rhoi'r manylion angenrheidiol am y gwahanol gwmnïau.
www.bigbarn.co.uk

Safle chwilio arall i ddod o hyd i gyflenwyr lleol yw:
www.foodfirst.co.uk/suppliers.htm

Mae'r cyswllt hwn yn dod o'r cylchgrawn ar lein 'The Foody', sydd â'r nod i hybu cyflenwyr a chynhyrchwyr bwyd lleol ledled Prydain ac Iwerddon. Mae'n rhoi manylion am rai cynhyrchwyr Cymreig:
www.thefoody.com/regions/walesproduce.html
MWY
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI