AMRYWIOL
Mae cwmni bychan 'Savages' yn cael ei rhedeg gan wr a gwraig ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri. Maent yn arbenigo mewn gwneud jamiau yn y ffordd draddodiadol, sy'n golygu eu bod yn rhydd rhag blasau a lliwiau annaturiol.
www.astorr.freeserve.co.uk/savageshome.htm
Weithiau fe ddymuna pobl droi eu dwylo at dyfu eu cynnyrch eu hunan, i gael cyffyrddiad personol i'w prydau. Os dymunwch dyfu ffrwythau eich hunan, fe all y cwmni 'Welsh Fruit Stocks' gynnig planhigion ffrwythau-meddal i'ch cynorthwyo. Gan fod hwn yn gwmni bychan teuluol, weithiau mae'r galw yn uwch na'r hyn sydd ganddynt mewn stoc, felly maeĂȘn ddoeth i archebu'n gynnar i osgoi cael eich siomi.
www.welshfruitstocks.co.uk
