dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas

DARPARWYR BWYDYDD

PETHAU MELYS


Ar gyfer y sawl ohonoch sydd â dant melys, mae 'na safle we sy'n hawlio sylw! Wedi ei lleoli yng Nghwmfelin, bydd cwmni Celtic Cakes yn dosbarthu cacennau a danteithion yn uniongyrchol i'ch drws. Gallwch hefyd ddanfon cacen fel anrheg, ac mae'n debyg bod eu cynnyrch cystal nes bydd rhai bobl yn credu eich bod wedi eu gwneud eich hunan!
www.celticcakes.com

Lleolir cwmni 'Sweets in Bloom' yn Hengoed, Morgannwg, ac maent yn dosbarthu tuswau o felysion fel anrheg wahanol i dusw blodau! Trefnir y melysion mewn cynllun pert, megis blodau, yn ôl gofynion y cwsmer, ac fe'u dosbarthir i unrhyw gyfeiriad ym Mhrydain. I gael mwy o fanylion, neu dderbyn llyfryn am ddim, cliciwch ar y linc isod:
www.sweetsinbloom.co.uk

Gyda dewis o dros 100 o wahanol fathau o siocled, mae Capel Chocolates yn cynnig gwasanaeth gwerthfawr i garwyr siocled yng Nghymru a'r byd. Mae gan y cwmni bychan, teuluol hwn ddewis mawr o fathau annisgwyl o siocled, gan gynnwys siocledi organig, fegan a di-siwgr. Gwneir y siocledi â llaw, gan ddefnyddio cynhwysion o ardaloedd ar draws y byd.
www.chapelchocolates.com/system/index.html

Mae'r cwmni 'Original Welsh Pantry' wedi darparu melysion, bisgedi a jamiau wir Gymreig i siopau ers dros 20 mlynedd. Mae pob un o'u cynhyrchion ar gael i unigolion eu prynu, neu fe allwch ddewis hamper, o'r tri maint gwahanol sydd ar gael.
www.theoriginalwelshpantry.co.uk/index.htm
MWY
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI