MARCHNADOEDD A STONDINAU
Fe allwch gael rhestr cynhwysfawr o'r marchnadoedd yng Nghymru oddi wrth gynghrair cenedlaethol marchnadoedd y ffermwyr. Fel yr eglura'r safle, y disgwyl yw bod y stondinwyr wedi tyfu, magu, dal, piclo, bragu neu bobi'r nwyddau eu hunain. Y pwyslais yw ar wneud lles i'r gymuned leol wrth helpu cynhyrchwyr lleol i werthu eu nwyddau yn agos i'w cartrefi.
www.farmersmarkets.net/visit/counties/wales/default.htm
Mae'r linc yma, un arall o'r cylchgrawn ar lein 'The Foody', yn rhoi manylion am farchnadoedd ffermwyr ledled Cymru:
www.thefoody.com/regions/walesfm.html
Ers 1919 mae Sefydliad y Merched wedi trefnu marchnadoedd mewn trefi a phentrefi ledled y wlad i werthu nwyddau a gynhyrchwyd gartref. Er mwyn darganfod yr un agosaf atoch, a phryd mae'n cael ei gynnal, edrychwch ar y bas-data isod, sy'n rhestru'r marchnadoedd fesul sir.
www.wimarkets.co.uk
Efallai y synnai rhai i ddarganfod fod gan brifddinas Cymru ei marchnad ffermwyr hi ei hunan, wedi ei lleoli yn ardal Riverside. Ceir yma ddewis eang o gynnyrch, gan gynnwys rhai organig. Ar hyn o bryd cynhelir y farchnad ar ddydd Sul cyntaf pob mis (heblaw Ionawr) rhwng 10 a 2, ond y bwriad yw i gynnal marchnad wythnosol rywdro yn fuan. Bydd mwy o wybodaeth ar safleêr we, sy'n cynnwys dyddiadau'r farchnad.
www.riversidemarket.org.uk
