BWYDYDD ORGANIG
Mae bwydydd organig yn ddewis fwyfwy poblogaidd, ac os ydych chi'n dilyn y duedd hon, byddwch yn dod o hyd i gig, ieir, llysiau a ryseitiau hefyd ar safle we 'Cambrian Organics'. Mae'r cwmni'n cael ei rhedeg gan ffermwyr sy'n frwdfrydig am eu dulliau hwy o gynhyrchu bwyd, ac maent yn cynnig talu'r arian yn ôl os nad yw'r cwsmeriaid yn fodlon. Dosbarthir yr archebion yn syth i'ch drws.
www.cambrianorganics.com
Yn enillydd nifer o wobrwyon, mae Fferm y Graig wedi bod yn cynhyrchu nwyddau organig ers degawd, gan arloesi gyda chig organig a bwydydd eraill. Cynhyrchir y cig a nwyddau o'r llaethdy mor agos i fferm y Graig ag sy'n bosibl. Maent yn cynnig siop ar lein, ac hefyd yn darparu gwledd o wybodaeth fanwl am gynnyrch organig.
www.graigfarm.co.uk
Mae Canolfan Gig ‘Welsh Hook’ hefyd wedi ennill nifer o wobrwyon am gig organig, sydd wedi’i gynhyrchu yn ei safle yn Sir Benfro ers 1989. Maent yn dosbarthu darnau ffres o gig eidion, oen, ieir a chig moch, yn ogystal â selsig organig arbenigol. Dosbarthir y cig wedi’i oeri a / neu wedi’i baco dan wactod.
www.welsh-organic-meat.co.uk
Wedi iddynt dderbyn statws organig ym 2001, fe aeth cwmni 'Welsh Farm Organics' ati i ymateb â'r gofyn am gig eidion ac oen o safon. Mae'r cynnyrch o'u cartref ym Mochdre yn organig, cant y cant, ac mae'n bosibl ei olrhain yn gyfangwbl.
www.welshfarmorganics.co.uk
Fe ddechreuwyd y llaethdy organig cyntaf ym Mhrydain ar fferm ym Mrynllys, ger Aberystwyth, tua 50 mlynedd yn ôl. Nid yw'n syndod i glywed bod eu poblogrwydd wedi tyfu'n sylweddol gyda'r galw fwyfwy am gynnyrch organig. Mae 'Rachel's Organic' yn darparu llaeth, menyn, hufen a iogwrt i'r rhan fwyaf o siopau ac uwchfarchnadoedd. Gweler y safle we am fwy o wybodaeth.
www.rachelsorganic.co.uk
Mae Gwneuthurwyr Caws Llanboidy yn cynnig cawsiau organig a thraddodiadol a gynhyrchir allan o laeth an-basteureiddiedig oddi wrth eu buches arbennig eu hunain o wartheg moelion coch (gwartheg Red Poll). Mae pob caws yn addas i lysieuwyr, ac yn rhydd o unrhyw gynhwysion annaturiol. Nid yw'n syndod y dyfarnwyd iddynt Fedal Aur yng Ngwobrwyon Cawsiau Prydeinig yn 2001.
www.aran-lamb.co.uk
Mae Gwneuthurwyr Caws Llanboidy yn cynnig cawsiau organig a thraddodiadol a gynhyrchir allan o laeth an-basteureiddiedig oddi wrth eu buches arbennig eu hunain o wartheg moelion coch (gwartheg Red Poll). Mae pob caws yn addas i lysieuwyr, ac yn rhydd o unrhyw gynhwysion annaturiol. Nid yw'n syndod y dyfarnwyd iddynt Fedal Aur yng Ngwobrwyon Cawsiau Prydeinig yn 2001.
www.llanboidycheese.co.uk
Caws Cenarth yw cynhyrchydd caws 'Caerffili' hynaf Cymru. Fe ddefnyddir eu llaeth organig eu hunan i gynhyrchu sawl math o gaws - pob un yn addas i lysieuwr - sydd wedi ennill llu o wobrwyon.
www.cawscenarth.co.uk
