CIG
Gallwch brynu cig Cymreig o safon oddi wrth fferm Dolwen, ger Abergele, a hynny am brisiau rhesymol. Pe bai angen, gall pob darn o gig gael ei olrhain. Yn ogystal, mae ganddynt sawl stondin syên gwerthu eu cig yn ffres mewn marchnadoedd ar draws y Gogledd a Glannau'r Mersi.
www.dolwenfarmshop.co.uk
Fe ddaeth pum ffermwr o Fro Dyfi at ei gilydd ym 1998 i sefydlu eu cwmni eu hunain i farchnata eu cynnyrch. Y canlyniad oedd un o'r cwmnïau cyntaf i werthu cig Cymreig lle gellwch archebu trwy'r post. Eu hamcan yw gwerthu cynnyrch o'r safon uchaf am bris rhesymol yn syth iêr cwsmer. Ni ddylai unrhywun sy'n hoffi blas oen Cymreig anwybyddu'r safle hwn!
www.welshlambdirect.co.uk
Mae'r cigydd 'Edwards of Conwy' wedi ennill gwobrwyon ar lefel Ewropeaidd, ac wedi cael sylw yn y Sunday Times a'r Daily Telegraph. Mae'n cyflogi cigyddion o safon a phrofiad, ac maent hwy'n cydweithio â dau gogydd er mwyn datblygu syniadau a ryseitiau newydd.
www.edwardsofconwy.co.uk
Mae Fferm Caerlan ger Tonyrefail yn darparu cig oen ffres i Dde Cymru, ac yn uniongyrchol i'ch cartref. Fe aned bob un o'r oen y tu-allan, lle yr arhosant i bori yn y caeau gyda'u mamau. Mae gan Fferm Caerlan braidd pedigrî o Ddefaid Mynydd Cymru, yn ogystal â phraidd o ddefaid croesfrîd.
www.caerlanfarm.co.uk
Fe werthir cig gan fferm Oakwood Park sy'n dod o fuchesau o wartheg, moch a defaid sy'n rhydd i borfáu ar lethrau Eryri. Yn ogystal â gwerthu'r cig mae'r safle we yn cynnig sawl rysáit ysbrydoledig. Fodd bynnag, ceir hefyd rybudd ar y safle:- unwaith y cewch flas ar gynnyrch fferm Oakwood Park, does 'na ddim troi'n ôl!
www.oakwoodparkfarm.co.uk
Ers 1939 mae'r cigydd teuluol, Owen Glyn Owen a'i feibion, wedi gwasanaethu gwestai, bwytai a chartrefi ar draws Gwynedd. Ymysg eu cynnyrch, fe welir cig moch hallt, cig a ieir a gynhyrchwyd yn lleol, a selsig cartref sydd wedi ennill gwobrau.
www.gwynedd.net/caernarfon/ogo
