dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas

DARPARWYR BWYDYDD

DIODYDD


Mae cwmni 'Celtic Spirit' o'r Fenni yn cynnig chwisgi a brandi Cymreig, sydd wedi ennill gwobrwyon. Mae'n bosibl archebu eu cynnyrch ar y safle we, lle gwelwch hefyd rhestrau cynhwysfawr sy'n dangos y mannau lle mae eu nwyddau ar werth, a dyddiadur sy'n dweud ym mha sioeau y byddant yn arddangos.
www.celticspiritco.sageweb.co.uk/default.htm

O'u pencadlys ym Martletwy, Sir Benfro, fe gynnig Gwinllan Cwm Deri ddewis da o ddiodydd meddwol safonol, gan gynnwys gwinoedd coch, gwyn a rosâ, ac hyd yn oed medd traddodiadol. Gallwch archebu pob un trwy y safle we, neu chwilio i ddarganfod cyflenwr lleol.
www.cwm-deri.co.uk

Y winllan fasnachol fwyaf yng Nghymru yw'r un yn Llannerch, ger Hensol ym Mro Morgannwg. Mae'r gwinoedd 'Cariad' wedi ennill sawl wobr a chymeradwyaeth y beirniaid. Gallwch brynu'r poteli yn siopau Asda neu Sainsbury's ledled Cymru, neu archebu'n syth oddi wrth y winllan.
www.llanerch-vineyard.co.uk/CariadWines.htm

Ar safle gwinllan fasnachol fawr yn y Gogledd ceir cwmni 'Worthenbury Wines' o Wrecsam. Mae'r busnes yn gymharol newydd, felly nid yw'r dewis yn eang eto, ond mae'r nifer o wobrwyon a enillwyd eisoes yn golygu bod sawl cynhaeaf (vintage) wedi'u gwerthu allan yn barod.
www.worthenburywines.co.uk

Pan yn ymweld â safle we "un o ddistyllfeydd ifancaf y byd", fe welwch ôl-gyfrifiad yn nodi faint o amser fydd tan i'w chwisgi gyrraedd y siopau. Mae gan gwmni 'Welsh Whisky' ddistyllfa bwrpasol yng nghanol Bannau Brycheiniog, ac er na allwch brynu eu cynnyrch eto, mae ymweld â'u safle we lliwgar a llawn gwybodaeth yn ffordd ddymunol i dreulio amser.
www.welsh-whisky.co.uk

Ceir isod linc sy'n rhoi manylion cysylltu â bragwyr Cymreig o gwrw traddodiadol. Dros y blynyddoedd diwetha' gwelwyd tranc nifer o fragwyr a leolwyd yng Nghymru, ac felly mae angen cefnogaeth ar y rhai sydd wedi goroesi. Felly i lawr â fe!
www.gwentcamra.org.uk/wlshbrew.htm
MWY
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI