dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
honey picture

MÊL

Gall llwyaid o fêl helpu i leddfu poen llwnc tost, a hefyd mae’n cynorthwyo moddion ar gyfer annwyd, peswch a’r ffliw.

MÊL A CHOGINIO

  • Wrth gwrs mae mêl yn gyfrwng melysu naturiol, sydd â’r fantais ychwanegol ei fod yn rhydd o saim, colesterol, ac â llai o galorïau na siwgr. Yn wir, hyd nes darganfod siwgr yn y 15fed Ganrif, mêl oedd yr unig gyfrwng melysu ar gael. Ers dechrau’r 20fed Ganrif mae siwgr wedi bod ymhell ar y blaen ar gyfer melysu bwydydd, ond yn y gorffennol yr oedd yn foethusbeth oherwydd trafferthion teithio i’w nôl.


  • Bellach, mae siwgr wedi cymryd lle mêl fel y deunydd ar gyfer melysu bwyd a diod, gan ei fod yn rhad ac yn hawdd i’w gael. Ond nid yw hynny’n golygu na ellir defnydio mêl ar gyfer coginio. Gan fod mêl yn felysach na siwgr, dylid ei ddefnyddio mewn meintiau llai: ond os ydych yn arbrofi â’i ddefnyddio am y tro cyntaf, mae’n awgrym da i ddilyn ryseitiau sydd wedi’u datblygu’n arbennig ar gyfer mêl.


  • Os ydych am ddefnyddio mêl yn lle siwgr mewn rysáit, byddai’n syniad i ddefnyddio hanner maint y siwgr sy’n cael ei awgrymu, a rhoi ychydig o fêl yn ei le. Gydag ychydig o arbrofi, bydd yn bosibl i ddod o hyd i’r maint cywir o fêl a chael gwared o’r siwgr yn gyfangwbl.


  • Cofiwch fod y pumed rhan o fêl yn ddwr, ac o ganlyniad dylech ostwng maint yr hylif yn y rysáit. Mae gan fêl y rhinwedd o dynnu dwr ato, sy’n ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer pobi teisennod oherwydd y bydd y lleithder yn cael ei gadw yn y cymysgedd yn hirach.


  • Dylid cadw mêl ar dymheredd yr ystafell ac nid yn y rhewgell oherwydd bydd ei oeri yn cyflymu’r proses o grisialu (h.y. pan fo’r mêl yn troi’n niwlog). Dyma’r ffordd naturiol i fêl hylif droi’n soled, ac mae’n gwbl ddi-niwed. Gellid troi’r mêl yn ôl yn hylif drwy roi’r jar mewn ychydig o ddwr twym a throi’r mêl i gael gwared ar y crisialau. Fel arall, gellid rhoi’r mêl yn y meicrodon am sawl cyfnod o 30 eiliad, a’i droi nes bod y crisialau yn toddi. Cymerwch ofal i beidio â berwi neu or-dwymo’r mêl, oherwydd byddai hynny’n ei ddifetha.


  • Ni ddylid bwydo mêl i fabanod o dan blwydd oed. Mae hyn oherwydd y gall mêl gynnwys sborau bacteria, a all achosi botwliaeth fabanod (Infant Botulism), afiechyd anarferol ond peryglus sy’n ymosod ar system nerfol babi. Nid yw’r sborau hyn yn effeithio oedolion na phlant dros flwydd oed.


  • Defnyddir mêl mewn sawl ffordd pan yn coginio. Mae’n gymorth i dyneru cig pan yn gynwysedig mewn marinâd ac mae’n ychwanegu blas ‘barbeciw’ sylweddol i fwydydd pan mae’n carameleiddio tra’n coginio. Fe weithia mêl yn dda mewn bwydydd tro-ffrio, melysfwydydd, te, coffi, sawsus, dresins a barbeciwiau.


  • Ers miloedd o flynyddoedd, mae mêl wedi bod yn gynsail i rediad o diodydd meddwol. Mae yfwyr wedi mwynhau amryw fathau o gwrw-mêl ar hyd yr oesoedd, ond y ddiod a ddaw o fêl sydd â’r enw gorau yw gwin-mêl, sy’n adnabyddus hyd heddiw fel ‘medd’.


  • Roedd medd (‘Neithdar y duwiau’ chwedl y Groegiaid) yn boblogaidd tu-hwnt yn nheyrnas Elizabeth I, ac fe’i cynigir o hyd mewn tafarndai ar gyrion deheuol Lloegr.


  • Fe gynhyrchir medd o fêl ysgafn wedi’i fragu â sbeisys megis sinamon a nytmeg. Mae’r eplesu’n parhau am o leiaf 12 mis cyn bod y medd yn barod i’w yfed.


  • Roedd gan y Cymry liqueur wedi’i seilio ar fêl o’r enw metheglin: rhoddwyd blas i’r ddiod gan berlysiau, a dywedir iddi fod yn gryf iawn!
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY