
MÊL
Gall llwyaid o fêl helpu i leddfu poen llwnc tost, a hefyd maen cynorthwyo moddion ar gyfer annwyd, peswch ar ffliw.
YNGLYN Â MÊL
MÊL A LECHYD
- Mae mêl yn ffynhonnell gryno naturiol o egni, syn bwydor corff dynol yn gyflym â daioni maethlon ac yn gallu rhyddhau teimladau o flinder. Maen dda felly i roi hwb cyn, yn ystod, neu ar ôl cyfnod o ymarfer corff. Mae ein cyrff yn codiu hegni o glwcos (siwgr y gwaed, a adwaenir hefyd fel decstros) ac mae digonedd o hwn mewn mêl, sydd fellyn cael ei amsugnon gyflym. Fel canlyniad, ystyrir mêl yn donnig naturiol.
- Felly mae mêl yn boblogaidd fel rhan o frecwast, neu fel rhan o fyrbryd / diod cyn ymarfer corff. Trwy fwyta mêl yn ddyddiol, gellir hybur nifer o faetholion llesol yn y corff. Gellid arllwys ychydig dros ffrwythau ffres, grawnfwyd brecwast ynteu iogwrt, neu hyd yn oed gymysgu llond llwy-de o fêl i gwpan o ddwr poeth â sudd hanner lemwn. Fel arall, gellir bwyta llond llwy-de o fêl yn syth or jar!
- Mae mêl yn cynnwys nifer o fitaminau gwahanol (B6, thiamine, riboflavin, pantothenic acid); mwynau (calsiwm, copr, haearn, magnesiwm, manganîs, ffosfforws, potasiwm, sodiwm, zinc); sawl asid amino a rhai cemegau syn gweithio fel gwrthocsidyddion gan gynnwys un or enw pinocembrin sydd ond iw ddarganfod mewn mêl. Gweithia gwrthocsidyddion i atal cancr, clefyd y galon a strôcs.
- Dywedir bod pobl syn dioddef o glefyd y gwair yn gallu bwyta mêl er mwyn adeiladuu himiwnedd yn erbyn paill. Er bod paill yn bresennol yn y mwyafrif o fathau o fêl, mae e wedii gymryd allan o fêl hylif hidledig.
- Gall bwyta mêl fod o les ir system dreulio, yn enwedig pan fo un yn dioddef o ddolur rhydd, gan ei fod yn distrywor bacteria syn achosir salwch. Mae mêl yn rhwystro twf bacteria niweidiol eraill, gan gynnwys Salmonella, Eschericia Coli (E-Coli), Shigella (syn achosi dysentri) a Vibrio Cholerae (syn achosi colera). Gan fod mêl yn denu dwr tuag ato, maen sugnor lleithder o amgylch y rhannau heintiedig or corff, ac felly yn lladd y bacteria drwy eu sychu.
- Mae mêl o gymorth hefyd pan yn trin briwiau (ulcers). Mae gwyddonwyr wedi darganfod bod bwyta mêl yn ddyddiol yn gallu atal twf Helicobacter Pylori (syn gyfrifol am sawl math o friw) o fewn tridiau. Yn ogystal mae gwyddonwyr wedi gweld fod mêl yn gweithion dda fel antiseptig i drin mân llosgiadau ac anafiadau, gan ei fod yn atal heintiau ac yn cyflymur broses o iacháu.
- Mae mêl yn gynhwysyn manteisiol ar gyfer cadw croen a gwallt yn iach ac yn wir dyma un or cosmetigau naturiol hynaf. Dywedir bod Cleopatra wedi bathio mewn llaeth asynnod a mêl er mwyn cadwi chroen i edrych yn ifanc, tra bod cwmnïau cosmetig heddiw yn cynnwys mêl mewn cynnyrch fel hufennau lleithio a glanhau.
- Gall llwyaid o fêl helpu i leddfu poen llwnc tost, a hefyd maen cynorthwyo moddion ar gyfer annwyd, peswch ar ffliw. Yn ogystal, mae gan fêl dipyn o haearn ynddo, ac felly maen gwneud lles i unrhywun syn dioddef o ddiffyg gwaed.
- Yn gyffredinol, mae mêl yn hybu ffyniant a iechyd da. Fodd bynnag, ceir un fath arbennig sydd wedi dod ir amlwg yn ddiweddar fel yr un mwyaf llwyddiannus o safbwynt defnyddio mêl ar gyfer ei rhinweddau iacháu, sef Mêl Manuka Actif Active Manuka Honey. Yn deillio o Seland Newydd, mae rhinweddaur mêl hwn wedi denu diddordeb sawl ymchwilydd meddygol, yn ogystal â nifer o raglenni teledu, â phob un wedii synnu gan y rhyfeddod naturiol hwn.
- Fe ddaw mêl Manuka actif o neithdar a phaill y blodau syn tyfu ar lwyn Manuka yn Seland Newydd. Maer llwyni hyn yn tyfun wyllt ar hyd a lled Seland Newydd, ac yn ffynnu yn awyr lân y wlad. Maer prinder llygredd hefyd o les i ddatblygiad y mêl.
- Maer gwahaniaeth rhwng mêl Manuka actif ac un cyffredin yn dibynnu ar rinwedd a elwir UMF Ffactor Unigryw Manuka. I benderfynu a ywr mêl yn actif ceir arbrofion yn labordai Uned Ymchwil Mêl, ym Mhrifysgol Waikato yn nhref Hamilton, Seland Newydd. Caiff pob mêl syn cynnwys UMF raddfa i ddangos pa mor weithredol yw. Po fwyaf y rhif ar y raddfa, mwyaf yw gallur mêl i ymladd bacteria. Nid oes graddfa gan fêl Manuka cyffredin, ac felly nid yw hwn yn fwy effeithiol nag unrhyw fêl cyffredin arall.
- Mae gan fêl Manuka actif yr un rhinweddau positif â mêl cyffredin, ond y maen llawer mwy effeithiol. Er enghraifft, fei defnyddir i drin amryw o afiechydon y croen gan gynnwys ecsema, psorïasis ac acne. Yn ychwanegol, mae mêl Manuka actif o ddefnydd wrth drin amrywiaeth o heintiau syn deillio o facteria neu ffwng.
- Yr un sydd wedi gwneud y rhan fwyaf o ymchwil i fewn i rinweddau iacháur mêl arbennig hwn yw Dr Peter Molan o Brifysgol Waikato. Maer ymchwil yn parhau, ac mae Dr Molan hyd yn oed wedi datblygu gel wedi ei wneud yn gyfangwbl o fêl manuka actif, fel triniaeth ar gyfer anafiadau a llosgiadau.
