dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
honey picture

MÊL

Gall llwyaid o fêl helpu i leddfu poen llwnc tost, a hefyd mae’n cynorthwyo moddion ar gyfer annwyd, peswch a’r ffliw.

MALINELLIAD O HANES MÊL

  • Ers miloedd o flynyddoedd, ers y diwylliannau cynharaf, mae dynoliaeth wedi chwiwladrata mêl o nythfeydd gwenyn cyfagos. Mae cymryd cynhaeaf o fêl yr un mor hen â hanes ysgrifenedig, gan fod llawysgrifau’r hen Eifftiaid, y Groegwyr a’r Rhufeiniaid yn llawn cyfeiriadau at fwynhau mêl.


  • Yn Sbaen, ceir darluniau mewn ogofâu sy’n dangos y proses o gadw gwenyn er mwyn cynaeafu’u mêl. Mae’r rhain yn dyddio nôl rhyw 7000 o flynyddoedd. Ond mae’r cofnodion cynharaf o wenyn mewn ffosilau yn ymestyn nôl mor bell â 150 o filiynau o flynyddoedd ­ sy’n dangos yn glir bod mêl yn dyddio nôl ymhell cyn dyfodiad dynoliaeth.


  • Bron i bedwar mil o flynyddoedd yn ôl, roedd yr Eifftiaid yn defnyddio mêl yn rheolaidd fel cyfrwng i roi blas melys i lawer o’u bwydydd. Roeddent hefyd yn ystyried bod rhinweddau iacháu gan fêl, a olygai iddynt roi gwerth uchel arno. Yn wir, roedd ganddo le pwysig yn eu diwylliant wrth iddynt gysylltu mêl â genedigaeth (roedd bwyta mêl yn rhoi’r egni a’r ffrwythlondeb angenrheidiol i feichiogi) a marwolaeth (roedd mêl yn un o gynhwysion pwysig hylif embalmio).


  • Yr Eifftiaid hefyd a ysgrifennodd gyntaf am gadw gwenyn mewn cychod er mwyn cynhyrchu mêl. Fe ddaw y cofnod cynharaf o 2400 CC, bron i bedair mil a hanner o flynyddoedd yn ôl.


  • Roedd yr Eifftiaid yn rhoi cymaint o werth ar fêl nes iddynt ei gynnig fel rhodd i’w duwiau, neu mewn teyrnged i’r uchelwyr yn eu cymdeithas. Yn ychwanegol, defnyddiwyd mêl fel rhyw fath o ‘arian parod’, ac fe’i rhoddwyd i anifeiliaid a ystyrid yn gysegredig i’r Eifftiaid.


  • Fe gynigai’r Hen Roegiaid fêl i ysbrydion y meirw ac fel teyrnged i’w duwiau, gan eu bod yn credu bod mêl yn gyfran o ymborth priodol y duwiau. Honnodd eu diwinyddiaeth fod Zews (brenin y duwiau Groeg) wedi cael ei fagu ar neithdar mamwenyn. Felly fe gyfeiriwyd at fêl fel ‘Ambrosia’, sy’n golygu ‘Bwydydd y duwiau’.


  • Hefyd, roedd yr hen Roegiaid yn ystyried mêl yr un mor bwysig i ddynion, nid yn unig fel ffynhonnell faetholion, ond hefyd am ei rinweddau meddyginiaethol a fferyllol. Yn ychwanegol, credir mai’r hen Roegiaid oedd y cyntaf i wneud medd, diod feddwol a wnaethpwyd o fêl ac a gyfeiriwyd ato fel ‘neithdar y duwiau’.


  • Gyda mêl yn cymryd rhan mor flaenllaw mewn coginio a melysfwydydd y Groegiaid, roedd Hippocrates, ‘Tad Meddyginiaeth’, yn hybu’i ddefnydd i wellha amryw o afiechydon. Fe ychwanegodd yr athronydd a’r gwyddonydd Aristotle y syniad bod cymryd mêl yn gymorth i fywyd mwy iachus, ac felly bywyd hirach.


  • Roedd mytholeg y Groegiaid (a’r Rhufeiniaid yn ddiweddarach) yn dweud fod Eros, duw cariad, yn trochi’i saethau mewn mêl cyn eu saethu at galonnau cariadon diarwybod. Enw’r Rhufeiniaid am Eros oedd Cupid, ac roedd ganddynt ddihareb boblogaidd a ddywedai : "Wraig, mwytha dy wr â mêl a byddi’n meddiannu ei galon!"


  • Fe ddatblygodd y Rhufeiniaid wenynyddiaeth gymaint nes iddi ddod yn ddiwydiant gwledig o bwys trwy gydol eu hymerodraeth. Fe barodd y lledaeniad o wenynfeydd (sef cynulliad o gychod gwenyn) i sicrhau bod casglu mêl yn ffynnu yn rhan fwyaf o’r byd a goncrwyd gan y Rhufeiniaid.


  • Mae’r Beibl (yn yr Hen Destament, Exodus 3:8) yn cyfeirio at ardal Palesteina fel "gwlad yn llifeirio o laeth a mêl".


  • Fe ffynnodd diwydiant cynhyrchu mêl a chwyr gwenyn gyda thyfiant yr Eglwys Gristnogol, a’r galw am gyflenwad o gwyr i wneud canhwyllau i’r eglwysi. Dros y canrifoedd nesa, fe dyfodd y galw am fêl fwyfwy, ac fe ffynnodd y diwydiant cadw-gwenyn.


  • Sawl canrif yn ddiweddarach, fe ddenodd y Byd Newydd yr Ewropeaid, gyda’r darganfyddiad o America. Wrth iddynt oresgyn y tiroedd newydd, fe synnodd y Sbaenwyr pan welsant fod gan bobloedd Mecsico a Chanolbarth America draddodiad hir o wenynyddiaeth a chynhyrchu mêl.


  • Yn y 17eg Ganrif fe aeth y trefedigion Ewropeaidd i Ogledd America â’u gwenyn-mêl gyda hwy. Yn ogystal â bwyta’r mêl, fe’i defnyddiwyd mewn amryw ffordd wahanol, er enghraifft i gynhyrchu sment, cadw ffrwythau a gwneud polish a farnais ar gyfer celfi.


  • Gwnaethpwyd llai o ddefnydd o fêl i felysu bwyd pan ddaeth siwgr ar y farchnad a dod yn boblogaidd. Fodd bynnag, ni olygodd hyn fod pwysigrwydd mêl yn lleihau. Hyd heddiw mae cogyddion ar draws y byd yn gwerthfawrogi’r cyfraniad y gall mêl ei wneud i’w prydau bwyd.
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY