
MÊL
Gall llwyaid o fêl helpu i leddfu poen llwnc tost, a hefyd maen cynorthwyo moddion ar gyfer annwyd, peswch ar ffliw.
YNGLYN Â MÊL
MÊl SUT Y'I CYNHYRCHIR?
- Ystyrir y cwch gwenyn yn un or ffatrïoedd mwyaf effeithiol ar wyneb ddaear. Er mwyn cynhyrchu un pwys o fêl, mae gofyn ir gwenyn gasglu neithdar o oddeutu dwy filiwn o flodau. Er mwyn cyflawnir gamp ryfeddol hon, maen rhaid ir gwenyn deithio pellter enfawr o gwmpas 90,000 o filltiroedd i gyd!
- Ar gyfartaledd, ni fydd un wenynen yn cynhyrchu ond 12fed ran o lwy-de o fêl yn ei bywyd, ond bydd yn ymweld â chymaint â 50 i 100 o flodau ar bob taith gasglu neithdar. Maen bosibl ir wenynen deithio hyd at 6 milltir ar ei thaith, er fod milltir neu ddwy yn fwy arferol. Maer rhifau hyn yn dod yn fwy rhyfeddol pan fyddwch yn sylweddoli y cynhyrchir un filiwn o dunelli o fêl bob blwyddyn ar draws y byd.
- Wedi ir wenynen ddarganfod ffynhonnell gyfoethog o neithdar maen dychwelyd ir cwch gwenyn ac yn hysbysur gweddill or lleoliad drwy berfformio dawns. Maer wenynen yn dangos y cyfeiriad ir blodyn mewn perthynas ir haul, ac wedyn maer math o ddawns yn dangos y pellter.
- Er mwyn ir cwch gwenyn ffynnu, maen rhaid iddo fod yn drefnus, â phob un or gwenyn âi swydd briodol. Maer drefn gymdeithasol fel a ganlyn:
Mamwenynen: brenhines y drefedigaeth, yr unig un benywaidd syn gallu cenhedlu, a mam y gwenyn eraill yn y cwch. Gall y famwenynen ddodwy dros 1500 o wyau bob dydd, a hi syn rheoli rhyw ei disgynyddion. Maer famwenynen yn byw am rwng un a thair blwyddyn.
Gwenynen Ormes (Drone): yn aml fe gyfeirir at rhain, y gwenyn gwrywol, fel y llanciau diog. Unig bwrpas y gwenyn gormes yw i gyplu âr famwenynen, ac unwaith i hynny ddigwydd maent yn marw bron ar unwaith. Bydd y famwenynen yn cyplu â chwech neu fwy o wenyn gormes dros gyfnod o sawl diwrnod.
Gweithwraig / Gwenynen weithgar: mae enw hon yn dweud y cyfan, ac mae ei chyfraniad ai phwysigrwydd yn ganolog i lwyddiant y cwch gwenyn. Y gweithwragedd syn adeiladu a chynnal y nythod allan o gwyr a gynhyrchir gan chwarennau ar eu cyrff. Y gweithwragedd syn rheoli tymheredd y nyth (33.9ºC); syn troir neithdar yn fêl drwy ymagerur dwr; ac yn amddiffyn y cwch gydau bywydau wrth ddefnyddiou colynnau (stings). Maer gweithwragedd yn gadael y cwch i gasglu neithdar, paill, dwr ac yn y blaen. Ar ben hyn i gyd maent yn gyfrifol am fwydor drefedigaeth gyfan, am lanhaur nyth ac am ofalu am yr ifanc. Gwir nad ywr unigolion yn gwneud y swyddi hyn i gyd ar yr un pryd, ond maent yn graddio o swydd i swydd, gan ddechrau fel glanhawyr, wedyn symud ymlaen i fod yn nyrsys, ac wedyn yn wneuthurwyr mêl a chwyr. Yn y diwedd maer gweithwyr yn dod yn amddiffynwyr y cwch cyn cyrraedd y swydd derfynol, o chwilota am neithdar ar y tu-allan. Mae pob trefedigaeth yn cynnwys degau o filoedd o wenyn gweithgar. Ar gyfartaledd, maer gweithwragedd yn byw am chwe wythnos, ond os ydynt yn cael eu genin hwyr yn y tymor, byddant yn byw tan y gwanwyn, am na allant weithio tan hynny. - Pwrpas cyhyrchu mêl yw i fwydor drefedigaeth dros fisoedd y gaeaf. Mae angen rhwng 20 a 30 o bwysau o fêl ar bob cwch gwenyn i bara trwy aeaf arferol, er y bydd trefedigaeth lwyddiannus yn cynhyrchu hyd at dair gwaith hynny. Y mêl ychwanegol hwn syn cael ei gasglu gan ddynion iw fwyta.
- Maer proses o gynhyrchu mêl fel a ganlyn:
- Wedi i drefedigaeth wenyn gael ei sefydlu (naill ai mewn nyth yn y gwyllt neu mewn cwch ar gyfer cynhyrchu mêl yn fasnachol) maer gwenyn gweithgar yn mynd allan i chwilota am y ffynhonnell agosaf o neithdar.
- Wedi dod o hyd ir neithdar, maer sgowtiau yn dychwelyd ir cwch i hysbysur gweddill am ei leoliad trwy wneud eu dawns a thrwy rannu blas bychan or neithdar.
- Dyma lle mae gwaith y drefedigaeth yn dechrau o ddifrif. Maer chwilotwyr yn hedfan i ffwrdd ir ffynhonnell ac yn dychwelyd gydar neithdar wedii storio mewn coden arbennig.
- Yn ôl adref, maer chwilotwyr yn dosbarthuu llwyth ir gwenyn gweithgar y tu-fewn ir cwch. Yma, fe drosglwyddir y neithdar gan y gwenyn o geg i geg nes ir rhan fwyaf o ddwr sydd ynddo ymageru, i lawr i gyfran o lai na 20%. Gydag ychwanegiad ensymau arbennig, y maer neithdar yn newid yn fêl.
- Fe roddir y mêl wedyn i mewn i gellau arbennig iw gadw (y rhain syn creur crwybr [honeycomb] maes o law) cyn cael eu selio â chap bychan o gwyr. - Ar gyfer ei ddosbarthun fasnachol, fe gymerir y mêl yn syth or "gwneuthurwyr" ai rhoi mewn jar. Felly maen blasun union yr un fath allan or jar ag yw e oddi ar y crwybr. Mae gan fêl y rhinwedd ffodus ei fod yn gynnyrch hollol naturiol, ac maer cyfuniad o dros 180 o gemegau a rhinflasau sydd ynddo yn sicrhau nad oes modd creu mêl yn artiffisial. Felly ceir cannoedd o wenynfeydd ledled y byd yn gweithio yn y ffordd draddodiadol er mwyn ateb y gofyn am fêl.
- Nid yn unig y mae gwenyn yn gyfrifol am greu cynnyrch mor arbennig ac mor naturiol, ond hwy hefyd syn bennaf gyfrifol am ein gallu i ddod o hyd i nifer fawr o fwydydd eraill. Mae gwenyn yn peillio o leiaf 80% or planhigion syn cael eu peillio gan bryfed, ac maer rhain yn gwneud i fyny trydedd rhan on hymborth. Mae angen paill ar wenyn i fwydo eu hieuainc ac wrth iddynt gasglur hyn sydd angen arnynt, maent yn lledaenur paill o un planhigyn ir nesaf, ac felly yn eu ffrwythloni. Tran chwilota am baill a neithdar, fe all un wenynen beillio o gwmpas 18,000 o flodau y dydd.
- Felly peidiwch ag anghofio bod gwenyn mêl yn cyflawni gwasanaeth rhyfeddol i ni, a byddwch yn ofalus i beidio â lladd gwenynen os ydych yn dod ar draws un. Pe bai un yn hedfan tuag atoch, peidiwch ag ofni. Nid ydynt yn ymosodol, ac eithriad yw iddynt bigo ond pan fyddant yn cael eu herio. Bydd y gwenyn yn hedfan i ffwrdd pan sylweddolant nad oes gennych unrhyw neithdar neu baill, am nad oes ganddynt ddiddordeb mewn unrhywbeth arall. Maent yn gwneud cymwynas fawr â ni, felly cofiwch fod yn gyfeillgar wrthynt!
