dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
honey picture

MÊL

Gall llwyaid o fêl helpu i leddfu poen llwnc tost, a hefyd mae’n cynorthwyo moddion ar gyfer annwyd, peswch a’r ffliw.

MÊL - Y MATHAU GWAHANOL

Er bod cynnwys mêl yn gyfangwbl naturiol, mae ei flas yn dibynnu ar y math o neithdar a gasglwyd o’r amrywiaeth helaeth o flodau sy’n ffynonellau i’r hylif melys. Gall y mêl ddod o un fath o flodyn yn unig (monofloral) neu o neithdar amryw fath o flodau (polyfloral). Yn ogystal gallwch brynu mêl a ddaw o gyfuniad o sawl ffynhonnell wahanol er mwyn creu blas arbennig, a elwir yn fêl cymysg, neu blended.

  • Ceir yn llythrennol gannoedd o wahanol flasau ar fêl oherwydd y nifer o fathau o flodau a all fod yn ffynhonnell neithdar i’r gwenyn. Felly, mae rhai mathau o fêl yn dod o dim ond un wlad arbennig oherwydd i’r blodau fod yn unigryw i’r ardaloedd hynny. Er enghraifft, yn America ceir dros 300 o fathau o fêl sy’n ond i’w cael yno. Isod ceir tabl sy’n dangos mathau gwahanol o flasau mêl ac o ba wlad maent yn dod.

    Blas / Math o Fêl Gwlad / Gwledydd eu Tarddiad
    Alffalffa UDA (Taleithiau’r Gorllewin)
    Attiki Gwlad Groeg
    Blodau Cymysg Nifer o wledydd gwahanol
    Blodeuyn Acasia Hwngari; Rwmania; Bwlgaria; Tsieina; UDA (Califfornia)
    Blodeuyn Afal Prydain
    Blodeuyn Ceirios Prydain
    Blodeuyn Leim Tseinia; Gwlad Pwyl; Prydain
    Blodeuyn Oren Sbaen; Fflorida; Mecsico
    Blodyn yr Haul Ffrainc; Sbaen
    Bysedd y Cwn (Foxglove) UDA (Oregon)
    Cneuen Gastan (Chesnut) Yr Eidal
    Draenen Wen Prydain
    Ewcalyptus Awstralia
    Groegaidd (Hymenium a Teim) Gwlad Groeg (o’r mynyddoedd)
    Grug Prydain
    Gwaglwyfen (Basswood) De Canada; UDA
    Gwenith yr Hydd (Buckwheat) UDA
    Hilo Blodeuog Trofannol Hawaii
    Lafant De) Ffrainc; Sbaen
    Lledrwydden (Leatherwood) Tasmania
    Macadamia Hawaii; Awstralia
    Manwca Seland Newydd
    Mecsicanaidd (llwyn Dzidlze) Mecsico (Penrhyn yr Yucatan)
    Meillionen Canada; Seland Newydd
    Meillionen Mefis Awstralia
    Millefiori Yr Eidal
    Mwyaren y Brain (Huckleberry) UDA (Montana)
    Rhosmari Ffrainc; Sbaen
    Saesneg (Cyfuniad o Flodau) Prydain
    Tafod yr Ych (Borage) Prydain; Seland Newydd
    Teim Gwyllt Seland Newydd; Sbaen; Gwlad Groeg; Ffrainc

    Fe ddaw mêl mewn amryw o ffurfiau gwahanol:


    Mêl hylif:

    dyma’r fath fwyaf cyffredin o fêl ac, oherwydd ei gysondeb, dyma’r fath fwyaf cyfleus i’w ddefnyddio mewn coginio.

    Mêl Chwipiedig / Hufennog:

    wedi ychydig o amser, bydd mêl hylif yn crisialu (nid yw hyn yn niweidiol). Fe ddarparir mêl chwipiedig yn y ffurf grisialog hon, a phan yw’n cyrraedd tymheredd yr ystafell gellir ei daenu megis menyn. Mae’r mêl yma hefyd yn adnabyddus fel mêl soled neu fêl caled.

    Mêl Crwybr:

    mae crwybr cwyr y gwenyn yn fwytadwy, ac felly mewn ‘mêl crwybr’ mae’r pecyn yn cynnwys y ddau.

    Mêl â Darnau o Grwybr:

    lle mae’r crwybr wedi torri mewn darnau yn y mêl.

    Mêl Talpiau:

    lle mae darnau o’r crwybr wedi’u gorchuddio mewn mêl hylif yn y jariau.

    Fel arfer mae cryfder blas y mêl yn amlwg o’i liw. Mae lliw golau yn dynodi blas mwyn tra bod mêl mwy tywyll â blas cryfach. Yr ystod o liwiau mêl yw : gwyn-dwr ­ tra gwyn ­ gwyn ­ ambr tra golau ­ ambr golau ­ ambr ­ ambr tywyll (bron yn ddu). Mae ansawdd y mêl hefyd yn amrywio rhwng ‘tenau’ a ‘thrwm’.

    Mae mêl yn gymysgedd cymhleth o siwgrau naturiol (80%) ­ yn bennaf ffrwctos a glwcos ­ dwr (18%) a fitaminau, mwynau, paill a phrotein (2%).

    Er i fêl gael ei gynhyrchu ar draws y byd, dim ond ar adegau cynhesaf y flwyddyn gellir cynaeafu mêl, pan fo planhigion yn eu blodau. Felly yn y gwledydd sydd â hinsoddau oerach, ’does ond tymor byr i gasglu mêl (er enghraifft, cyfnod o 2-3 wythnos yn unig yn y Ffindir) ac felly nid ydynt yn gallu cynhyrchu cymaint â’r gwledydd cynhesaf. Fe gynhyrcha Prydain o gwmpas 4000 o dunelli o fêl bob blwyddyn, ond mae’r Prydeinwyr yn bwyta ymhell dros 25,000 o dunelli, sy’n golygu ein bod ni’n dibynnu’n helaeth ar fewnforio o’r gwledydd sydd â thymhorau cynhyrchu hirach.
  • PYTIAU BLASUS
    RHAGLENNI
    ARCHIF RHAGLENNI
    MWY