dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
veggie picture

BWYDYDD JAMAICA

Dewch i fwynhau blas y Caribî yng nghwmni Dudley Newbery a'r athrawes a chyflwynydd radio, Beverley Lennon. Mae Bev, sydd â chysylltiadau teuluol â Jamaica, yn awyddus i gyflwyno'r cogydd i fywyd a bwyd yr ynys hardd.

BWYDYDD JAMAICA

Pan fyddwn yn meddwl am fwyd, efallai nad yw coginio Jamaica ac ynysoedd y Caribî yn neidio’n syth i’n meddyliau, yn yr un ffordd â bwydydd India, yr Eidal, neu Tsieina. Ond mae cynnyrch ceginau Jamaica yn sefyll i fyny yn erbyn y gystadleuaeth o’r gwledydd sy’n fwy adnabyddus am eu bwyd. Hwyrach bod gan yr ynys enwogrwydd am ei thraethau, â’r môr yn las fel crisial, ei cherddoriaeth reggae a’r awyrgylch hamddenol a ddaw o’i phoblogaeth lon, ond mae’r bwyd hefyd yn haeddu sylw am ei safon a’i amrywiaeth. Mae ffrwythau egsotig yn ffynnu, tra bod coffi enwog y ‘Mynydd Glas’ yn ennill clod a chanmoliaeth ar draws y byd. Dros y blynyddoedd y mae’r ryseitiau o sawl gwahanol darddiad wedi eu cymysgu i greu math o goginio sy’n gyffroes, ac yn disgwyl cael ei ddarganfod.
  • Cafodd ynysoedd India’s Gorllewin eu ‘darganfod’ gan Christopher Columbus yn ystod y 1490au, er iddynt fod yn gartref cyn hynny i lwythau Indiaidd yr Arawak a’r Carib. Roedd y llwythau hyn yn arfer sawl ffordd o goginio, ac yn creu ryseitiau a oedd â chymysgedd rhyfedd o fwydydd.


  • Roedd llwyth y Carib yn ganibaliaid, ond yn ôl haneswyr bwyd, nhw oedd y cyntaf i ddefnyddio pupurau tsili i wneud eu bwyd yn fwy sbeislyd. Ar y llaw arall, roedd llwyth yr Arawak, wedi dyfeisio ffordd i goginio eu cig yn araf, gan ei roi uwchben tân agored ar ridyll a wnaethpwyd allan o frigau tenau. Yr enw ar y dull hwn o goginio oedd barbacoa, a roddodd y gynsail a’r enw i’r hyn a alwn ni heddiw yn barbecue..


  • Cenedl heddychlon oedd yr Arawak, a ddioddefodd greulondeb a chamdriniaeth aruthrol o dan law y Sbaenwyr, a ddaeth yn agos i ddileu’r llwyth o wyneb y ddaear. I’r gwrthwyneb, roedd llwyth y Carib yn llawer mwy ymladdgar gan wrthsefyll y Sbaenwyr yn gyntaf, ac yna gyrchoedd y Ffrancwyr a’r Saeson, cyn iddynt gael eu chwalu a’u gwasgaru yn nifer o grwpiau bychain.


  • Canlyniad yr ymfudo i’r ynysoedd dros y pum canrif nesaf oedd cymysgu diwylliannau a datblygu’r ystod eang o ryseitiau sydd i’w gweld yn draddodiadol yng nghoginio Jamaica.


  • Wedi i Christopher Columbus ddarganfod ynysoedd y Caribî, fe ddaeth llif o fewnfudwyr o Sbaen, Prydain (a gymrodd feddiant Jamaica oddi wrth y Sbaenwyr ym 1655), Ffrainc, yr Iseldiroedd a nifer o wledydd eraill yn Ewrop a ddaeth i goloneiddio’r ynysoedd dros y blynyddoedd. Roedd eu traddodiadau coginio amrywiol hwy yn sicrhau eu bod yn dod â dewis o ryseitiau, cigoedd, llysiau a ffrwythau nad oeddynt gynt yn gyfarwydd yn yr ynysoedd.


  • Daethpwyd â ffrwythau a llysiau o wledydd eraill i greu cnydau a fyddai’n cynnig amrywiaeth ehangach. Er enghraifft, fe gyflwynwyd ffrwyth bara, breadfruit, ym 1793 1793 gan Capten William Bligh. (Roedd yntau wedi ceisio gwneud hynny’n gyntaf ym 1789, gan gasglu’r planhigion o’u hynys gynhenid, sef Tahiti, ar gyfer eu trosglwyddo i’r Caribî. Fodd bynnag, yn dilyn miwtini ar ei long, y Bounty, fe daflwyd y planhigion i gyd dros fwrdd y llong, ac fe roddwyd Bligh i hwylio’r cefnfor mewn llong fechan). Bellach, mae ffrwyth bara yn rhan annatod o ymborth Jamaica.


  • Fe ddaeth y trigolion yn gyfarwydd â’r bwydydd newydd hyn ac o fewn ychydig amser fe ddaethant yn rhan annatod o ddiwylliant bwyd y Caribî, gan gael eu hystyried yn gynhenid i’r ynysoedd. Yn ogystal, fe ddaeth caethweision o Affrica â’u dulliau coginio eu hunain, a chnydau fel okra, callaloo ac ackee. Bellach mae’r rhain oll yn gyffredin mewn bwydydd Jamaica a’r Caribî.


  • Yn y 19fed Ganrif roedd Prydain a Ffrainc yn dominyddu’r trefedigaethau yn y Caribî ac, erbyn 1850, cafodd caethwasanaeth ei diddymu yn eu tiriogaethau. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw wellhad yn yr amgylchiadau gweithio, a chanlyniad hyn oedd i’r cyn-caethweision - a oedd bellach yn cael eu talu am eu gwaith - ymfudo. Achosodd hyn nifer o drafferthion, yn enwedig gyda chynhyrchiad cansen siwgr, a oedd ond newydd gael ei sefydlu.


  • Llenwyd y bwlch hwn yn y farchnad llafur pan ddaeth perchnogion yr ystadau gwahanol (a gynhyrchent goffi, cansen siwgr, ac yn y blaen) â niferoedd mawr o weision o India a Tsieina. Nid oedd triniaeth y gweision hyn ddim gwell na’r hyn a ddioddefodd y caethweision o Affrica gynt. Yn anochel, fe ddaeth yr Indiaid a’r Tsieinead â’u dulliau coginio eu hunain, a gafodd eu derbyn yn fuan yn rhan arall o goginio ynysoedd y Caribî.


  • Ymddengys y dylanwadau o India a’r Dwyrain Pell yn hoffter pobl y Caribî am gyrïau, a’u hoffter o reis yn gyffredinol ac o lysiau Tsieineaidd sydd i’w gweld ar hyd a lled yr ynysoedd. Un o ffefrynnau Jamaica yw cyrri-gafr: rysáit sy’n cael ei gadw at achlysuron arbennig. Dywedir bod y pryd o fwyd wedi’i ddyfeisio pan sylweddolodd y mewnfudwyr o India nad oedd cig oen ar gael.


  • Pryd cenedlaethol Jamaica yw ‘Ackee & Saltfish’, danteithfwyd a welir gan amlaf adeg brecwast, er iddo hefyd gael ei gyflwyno fel prif bryd. Ffrwyth yw’r aci, a ddaeth i’r ynys o Orllewin Affrica ym 1778. Pan gaiff ei goginio, mae ei liw a’i flas yn eithaf tebyg i wyau wedi’u sgramblo. Mae aci sydd ‘heb agor’ yn anaeddfed ac yn wenwynig: dim ond pan fo’r ffrwyth wedi aeddfedu ac agor y mae’n ddiogel i’r fwyta. Pysgod yw ‘Saltfish ­ penfras gan amlaf ­ sydd wedi’i halltu’n drwm er mwyn ei sychu a’i gadw. Fel arfer trwythir y pysgodyn hallt dros nos mewn dwr oer er mwyn cael gwared ar y rhan fwyaf o halen cyn ei fwyta.


  • Mae bwydydd y môr yn chwarae rhan bwysig yng nghoginio Jamaica a’r Caribî, gan i’r ynysoedd gael eu hamgylchynu gan ddyfroedd lle mae bywyd y môr yn lluosog. Fodd bynnag, cymaint yw hoffter y trigolion o fwydydd y môr, mae’r ynysoedd yn mewnforio llwythi o nifer o wahanol fathau o bysgod.


  • Mae ‘Jamaican Jerk’ yn bryd arall sy’n arbennig i’r ynys. Gall gyfeirio naill ai at gymysgedd sych ar gyfer sesno ­ rhywbeth sy’n cael ei rhwbio’n unionsyth i fewn i’r cig neu sy’n cael ei ychwanegu at ddwr er mwyn creu marinâd. Mae gwreiddiau jerk yn deillio nôl i oresgyniad y Prydeinwyr ym 1655, pan ddihangodd nifer o gaethweision ‘Maroon’ (a oedd yn nwylo’r Sbaenwyr), gan ffoi i’r mynyddoedd gleision, lle y cuddiant am nifer o flynyddoedd.


  • Yn y mynyddoedd, gyda pheth ymarfer fe berffeithiodd y Maroons dechneg coginio’u cyndeidiau, gan gynnwys cig wedi’i sychu neu’i gochi. Roedd y dull hwn o gadw, sesno a chochi cig wedi’i ddatblygu gan llwyth yr Arawak, ond y Maroons oedd y rhai a berffeithiodd y dechneg drwy ddyfeisio a thrwy gyflwyno perlysiau a sbeisys a oedd wedi’u mewnforio i Jamaica ar hyd y blynyddoedd.


  • Mae ryseitiau jerk wedi’u trosglwyddo i lawr trwy’n cenedlaethau, ond yn y bôn maent i gyd yn cynnwys pupur Jamaica (allspice), tsilis poeth (e.e. Scotch Bonnet), halen a chymysgedd o 30 neu fwy o berlysiau a sbeisys. Mae’r cyfan yn cyfuno i greu un o fwydydd poethaf, mwyaf sbeislyd ar wyneb y ddaear. Defnyddir sesnad neu farinâd jerk ar gig, cyw iâr a physgod.


  • Mae Mynyddoedd Gleision Jamaica wedi rhoi’r enw i’r coffi enwog ‘Blue Mountain‘, sydd â’r enw am fod yn llyfn ac yn llawn blas. Ystyrir hwn y coffi coethaf ar wyneb daear gan nifer o arbenigwyr, ac mae galw mawr amdano ledled y byd. Cyflwynwyd ffa coffi i Jamaica ym 1728 gan Lywodraethwr yr ynys, Sir Nicholas Lawes, a fewnforiodd yr hadau o Martinique. Roedd hinsawdd yr ynys yn sicrhau bod yr hadau yn ffynnu, ac fe arweiniodd y dechreuadau bychain hyn at fasnach coffi presennol Jamaica.


  • Gyda chynnydd yn y nifer o ystadau a oedd yn cynhyrchu coffi, fe dyfodd y busnes ar yr ynys nes i Jamaica ddod yn gynhyrchydd mwyaf y byd o ffa coffi rhwng 1800 a 1840, gyda chnydau o 70,000 o dunelli bob blwyddyn. Gyda diddymiad caethwasiaeth, fe ddaeth y diwedd ar nifer o’r ystadau coffi wrth i’r cyn-caethweision hawlio a chlirio pob darn o dir a allent ar gyfer hwsmona. Sylweddolodd y llywodraeth fod y diwydiant coffi mewn trafferthion, ac ym 1891 fe basiwyd cyfreithiau er mwyn darparu hyfforddwyr cymwys a allai addysgu pobl sut i amaethu coffi.


  • Am nifer o flynyddoedd roedd safon y coffi yn annerbyniol nes i lywodraeth Jamaica sefydlu swyddfa ganolog ym 1944 er mwyn glanhau a graddio’r ffa coffi cyn iddynt gael eu hallforio. Fe wellodd safon y coffi, ond bu ergyd unwaith eto i’r diwydiant pan ddifethodd corwynt dinistriol y cnydau a’r ystadau ym 1951.


  • Dim ond tair ffatri prosesu’r coffi a oroesodd, sef Mavis Bank, Silver Hill a Moy Hall. Er mwyn rheoli unrhyw dwf yn y diwydiant fe sefydlwyd y Coffee Industry Board, gyda’r nod o gadarnhau canllawiau am safon y coffi, ei amaethu a’i brosesu. Mae’n debyg mai’r trefniadau hyn a wnaeth i goffi’r mynyddoedd gleision dyfu mewn poblogrwydd. Sefydlwyd ffatri prosesu arall (Wallenford) ac fe gofrestrwyd yr enw Blue Mountain Coffee gan y pedwar cwmni ym 1973. Ond mae sawl cwmni arall yn ceisio dynwared arwyddlun Blue Mountain, felly er mwyn sicrhau eich bod yn prynu cynnyrch dilys, edrychwch am y rhai sydd wedi’u cymeradwyo gan y Jamaica Coffee Industry Board.


  • Y ddiod gadarn a gysylltir yn bennaf gyda Jamaica ac ynysoedd y Caribî yw rym. Mae pob un o’r prif ynysoedd â’u ffefryn ei hun. Fe ddaeth y rym cyntaf o ddistyllfa yn Barbados ym 1630. Roedd yn waith anodd i’w yfed gan fod y blas yn annymunol, tra bod y cynnwys uchel o alcohol yn sicrhau pen tost y bore canlynol!


  • Caiff rym ei ddistyllu o gansen siwgr neu driagl (molasses : isgynnyrch y broses o greu siwgr gronynnog o’r gansen grai). Fe ddaw yr enw o dalfyriad o air Saesneg o’r 17eg Ganrif, rumbullion, sy’n golygu stwr neu helynt ­ rhywbeth a ddilynodd yfed gormod o’r ddiod!


  • Cysylltir môr-leidr â’r ddiod hon ­ gyda rheswm da gan mai hon oedd eu diod pan na allent gael gafael ar frandi, eu hoff ddiferyn. Yn wir, yr enw ar y gwydr a daliodd ddiod môr-leidr oedd ‘rummer’. Defnyddiwyd rym yn lle arian i dalu am nwyddau yn niwydiant siwgr y Caribî: dyma beth dalodd am y caethweision a brynwyd yng Ngorllewin Affrica.


  • Tyfodd rym yn ei boblogrwydd pan ddarganfu’r Llynges Brydeinig nad oedd yn difetha ar fordeithiau hir, ac yn wir iddo aeddfedu gydag amser, a oedd yn fantais fawr dros ddiodydd fel cwrw. Fodd bynnag, fe ddaeth yn glir yn fuan fod rym ar ei ben ei hunan yn rhy gryf, a bod y morwyr yn meddwi tra ar ddyletswydd. Er mwyn osgoi trafferthion gyda damweiniau, afiechyd a disgyblaeth, roedd yn rhaid ychwanegu dwr at y ddiod!


  • Fe ddaw y prif fathau o rym wedi’u haeddfedu am gyfnodau rhwng ychydig wythnosau hyd at 25 o flynyddoedd. Daw mewn dau liw: rym golau (sy’n cael ei aeddfedu mewn casgiau derw neu mewn tanciau dur) a rym tywyll (a aeddfedir mewn casgiau o dderw golosgedig, efallai gyda charamel wedi’i ychwanegu i hybu’r blas).


  • Gyda’r tyfiant mewn masnach ar draws y byd roedd yn anochel y byddai’r cyfleoedd am waith a oedd yn talu’n well yn denu trigolion Jamaica a’r Caribî i Brydain. Fe ddaeth mwy o fewnfudwyr o’r ynysoedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gan ddod â’u bwydydd a’u dulliau o goginio gyda nhw. Agorwyd bwytai a chaffis â naws y Caribî, er nid i’r un raddau â lleoedd bwyta’r Indiaid a’r Tsieinead.


  • Fe ddaeth nifer o fewnfudwyr o’r Caribî i setlo yng nghyffiniau Bae Caerdydd ond, yn anffodus, nid oes llawer o dystiolaeth o’u diwylliant bwyd wedi para yng Nghaerdydd nac yng Nghymru yn gyffredinol. Mae’r rhan fwyaf o lefydd bwyta a marchnadoedd bwyd y Caribî dros y ffin yn Lloegr. Fodd bynnag, mae un bwyty yng Nghaerdydd lle cewch chi fwydydd dilys Jamaica, sef:
    - The Caribbean Restaurant, 14 West Bute Street, Sgwâr Mount Stuart, Caerydd CF10 5EP. Ffôn: 029 2025 2102.
    - Am fwy o wybodaeth am fwydydd Jamaica a’r Caribî, ewch i: www.caribbeanfoodemporium.com
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY