Ceir isod rhestr gynhwysfawr or cynhwysion ar prydau syn rhan hanfodol o goginio Jamaica ar Caribî. Maen siwr y byddwch yn adnabod rhai ohonynt, ond bydd y rhan fwyaf yn anghyfarwydd, er iddynt fod yn rhan annatod o ddiwylliant yr ynysoedd.
A-B
C-D
E-J
L-P
R-S
T-Y
Aci (Ackee)
Ffrwyth Cenedlaethol Jamaica, syn rhan annatod o hoff frecwast trigolion yr ynys, sef ackee and saltfish. Fe ddaeth aci yn wreiddiol o Orllewin Affrica, ac mae lliw coch-melyn arno. Maer ffrwyth yn wenwynig cyn iddo aeddfedu. Pan fon aeddfed, mae coden yr aci yn agor i ddatgelu tri hedyn mawr du a chnawd syn felyn lliwgar. Peidiwch byth ag agor coden yr aci oherwydd pan ywn agor ar ei ben ei hun y maen peidio â bod yn wenwynig.
Afal Mammey
Ffrwyth syn gynhenid ir Caribî â blas yn debyg i eirin gwlanog, syn arfer cael ei ddefnyddio i wneud jam.
Afal Otaheite
Ffrwyth arall a ddaeth ir Caribî drwy law Capten Bligh or Bounty. Mae ganddo siâp tebyg i beren a lliw syn amrywio rhwng pinc a rhuddgoch.
Afal Seren (Star Apple)
Ffrwyth llawn sudd syn gynhenid i Jamaica. Mae tuar un faint ag oren a fei defnyddir gan amlaf mewn pwdinau.
Annatto
Sbeis â lliw melyn cochlyd, syn dod o hadau coeden flodeuog sydd wediu malu. Cedwir yr hadau mewn olew, syn rhoi blas a lliw arbennig iddynt.
Asopao
Gair syn tarddu or Sbaeneg syn golygu bod rhywbeth yn debyg i swp. Mae asopao yn fath o gawl syn arfer cynnwys cig, cyw iâr neu bysgod, ynghyd â reis, tomatos, winwns, pupurau, olifau, ffa ac yn y blaen.
Bammy
Pryd o fwyd syn perthyn i lwyth yr Arawak Indians. Bara yucca yw Bammy sydd wedii ffrion ddwfn ac sydd ar siâp crempog.
Banana
Defnyddir y ffrwyth poblogaidd hwn mewn amrywiaeth o brydau, yn aml wedii ffrion ddwfn.
Bay Rum
Mwyar tywyll o goeden y Bay Rum syn cael eu defnyddio i ychwanegu blas at gawliau neu botesau.
Bissy
Cneuen gola a ddefnyddir yn aml i leddfu bola tost. Mae hefyd yn ddefnyddiol i ddelio ag achos o wenwyn bwyd.
Blaff
Pysgod wedii botsio, a gafodd ei enw or swn maen gwneud pan yn syrthio i sosban llawn dwr sbeislyd berwedig.
Blawd Saethwraidd (Arrowroot)
Math o startsh a ddefnyddir i dewhau saws neu gawl. Yn aml caiff blawd saethwraidd ei ferwi ai roi i drin dolur rhydd.
Boniato
Taten gwyn â blas eitha melys
Braata
Gair syn golygu ychydig yn fwy o bopeth
Bulla
Bisgeden frown fechan, gron, wedii gwneud o siwgr a blawd.