dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
veggie picture

BWYDYDD JAMAICA

Dewch i fwynhau blas y Caribî yng nghwmni Dudley Newbery a'r athrawes a chyflwynydd radio, Beverley Lennon. Mae Bev, sydd â chysylltiadau teuluol â Jamaica, yn awyddus i gyflwyno'r cogydd i fywyd a bwyd yr ynys hardd.

CYNHWYSION ALLWEDDOL MEWN BWYDYDD JAMAICA A'R CARIBî

Ceir isod rhestr gynhwysfawr o’r cynhwysion a’r prydau sy’n rhan hanfodol o goginio Jamaica a’r Caribî. Mae’n siwr y byddwch yn adnabod rhai ohonynt, ond bydd y rhan fwyaf yn anghyfarwydd, er iddynt fod yn rhan annatod o ddiwylliant yr ynysoedd.

A-B    C-D    E-J    L-P    R-S    T-Y

Calabaza

Pwmpen y Caribî, sydd â blas yn debyg i ffrwyth y gneuen felyn. Hon yw sylfaen cawl pwmpen, prydau llysieuol, bara pwmpen a nifer o bwdinau.

Callaloo

Llysieuyn sy’n debyg i sbigoglys (spinach). Enwau eraill arno yw ‘sbigoglys Tsieineaidd’ a ‘bresych Indiaidd’. Fel arfer, mae’n cael ei stemio a’i gynnig gyda physgod hallt neu’n cael ei roi mewn cawl.

Carambola

Enw cyffredin ar y ffrwyth hwn yw ‘ffrwyth y sêr’ oherwydd ei siâp ar ôl iddo gael ei dorri. Gan ei fod yn ffres ac yn llawn sudd, mae’n addas i’w ddefnyddio mewn saladau, pwdinau, diodydd ac mewn bwydydd y môr.

Cawl Cowcod

Cawl sy’n rhoi egni, ac sy’n cael ei ystyried yn affrodisiad. Ymysg y cynhwysion mae bananas, yams, rym a phupurau, er bod y prif gynhwysyn, ‘cowcod’, yn aros yn gyfrinach.

Cawl Troed Buwch / Cawl Sawdl Buwch

Gwneir y cawl hwn trwy ferwi coes buwch sydd wedi’i dorri o’r ben-glin i’r carn.

Ceviche

Pryd o fwydydd y môr sy’n cael ei goginio mewn sudd ffrwythau sitrws â sesnad o winwns a pherlysiau ffres.

Chayote/Cho Cho

Math o bwmpen neu felon, sy’n cael ei ddefnyddio mewn saladau neu fel llysieuyn mewn nifer o ryseitiau. Hefyd yn adnabyddus fel ‘Christophene’.

Chutney

Cymysgedd o ffrwythau a llysiau trofannol wedi’u coginio, â’u blasu gan ffrwythau, pupurau melys, sbeisys ac yn y blaen. Daeth Chutney i’r Caribî o’r India.

Cig Eidion

Oherwydd dylanwad Prydain, mae cig eidion wedi’i rostio yn aros yn boblogaidd yn Jamaica ac ynysoedd eraill y Caribî.

Cilantro

Defnyddir Cilantro yn ynysoedd y Caribî mewn saladau, dresins, sawsiau, cawliau, bwydydd y môr, ac ati. Mae’r perlysieuyn hwn hefyd yn mynd o dan yr enwau coriander, persli Tsieineaidd a phersli Mecsico.

Cimwch

Mae’r perlysieuyn hwn yn felys ac yn arogleuog. Mae coed clofs yn tyfu yn y Caribî, ac yn gallu cyrraedd hyd at 30 troedfedd mewn uchder.

Cneuen Goco

Yn frodorol i Malaysia, mae’r coed cneuen goco nawr yn rhemp drwy’r Caribî, ac yn nodweddiadol o hinsawdd drofannol. Defnyddir y cnau mewn prydau sawrus, mewn pwdinau ac mewn diodydd.

Coffi ‘Blue Mountain’

Y coffi arbennig sy’n un o bleserau’r ynys. Darperir y coffi arbennig hwn gan bedwar cwmni ar yr ynys.

Conch

Gastroped, sef molwsg ag un gragen, sy’n rhan pwysig o goginio Jamaica a’r Caribî. Defnyddir y cnawd i wneud cawliau, saladau a ffriterau sbeislyd. Dywedwch ‘conk’.

Crancod y Tir

Crancod sydd wedi’u bwydo â bara a sbeisys cyn cael eu coginio. Mae’r cig yn cael gymryd i ffwrdd a’i baratoi cyn cael ei roi yn ôl mewn cragen lân.

Crapaud

Broga sy’n cael ei ystyried yn ddanteithfwyd yn Dominica. Gelwir hwn yn gyffredin yn ‘gyw iâr y mynydd’.

Cynffon Ych (Oxtail)

Un o brif gynhwysion stiw yn Jamaica, croen y gwartheg yw’r "cynffon" ­ cig a gyflwynwyd i’r ynys yn ystod teyrnasiad y Prydeinwyr

Cyrri

Fe gludwyd rhain i Jamaica a’r Caribî gan weision o’r India a ddaeth i’r ynysoedd yn y 19eg Ganrif.

Dasheen (Coco/Taro/Tannia)

Gwreiddlysieuyn llawn startsh, yn debyg i datws, sy’n arfer cael ei ferwi a’i dorri i fyny. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i dewhau cawliau.

Dhal

Gair a ddaw o’r iaith Hindi sy’n dynodi "ffacbys".

Doved Pork

Porc sy’n cael ei frownio ac yna ei goginio mewn saws.

Dukunu

Twmplen felys a wneir o flawd corn wedi’i lapio mewn dail banana, a’i berwi.

Dwr cneuen goco

Diod a wneir drwy wthio dwr berwedig a chnawd y gneuen goco wedi’i gratio trwy fwslin. Pan fydd y cymysgedd yn oeri bydd y llaeth yn gwahanu i ffurfio hufen.

Dwr Gafr (Goat Water)

Yr hylif sy’n goroesi ar ôl stiwio gafr, ac yn cael ei weini fel swp.
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY