Ceir isod rhestr gynhwysfawr or cynhwysion ar prydau syn rhan hanfodol o goginio Jamaica ar Caribî. Maen siwr y byddwch yn adnabod rhai ohonynt, ond bydd y rhan fwyaf yn anghyfarwydd, er iddynt fod yn rhan annatod o ddiwylliant yr ynysoedd.
A-B
C-D
E-J
L-P
R-S
T-Y
Eggplant
Llysieuyn bychan, o liw gwyn neu lafant, sydd ar gael drwyr flwyddyn.
Escabeche/Escovitch
Gair or Sbaeneg syn golygu wedi piclo. Mae hwn yn bryd o fwydydd y môr, wediu potsio neuu ffrio mewn sosban, ac yna eu rhoi mewn marinâd o sudd sitrws neu finegr gwyn, sbeisys, pupurau, olew a pherlysiau ffres.
Fanila
Fe ddaw o godaur ffa fanila syn tyfu ar degeirian (orchid) syn gyffredin ar yr ynysoedd. Fei defnyddir mewn llawer iawn o bwdinau, ac i roi blas ar rai fathau o rym .
Ffa (Pys)
Yn Jamaica cyfeirir at unrhyw fath o ffa fel pys, fel mewn pryd o fwyd Reis a Phys. Mae Pys felly yn gallu golygu cidnabêns, ffa du, pys-llygaid-du, pys colomennod, ffacbys, pys melyn, ffa gwynion ac yn y blaen. Mae ffa / pys yn brif ffynhonnell protein ar ynys Jamaica.
Ffrwyth Bara (Breadfruit)
Yn gynhenid o ynys Tahiti, fe ddygwyd y ffrwyth hwn ir Caribî gan Gapten Bligh ym 1793, wedi iddo oroesi gwrthryfel ar ei long The Bounty. Maer planhigyn ond yn fwytadwy pan wedii goginio, pan yi defnyddir yn lle reis, pasta a llysiau llawn startsh
Folk Art Garnish
Mae olew annatto yn cael ei roi i fewn i botel gwasgadwy, ac yna maer olew yn cael ei ollwng dros y pryd fel addurniad i hybu blas y bwyd.
Fungi/Funghi
Saig ychwanegol o flawd corn ag okra, winwns, pupurau, perlysiau a sesnadau sbeislyd y cyfan wedii falu at ei gilydd. Maer pryd yn mynd o dan enw coocoo ar ynys Barbados, a foofoo ym mannau eraill yn y Caribî.
Gafr
Yn cael ei ddefnyddion arbennig i wneud cyrri-gafr. Dywedir bod mewnfudwyr or India i Jamaica wedi chwilion ofer am gig oen iw fwyta, ac iddynt benderfynu coginio geifr. Yn ogystal âr cig, mae llaeth gafr a chaws gafr yn gynhwysion o bwys yng nghoginio Jamaica.
Granadila (Passion Fruit)
Ffrwyth hirgrwn egsotig, a ddefnyddir mewn suddion, diodydd, pwdinau a sawsiau.
Guava
Ffrwyth lliw coch/oren disglair, yn debyg ei faint i lemwn bychan. Feu defnyddir mewn pastas ac i wneud jeli. Ceir dros 100 o wahanol fathau o guava, sydd hefyd yn cael eu defnyddio yn y Caribî i wneud pâst or enw Caws Guava.
Guinep
Ffrwyth trofannol gwyrdd bychan.
Gwichiad Moch (Whelk)
Malwoden y môr, syn arfer cael ei stemio mewn dwr hallt ai bwyta gyda menyn garlleg, neu ei grilio mewn marinâd neu saws o fenyn garlleg.
Irish Moss
Diod iachus a ddaw o wymon.
Jack
Ceir dros 200 wahanol fath or pysgod mawr hyn, a olyga iddynt gael eu hadnabod â sawl enw, fel jac cwt-melyn, jac cefn-gwyrdd, burnfin jack, jac du a jac ambr. Maent yn lliwgar ac ar gael mewn moroedd ledled y byd.
Jackass Corn
Bisgeden o gnau coco a siwgr.
Jackfruit
Ffrwyth â chnawd trwchus melyn, syn arfer cael ei rostio neui ferwi.
Janga
Crayfish math o gimwch.
Jeli
Enw ar y cnawd sydd mewn cneuen goco ifanc
Jerk
Jerky yn y Saesneg, neu charqui yn y Sbaeneg. Marinâd o sbeisys a phupurau poeth iawn, syn cael ei rhwbio i fewn i stribynnau o gig neu bysgod iw gwneud yn dyner au cadw.
Jicama
Gwreiddlysieuyn syn edrych fel meipen fawr frown.