Ceir isod rhestr gynhwysfawr or cynhwysion ar prydau syn rhan hanfodol o goginio Jamaica ar Caribî. Maen siwr y byddwch yn adnabod rhai ohonynt, ond bydd y rhan fwyaf yn anghyfarwydd, er iddynt fod yn rhan annatod o ddiwylliant yr ynysoedd.
A-B
C-D
E-J
L-P
R-S
T-Y
Leimiau
Mae leim yn gynhwysyn o bwys yn y rhan fwyaf o sawsiau a marinadau Jamaica. Feu tynnir yn wyrdd, ac yna maent yn aeddfedu a throin felyn. Maent yn ffynhonnell arbennig o fitamin C, ac feu cludwyd ir ardal gan Christopher Columbus.
Mango
Ffrwyth syn dod yn wreiddiol or India, syn amrywio yn ei liw o wyrdd i goch disglair. Maer mangos gwyrdd yn well ar gyfer gwneud chutney neu stiw, tra bod y gweddill yn dueddol o fod yn gadarn ac yn felys, ac yn addas ar gyfer marinadau, sawsiau a phwdinau fel hufen iâ neu sorbed.
Manish Water
Dywedir bod y swp hwn âr gallu i roi blew ar frest dynion, a rhoi barf ar wyneb merch! Hefyd, yn ôl y chwedl, mae ganddor grym i wellar gwan, anffrwythlondeb ac annwyd cyffredin. Maen cynnwys bananas, yams, pupurau, rym gwyn a phen a thraed gafr.
Marinâd Adobo (Adobo Rub)
Marinâd ar gyfer cigoedd neu gyw iâr sydd iw rhostio neuu grilio. Maen cynnwys halen, pupurau tsili, garlleg, winwns a leim.
Marlyn Glas
Pysgodyn o safon syn boblogaidd iawn yn Jamaica. Dywedir mai hwn yw ateb yr ynys i eog cochion. Os nad ywr marlyn yn cael ei fwytan syth, maen cael ei drin â mwg.
Mauby (Mawby)
Diod a ddaw o risgl coeden drofannol, syn cael ei ferwi â sbeisys. Dywedir fod gan hon y gallu i leihau lefelau colesterol.
Mojito
Coctel cynhenid i ynys Ciwba a wneir o rym , leim a dwr soda.
Naseberries
Ar gael yn Jamaica o fis Mawrth hyd Gorffennaf. Maen ffrwyth hirgrwn, â lliw melyn neu frown golau, yn debyg ei faint i ffrwyth ciwi ac â blas tebyg i beren. Maent yn llawn sudd pan yn aeddfed, ac feu defnyddir mewn pwdinau a saladau, ac fel byrbrydau.
Nytmeg
Mae nytmeg ffres yn hollbwysig mewn coginio Jamaica. Maer trigolion yn bendant eu cred bod blasaur cacennau, pwdinau a diodydd yn llawer gwell ag ysgeintiad o nytmeg wedii gration ffres (yn hytrach nar nytmeg wedii falu sydd ar gael mewn siopau).
Okra
Llysieuyn a ddaeth ir Caribî o Affrica. Fei defnyddir wedii ffrio mewn prydau, neu fel cyfrwng tewhau mewn sawsiau neu stiwiau.
Ortanique
Ffrwyth syn groesiad rhwng oren a thanjerîn.
Paella
Pryd arall syn tarddu o Sbaen. Mae paella yn arfer cynnwys reis, amryw fwydydd y môr, cyw iâr, porc a ffa, wedi eu coginio mewn isgell cyw iâr. Maer rysáit yn amrywio yn ôl mympwyr cogydd.
Papaya
Hefyd yn adnabyddus fel PawPaw. Mae hwn yn felon mawr, syn pwyso rhwng 8 ac 20 pwys. Maent yn boblogaidd mewn sawl chutney a relish, ac mewn saladau, pwdinau a diodydd.
Patty
Gair syn dod or pasty Saesneg. Mae patty yn bastai grystiog wedii phobi, fel arfer â llenwad o friwsion bara, cig eidion mân a sbeisys wediu malu. Ceir patties ar hyd a lled Jamaica, mewn caffis ac mewn stondinau ochr yr heol.
Pimento
Gweler Pupur Jamaica.
Pinafal
Maer ffrwyth hwn yn gynhenid ir ynysoedd, ac fei defnyddiwyd gan lwyth yr Arawak. Ar un adeg roedd y binafal yn cael ei ystyried yn ffrwyth egsotig, ond bellach maer ffrwyth hyblyg hwn yn cael ei ddefnyddio mewn prydau sawrus ac mewn prydau melys a diodydd.
Plantain
Bananas coginio ywr rhain, sydd â lle pwysig yn ymborth y Caribî. Fel arfer maer plantains yn cael eu sleisio, eu trochi mewn cytew au ffrion ddwfn. Yn fanwl gywir, mae plantains yn llysiau yn hytrach na ffrwythau, ac maen rhaid eu coginio cyn eu bwyta
Plwmsen yr Iddew
Hedyn melyn-gwyrdd hir-fain ywr Jew Plum'. Maen arfer cael ei stiwio ai weini fel pwdin.
Porc
Y Sbaenwyr a ddaeth a phorc ir ynysoedd, a hwn oedd y cig cyntaf iw ddefnyddio mewn prydau jerk yn Jamaica. Arferai llwyth yr Arawak hela moch, ac mae coginio moch ar gigweiniau o hyd yn boblogaidd yn y Caribî.
Pupur Jamaica (Allspice)
Mwyaren yw hon syn dod o goeden syn gynhenid i Jamaica. Maer mwyar â lliw brown/coch tywyll, tra bod yr arogl ar blas yn debyg i gymysgedd o sinamon, clof, nytmeg, pupur, anis a choriander. Mae hefyd yn adnabyddus fel Hedyn Pimento.
Pupurau Tsili Scotch Bonnet
Yn ôl Graddfa Scoville dymar pupurau poethaf yn y byd. Fel arfer caiff y tsilis eu sychu, au malu neuu rhoi i fewn i sawsiau. Maer pupur, syn adnabyddus ar yr ynys fel Bonney neu wiri wiri, yn fath o bupur habanero, ac maen cynhwysyn annatod mewn prydau jerk Jamaica. Fe ddawr enw o debygrwydd y pupur i het Albanaidd. Cymerwch ofal, oherwydd maer pupur yn chwilboeth ac yn llosgi'r tafod.
Pwmpen y Caribî (West Indian Pumpkin)
Gweler Calabaza
Pys
Gweler Ffa.
Pys Gungo
Pys lliw gwyrdd a brown syn cael eu defnyddio mewn sawl pryd bwyd yn y Caribî. Hefyd yn adnabyddus fel pys colomennod neu bys congo.
Pysgnau
Feu bwytir cyn pryd o fwyd (yn ffres neu wediu rhostio), neu maent yn cael eu malu au hychwanegu at fwydydd i ychwanegu blas.
Pysgod
Mae pysgod traddodiadol y Caribî yn cynnwys cleddbysgodyn (swordfish), tiwna, picell fôr (spearfish), wahoo a mahimahi
Pysgod Hallt (Saltfish)
Pysgod y môr sydd wediu halltu au sychu. Fel arfer penfras ywr pysgod, ond gellir hefyd ddefnyddio penogyn, hadog neu fecryll. Mae pysgod hallt ac aci yn ffefrynnau yn Jamaica ar gyfer brecwast.
Pysgodyn Hedegog (Flying Fish)
Pysgodyn lliw arian-glas ag esgyll mawr syn edrych fel adenydd. Fel arfer maent yn cael eu ffrio mewn sosban â haen o friwsion bara.