
BWYDYDD JAMAICA
Dewch i fwynhau blas y Caribî yng nghwmni Dudley Newbery a'r athrawes a chyflwynydd radio, Beverley Lennon. Mae Bev, sydd â chysylltiadau teuluol â Jamaica, yn awyddus i gyflwyno'r cogydd i fywyd a bwyd yr ynys hardd.
YNGLYN Â BWYDYDD JAMAICA
PRYDAU NODWEDDIADOL AM YR WYTHNOS YN JAMAICA
Ceir isod ddyddiadur syn dangos y math o brydau syn arfer cael eu bwyta ar ynys Jamaica. Maen amlwg nad yw pawb yn dilyn yr union un patrwm, yn enwedig gydar dylanwadau cyfoes a ddaw o dramor, ond maer rhoi syniad or bwyd syn gyffredin ar yr ynys bob dydd.
Diodydd: coffi; Horlicks; Ovaltine.
Diodydd: amryw sudd, dwr cneuen goco, lemonêd ffres.
Diodydd: yr un peth â chinio canol dydd.
DYDD SUL
Brecwast
Y prif bryd yw naill ai afu; ackee & saltfish; macrell; neu benogyn (herring). Maen arfer cael ei weini gyda thwmplen wedii ffrio, bammy, banana wedii ferwi, twmplen wedii berwi a yam.Cinio Canol Dydd
Reis a phys, gyda chyw iâr, cig eidion wedii rostio a / neu gyrri-gafr. I gyd-fynd âr pryd ceir tatws melys a salad cymysg.Cinior Nos
Mae cinior dydd yn arfer ymestyn i fewn ir nos. Y diodydd i gyd-fynd â chinio dydd Sul yw sudd moron, soursop a suran (sorrel).DYDD LLUN I DDYDD IAU
Brecwast
Wyau wediu berwi neuu ffrio; sardîns, rundown; powlen o uwd blawd corn neu uwd banana.Diodydd: coffi; Horlicks; Ovaltine.
Cinio Canol Dydd
Patty ag amrywiaeth o fara a chaws; torth gig.Diodydd: amryw sudd, dwr cneuen goco, lemonêd ffres.
Cinior Nos
Amrywiaeth o brydau, gan gynnwys cyrri cyw iâr; cyrri corgimwch; escabeche; pysgod wediu stemio; cawl bôn y gwt (oxtail stew); pys wediu stiwio; porc wedii stiwio; cawl troed buwch / cawl sawdl buwch. Weithiau ceir cyrri-gafr, ond fel arfer mae hynnyn cael ei gadw ar gyfer dydd Sul neu achlysuron arbennig. I gyd-fynd âr pryd ceir corn, yam, dasheen, cho cho, banana wedii ferwi, twmplenni wediu ffrio a plantains wediu ffrio.Diodydd: yr un peth â chinio canol dydd.
