dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
veggie picture

BWYDYDD JAMAICA

Dewch i fwynhau blas y Caribî yng nghwmni Dudley Newbery a'r athrawes a chyflwynydd radio, Beverley Lennon. Mae Bev, sydd â chysylltiadau teuluol â Jamaica, yn awyddus i gyflwyno'r cogydd i fywyd a bwyd yr ynys hardd.

CYNHWYSION ALLWEDDOL MEWN BWYDYDD JAMAICA A'R CARIBî

Ceir isod rhestr gynhwysfawr o’r cynhwysion a’r prydau sy’n rhan hanfodol o goginio Jamaica a’r Caribî. Mae’n siwr y byddwch yn adnabod rhai ohonynt, ond bydd y rhan fwyaf yn anghyfarwydd, er iddynt fod yn rhan annatod o ddiwylliant yr ynysoedd.

A-B    C-D    E-J    L-P    R-S    T-Y

Red Stripe

Cwrw golau cryf o Jamaica.

Reis a Phys

Pryd poblogaidd iawn yn Jamaica sy’n cynnwys reis, cidnabêns neu ffa gungo, gwahanol sesnadau a chnau coco.

Ropa Vieja

Yn llythrennol, mae’r ymadrodd Sbaeneg hwn yn golygu ‘hen ddillad’. Mae’r pryd yn cynnwys stribynnau o gig eidion mewn saws sbeislyd.

Roti

Yn wreiddiol o’r India, mae roti yn fara crwn fflat, sy’n cael ei ddefnyddio i amlapio cyrri ­ boed yn gyrri o gig, cyw iâr, pysgod ynteu llysiau

Rumona

Cordial o rym.

Run-Down

Mecryll hallt llawn wedi’u mudferwi mewn llaeth cnau coco, tomatos, winwns, sibols, teim a phupurau twym, a’u gwasanaethu gyda yams neu fananas gwyrdd wedi’u berwi.

Rym

Y ddiod sy’n fwyaf nodweddiadol o’r Caribî. Ceir nifer o fathau gwahanol o rym ar hyd yr ynysoedd, ac roedd distyllu’r ddiod unwaith yn rhan annatod o’r diwydiant siwgr. Hon hefyd oedd hoff ddiod y Llynges Brydeinig oherwydd, yn wahanol i gwrw, nad oedd yn difetha ar siwrnai hir.

Salsa

Prydau bychain i gyd-fynd â’r prif gwrs, sydd fel arfer yn gymysgedd o ffrwythau, llysiau, perlysiau, sbeisys a phupurau.

Saws Mojito Isleno

Saws sy’n cynnwys winwns, olifau a saws tomato, a ddefnyddir gan fwyaf â ffriterau a physgod wedi’u ffrio.

Saws Mojo

Mae’n cynnwys garlleg, olew a finegr neu sitrws, ac mae’n cael ei roi ar wreiddlysiau.

Saws Pickapeppa

Saws o bupurau sbeislyd iawn. Er i’r holl gynhwysion aros yn gyfrinach i drigolion Jamaica, gallwn ddweud ei fod yn cynnwys mango a thamarind.

Saws Sofrito

Cynhwysyn pwysig yng ngwneuthuriad cawliau, stiwiau a phrydau llysiau. Mae’n gymysgedd o cilantro, pupurau, winwns, garlleg, tomato, pupurau tsili, hadau annatto, darnau o ham, amryw berlysiau a sbeisys: a’r cyfan wedi’i goginio mewn olew. Mae’r saws hefyd yn cael ei ddefnyddio fel dip.

Sawsiau Pupurau Twym

Yn boblogaidd yn y Caribî yn yr un ffordd y mae saws tomato yn boblogaidd ym Mhrydain. Defnyddir digonedd ohonynt, i gyd-fynd â’r rhan fwyaf o brydau.

Scallions

Sibols

Siocled

Fe ddaeth y Sbaenwyr â siocled i’r Caribî ac, yn naturiol, fe ddaeth yn boblogaidd iawn. Cymysgedd chwerw-felys o siocled, wedi’i rhostio a’i malu, a’i gwneud i fewn i fariau soled yw’r ffefryn yno.

Soursop

Ffrwyth â siâp calon, sydd â gorchudd o bigau meddal. Defnyddir y sudd i wneud diodydd, pwnsh, hufen iâ a sorbedau. Defnyddir y dail i helpu gwella anwydau.

Stamp and Go

Pysgod hallt (penfras gan amlaf) a gaiff eu ffrio mewn cytew a’u bwyta fel arfer cyn y prif gwrs. Yn aml mae’r cytew yn cael ei flasu â winwns, tsilis ac annatto. Fe ddaw’r enw o orchymyn a ddefnyddiwyd yn y Llynges Brydeinig yn ystod y 17eg Ganrif.

Steakfish

Rhoddir yr enw hwn i amrywiaeth o bysgod, gan gynnwys grouper, y snapper coch, y snapper cynffon-felen, triggerfish a’r macrell brenhinol. Fel arfer caiff y pysgod eu coginio mewn marinâd ac yna o dan y gril, ond fel arall maent yn cael eu hamlapio mewn dail banana, ffoil neu bapur pobi, ac yna eu brwylio.

Stinking Toe

Coden ffrwyth sydd â golwg tebyg i fys troed dynol, ac arogl nad yw’n bleserus iawn. Y peth pwysig yw’r powdr tebyg i siwgr sydd y tu fewn iddo, a ddefnyddir i wneud cwstard neu ddiodydd.

Sudd Cassareep

Defnyddir y sudd hwn fel sesnad, ac fe’i gwneir o siwgr brown, sinamon, clofs a yucca wedi’i gratio a’i ferwi.

Suran (Sorrel; Hibiscus/Flor de Jamaica)

Blodyn trofannol sy’n cael ei ferwi gyda clofau, croen oren a sinsir. Yna caiff y cymysgedd ei felysu er mwyn gwneud diodydd, jamiau a jelis. Fe ddaeth y blodyn i Jamaica o’r India trwy Malaysia.

Sweetsop

Ffrwyth sy’n gynhenid i Dde America. Mae’r cnawd yn cynnwys mwtrin gwyn sy’n amgylchynu casgliad o hadau du.

Swp Pepperpot

Cawl sbeislyd sy’n tarddu o lwyth yr Arawak, ac sy’n para’n boblogaidd hyd heddiw. Mae’n cynnwys callaloo, porc a chig eidion hallt, ac okra.
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY