Ceir isod rhestr gynhwysfawr o'r cynhwysion a'r prydau sy'n rhan hanfodol o goginio Jamaica a'r Caribî. Mae'n siwr y byddwch yn adnabod rhai ohonynt, ond bydd y rhan fwyaf yn anghyfarwydd, er iddynt fod yn rhan annatod o ddiwylliant yr ynysoedd.
A-B
C-D
E-J
L-P
R-S
T-Y
Tamarind
Coden frown, sy’n tyfu mewn clwstwr ar goeden fawr. Mae pob coden Tamarind oddeutu 3-4 modfedd mewn hyd. Fe'u defnyddir i wneud cyrïau, chutneys, sawsiau a diodydd. Mae tamarind yn boblogaidd hefyd ym meddyginiaeth gwerinol Jamaica.
Teim
Defnyddia trigolion Jamaica ddau fath o deim - Teim Sbaeneg (sydd â blas dwys) a Theim Seisneg/Ewropeaidd (sydd yn fwy mwyn). Creda'r brodorion bod teim yn cynorthwyo treulio bwyd, ac felly mae'n gynhwysyn cyffredin mewn bwydydd Jamaica.
Tia Maria
Coffi’r mynydd glas a licor siocled.
Ting
Diod adfywiol Jamaica a wneir o rawnffrwyth a ffrwythau sitrws.
Toto
Cacen cnau coco.
Tsilis Poeth Jamaica
Yn adnabyddus fel 'Jamaican Hots'
Ugli
Fel yr awgryma'r enw, mae hwn yn ffrwyth hyll, gyda siâp afreolaidd â lympiau tebyg i ddefaid arno.
Yam
Llysieuyn tebyg i'r daten, sy'n dod yn wreiddiol o Affrica. Mae'n blasu'n debyg i gnau, ac fe'i gweinir wedi'i bobi neu wedi'i ferwi a'i falu.
Yampi
Fath o yam
Yucca
Gall yucca gael ei ferwi, ei bobi neu'i ffrio; hefyd mae'n bosibl ei ddefnyddio i wneud bara. Enwau eraill arno yw 'cassava' a 'manioc'.