BWYDYDD AFFRODISAIDD
Afocado
Enwyd y goeden afocado gan yr Asteciaid yn Ahuacuatlo neu Tree with Testicles! Mae gwead afocado yn synhwyrus ac yn blasu'n hyfryd.
Almwnd
Yn symbol o ffrwythlondeb, credir fod arogl almwnd yn codi cynnwrf mewn merched.
Aniseed
Mae aniseed wedi ei ddefnyddio ers amser y Groegwyr a'r Rhufeiniaid. Dywedir fod sugno ar y hadau yn cynyddu'r awydd rhywiol.
Arugula
Adwaenir fel rocket hefyd. Defnyddiwyd fel affrodisiac mor gynnar â'r ganrif 1af AD ac fe'i ddefnyddir yn aml heddiw mewn pasta a salad.
Asbaragws
Mae'r siap awgrymod yn gwneud y llysieuyn yma yn ddigon i'w gynnwys yn y rhestr yma! Fodd bynnag, mae'n llawn fitamin E sy'n angenrheidiol ar gyfer bywyd rhywiol iach.
Banana
Mae ei siâp ffalig a'i wead hufennog yn gyfrifol am iddo gael ei gysidro yn affrodisiac! Mae bananas yn cynnwys potasiwm a fitaminau B, a'r ddau yn angenrheidiol ar gyfer cynhyrchu hormonau rhyw.
Basil (Sweet Basil)
Dywedir ei fod yn cynyddu ffrwythlondeb a'r awydd rhywiol.
Bwyd Môr
Mae bwyd môr yn cynnwys fitaminau a mineralau nad ydynt mor gyffredin mewn bwyd syn deillio or tir ac yn ysgafn ar y stumog. Maer rhinweddau yma yn creu teimlad da yn y corff ac felly mae bwyd môr yn berffaith iw ystyried wrth greu pryd rhamantus.
Cafiâr
Wyau o'r pysgodyn styrsiwn sy'n cynnwys nifer fawr o wahanol fitaminau ac mae ei nodweddion affrodisaidd yn cael eu hamlygu pan yfir â fodca. Mae cafiâr yn dda ar gyfer y celloedd nerfol ac yn gyfoethog ei gynnwys o ran phosfforws a zinc, sy'n symbylu'r cread o testosteron mewn dynion.
Cardamom
Mae'r hadau yn cynnwys dau androgen - hormonau sy'n cynyddu yr awydd rhywiol mewn dynion. Mae hefyd yn cynnwys cineole, a gredir i symbylu'r system nerfol ganolog.
Chickpeas
Arferai'r Rhufeiniaid fwydo chickpeas i'w stalwyni ac fe'i cysidrir hwy i fod yn affrodisiac cryf ar gyfer dynion.
Chilli
Pupur cayenne hefyd. Yn gyfoethog mewn fitamin C ac yn dda ar gyfer system cylchrediad y gwaed er mwyn cadw'r gwaed i bwmpio.
Cimwch
Yn llawn cynnwys angenrheidiol ar gyfer symbylu'r corff. Mae cimwch yn cynnwys sylffwr, clorin, calsiwm, haearn, asidu amino a fitamin B. Cysidrir bwyta cimwch gyda'ch bysedd gyda phartner yn weithred erotig.
Clof
Affrodisiac naturiol bwerus a iachâd da ar gyfer gwynt! Credir fod 2-3 tropyn ohono mewn mêl unwaith y dydd yn fuddiol o ran eich bywyd rhyw.
Cnau Pîn
Mae cnau pîn yn llawn zinc, un or mineralau pwysicaf i gynhyrfu awydd rhywiol dynion.
Coffi
Mae coffi yn cynnwys symbyliad enwog a elwir yn caffein er ei fod yn gweithio fel tawelydd (depressant) os ydyw'n cael ei or-ddefnyddio. Os ydi coffi'n cael ei yfed dim ond ychydig ar y tro (e.e ar ôl pryd bwyd) gall symbylu'r corff a'r enaid ddigon i gadw chi'n effro (os ydych yn dymuno!) am ychydig yn hirach na'r arfer.
Fanila
Dywedwyd fod aroglau a blas fanila yn gallu cynyddu awydd rhywiol a symbylu ewfforia.
Ffenigl
Mae ffenigl yn cynyddu awydd rhywiol person ac mae hefyd yn dda ar gyfer mamau sy'n bwydo o'r fron. Flynyddoedd yn ôl, defnyddiwyd ffenigl i drin toriadau, briwiau, brathiadau sgorpion a nadroedd.
Ffigs
Honnir fod ffigs wedi eu hagor yn atgoffa dynion o organau rhywiol meched. Mae ffigs yn dda fel bwyd bysedd ac fe'i cysidrir yn hynod erotig i ddyn agor ffig a'i fwyta o flaen ei bartner.
Garlleg
Roedd offeiriadesau Rhufeinig yn honni fod garlleg yn "gwneud i ferched syrthio mewn cariad a gwneud dynion yn bwerus". Fodd bynnag, mae arogl garlleg yn ddigon i droi unrhyw un i ffwrdd ac felly yn well ei fwynhau gyda'ch gilydd. Er hyn, dywedir fod garlleg yn symbylu yr awydd rhywiol, yn dda ar gyfer cylchdrediad y gwaed ac yn gostwng colesterol.
Ginseng
Echdyniad planhigyn tseiniaidd yw Ginseng ac mae'n symbylydd pwerus o ran yr hormonau all gynyddu cyffyrddiad corfforol. Yn fwy pwysig, mae ginseng yn helpu pobl i gyrraedd eu perfformiad gorau ac yn cynyddu bywiogrwydd.
Grawnwin
Perffaith ar gyfer bwydo'ch partner ac yn llawn fitaminau.
Horseradish
Honnir fod 'pulp' horseradish yn cynnwys elfennau affrodisaidd.
Licris
Defnyddir licris yn aml mewn moddion Tseiniaidd ac mae ei 'essence' yn 50 gwaith mwy melys na siwgr. Honnir fod merched yn ei ffeindio yn symbylydd ac mae cnoi ei wraidd yn cynyddu chwant rhywiol.
Mafon a Mefus
Wedi eu disgrifion aml mewn testun erotig fel fruit nipples, mae mafon a mefus, fel grawnwin, yn berffaith ar gyfer bwydo'ch partner ac yn llawn fitaminau.
Marchysgall (artichoke)
Cred y Ffrancwyr fod merched a arferai fwyta marchysgall yn 'llall'! Hefyd, dywedwyd fod y llysieuyn yma yn cynhyrfu'r rheini oedd yn ei fwyta!
Mêl
Yn ystod y Canol Oesoedd, defnyddiwyd mêl i wneud Medd a yfwyd gan gyplau oedd newydd briodi, a dyma lle gwreiddiodd y term mis mêl. Arferai'r Eifftiaid wneud cymysgedd o fêl er mwyn ceisio iachâu anallu rhywiol mewn dynion.
Moron
Credir eu bod yn symbyliad mawr i ddynion a chanddynt gynnwys fitaminau uchel a beta-carotene.
Nytmeg
Honnir fod nytmeg yn gallu peri effaith rhithbair (hallucinogenic) pe fwytir digon ohono. Dywed rai fod nytmeg yn affrodisiac ar gyfe dynion er fod merched Tseiniaidd wedi gweld ei werth yn y gorffennol.
Oregano
Yn gweithredu fel asiant ryfeddol pan gyfunir â bwydydd eraill, yn enwedig affrodisiaid eraill.
Pîn-afal
Yn llawn fitamin C, mae pîn-afal yn cael ei ddefnyddion aml i drin anallu rhywiol dynion.
Quatre épices
Maent yn cynnwys coriander, sinamon, clof a dau fath o aniseed. Crëwyd y gymysgedd affrodisiac yma gan y Ffrancwyr ac fe'i defnyddiwyd fel arfer mewn saws pupur neu stwffin.
Radis
Maen debyg mai oherwydd y sbeisrwydd mae radis yn cael ei ystyried yn affrodisiac. Roedd y radis yn boblogaidd iawn gydar Pharoaid yn yr hen Aifft.
Rhosmari
Mae rhosmari yn symbylu canolfannaur nerfau ac yn atgyfnerthu cylchrediad y gwaed.
Royal Jelly
Affrodisiac pwerus. Mae'r gwenyn yn ei fwyta - mae'n llawn protein a fitaminau a fitamin B. Mae'n symbylydd cyflym a dywedir ei fod yn gallu adnewyddu'r chwarennau (glands) rhyw.
Saffrwn
Yn symbylur mannau erogenaidd, dywedir fod gan saffrwn effeithiau tebyg i hormonau. Ond peidiwch â bwyta gormod oherwydd maen gallu gwneud i chi chwerthin yn afreolus.
Seleri
Llysieuyn arall o siap ffalig! Mae seleri yn adnabyddus fel affrodisiac ers amser a'r prif reswm am hynny oherwydd ei fod yn 'fwyd bysedd' arbennig. Mae seleri yn dda ar gyfer y cyhyrau a chylchrediad y gwaed oherwydd ei fitaminau a'i fineralau, sydd hefyd ynhelpu i leihau colesterol.
Sinsir
Cysidrir sinsir i fod gyfystyr â Viagra mewn termau bwyd! Mae'n symbylucylchrediad y gwaed drwy'r corff. Mae ychydig ohono yn achosi 'hot flushes' tra bod gormodedd ohono yn gallu ffyrnigo'r perfeddion!
Siocled
Yr affrodisiac mwyaf poblogaidd ac adnabyddus mae'n debyg. Drwy'r oesoedd, mae siocled wedi ei adnabod fel bod yn ddiafolaidd a drygionus ac o ganlyniad, bu i siocled gael ei wahardd o rai mynachdai ganrifoedd yn ôl. Nid yw siocled yn cynnwys unrhyw golesterol, mae'n berchen â lliniarydd (sedative) sy'n achosi i rywun allu orffwys yn hawdd ac mae'n lleihau unrhyw deimlad o swildod; ac yn symbyliad sy'n annog gweithgaredd pellach. Mae arogl siocled yn ddigon i symbylu'r ymennydd sy'n golygu fod hormonau'n cael eu gollwng sy'n cynyddu'r awydd rhywiol. Mae siocled yn cynnwys mwy o ensymau (antioxidant) gwrth ganser na gwin coch ac felly'n syniad da i fwyta'r ddau â'i gilydd
wel dim gormodedd wrth gwrs!
Tatws
Roedd yr Asteciaid yn hoff o greu moddion o datws i gadw eu horganau rhywiol yn iach.
Teim
Mae teim yn gallu bod yn fwyd pwerus i buro'r corff, ac fel rhosmari, mae hefyd yn symbylu canolfannaur nerfau.
Truffles
Truffles oedd hoff fwyd Napoleon, ac maent wedi eu hystyried fel affrodisiac am amser maith. Mae nhwn eithaf anghyffredin, yn llawn mineralau ac yn symbylu teimladau positif. Dywedwyd fod truffles yn gallu bywiogi a chynhyrfu.
Winwns
Mae winwns yn dda ar gyfer eich iechyd ac yn debyg yn ei nodweddion maethyddol i arlleg. Yn fuddiol ir gwaed, roedd y Rhufeinwyr yn credu fod winwns yn creuegni yn y corff.
Wystrys
Mae wystrys yn affrodisiac poblogaidd sy'n faethlon ac yn llawn fitaminau a mineralau. Maent yn isel eu cynnwys o ran braster, ond yn cynnwys digon o brotein a zinc, sy'n bwysig ar gyfer awydd rhywiol dynion. Mae'n debyg fod Casanova yn arfer bwyta 50 o wystrys amrwd bob bore er mwyn ei ddarparu â'r stamina roedd ei angen.