dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
love picture

SANTES DWYNWEN

Mae bwyd fel affrodisiac wedi bod yn adnabyddus ym mhob diwylliant dros y blynyddoedd, ac fe wyddwn, fod bwyd yn gallu gwneud i gariad ffynnu!

BWYDYDD AFFRODISAIDD

Mae bwyd fel affrodisiac wedi bod yn adnabyddus ym mhob diwylliant dros y blynyddoedd, ac fe wyddwn, fod bwyd yn gallu gwneud i gariad ffynnu! Mae rhywbeth hynod bleserus ynglyn â phryd bwyd sy'n symbylu corff ac enaid sydd o ganlyniad yn ffurfio sylfaen perffaith ar gyfer carwriaeth ramantus.

Mae'r gair affrodisiac yn dyddio yn ôl tua 5000 o flynyddoedd ac yn deillio o'r enw â roddwyd i'r Dduwies Cariad Roegaidd, Aphrodite (cyfeirwyd ati fel Fenws gan y Rhufeiniaid). Defnyddir y gair i ddisgrifio bwydydd, diod, cyffur neu gymysgedd/moddion sy'n cynyddu awydd rhywiol.

Mae'r gwahaniaethau rhwng bwydydd sydd yn affrodisiacs neu beidio yn gwreiddio o'r hen fyd pan roedd amrywiaeth mewn deiet yn eithafol o gyfyngedig o'i gymharu â'r hyn sydd i'w gael heddiw. Mae libido ac awydd rhywiol yn gostwng heb ddigon o faeth ac yn y gorffennol golygai fod rhai pobl yn dewis cysylltu rhai bwydydd oedd yn cynrychioli ffrwythlondeb (bylbs, wyau, malwod) neu oedd yn cynrychioli genitalia (wystrys, asbaragws).

Yn syml, honnir fod bwydydd affrodisaidd yn gallu cynyddu libido, ymwared dyn o'i anallu rhywiol, gwella ffrwythlondeb a chodi awydd rhywiol.

Y term sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio bwyd neu sylwedd sy'n achosi awydd rhywiol i wanio yw anaphrodisiac.

Cyfeirir weithiau at fitamin E fel fitamin cariad oherwydd ei fod yn gwarchod y celloedd gwaed ac yn edrych ar ôl y meinweoedd. O ganlyniad, mae hyn yn effeithio lefelau ffrwythlondeb ac effeithlonrwydd yr organau rhywiol. Mae fitamin E i'w ffeindio fel arfer mewn olew llysiau, cnau a blodyn yr haul, sbigoglys (spinach) a phersli, ymysg eraill.

Mae yna rai yn wrthwynebus at y syniad fod rhai bwydydd yn affrodisiaid ac yn awgrymu os yw'r bwyd yn ddigon drud ac yn ysgafn ar stumog person, yna mi fydd yr awydd rhywiol ac emosiynol yn cael eu generadu.

Mae gwyddonwyr wedi profi fod arogl y bwydydd arbennig yn unig yn ddigon i gynhyrchu yr effeithiau angenrheidiol a achosir gan affrodisiaid, weithiau mwy na'r weithred o'i fwyta.

Yn ôl pob sôn, mae yna amryw o reolau i'w dilyn i geisio denu rhywun â bwyd;
1. Ni ddylai paratoadau munud diwethaf gymryd mwy nac ychydig o funudau er mwyn cadw diddordeb.
2. Dylai'r bwyd fod yn ysgafn a'n ddigonol.
3. Dylai o leiaf un o'r cynhwysion fod yn affrodisiac honedig.
4. Dylai'r pryd edrych a flasu fel petae'n ddrud.
5. Rhaid iddo fod yn flasus, ac os nad unigryw, dylai'r blas fod ychydig yn wahanol i bryd y byddech yn ei goginio o ddydd i ddydd.

Fel dewis arall, gallech baratoi'r pryd bwyd gyda'ch gilydd i ddwysau'r profiad a bwydo'ch gilydd wrth i chi goginio. Mi fyddwch wedyn yn gytun o ran blas a chynnwys y pryd.

Honnir fod yfed diodydd alcoholaidd yn ymwared ag unrhyw swildod. Fodd bynnag, awgrymir yfed ychydig yn unig oherwydd fod gormodedd yn gallu cael effaith wael o ran anallu rhywun i 'berfformio'! Dywedodd Shakespeare unwaith fod alcohol provokes the desire but takes away the performance. Er hynny, byddai siampaen a gwin yn ddiodydd perffaith ar gyfer pryd bwyd ramantus gan fod y gweddill yn rhy drwm neu'n rhy gryf.

Mae'r weithred o fwyta yn un chwantus, wrth i ni ymateb i'r aromâu a blas bwydydd. Hefyd, mae sensitifrwydd y geg, gwefusau a'r tafod yn cynyddu ein mwynad o frathu a chnoi pryd o fwyd.

Honnir fod bwyta gyda'n bysedd yn cynyddu pleser rhywiol yn enwedig tra'n bwydo ein gilydd. Cysidrir ef i fod yn hynod rywiol a chwantus i fwyta neu llyfu bwyd oddi ar fysedd ein partneriaid. Mi fyddai rhai yn dweud mai nid beth ydych yn ei fwyta ond sut ydych yn ei fwyta!
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY