BETH I FWYTA
I gael y budd mwyaf rhaid i falans fodoli. Yn amlwg, pe byddem yn bwyta carbohydradau yn unig, byddair manteision yn cynyddu dipyn ond nid yw hi bob amser yn realistig i ni wneud hyn o ddydd i ddydd a byddair pryd bwyd yn eitha diflas. Fodd bynnag, byddai bwyta pretzels neu popgorn, er enghraifft, yn helpu unrhyw densiwn yn ystod y dydd. Byddai lleihau braster a charbohydradau a chynyddu protein yn help mawr ac yn annog effrogarwch (alertness), egni meddyliol ac adweithiau (reactions) cyflymach, ond gall bwyta protein 2-3 awr cyn mynd in gwely achosi diffyg cwsg.
Yn ei gyfanrwydd, maer cysylltiad rhwng bwyd an teimladau wedi achosi problemau difrifol o ran pwysau. Mae llawer o bobl yn troi at fwyd pan yn hapus, trist neu o dan bwysau all arwain at batrwm syn anodd iw ddadwneud. Ond, mae yna lawer ddulliau y gellir eu trio i geisio torrir cysylltiad bwyd a theimladau:Ceisiwch gadw bwyd ar wahan i rai gweithgareddau penodol. Er enghraifft, os ydym yn bwyta tran bod yn eistedd i lawr, yn gwylior teledu neun darllen y papur yn y bore, gall hyn achosi ymateb chwant bwyd pan nad oes wir angen bwyd.
Gall fod yn help i greu amserlen fwyd ar gyfer eich prydau er mwyn i chi allu cyfyngu a rheolir nifer o droeon yr ydych yn bwyta bob dydd. Gall hyn wneud gwahaniaeth mawr pan fyddwch yn peidio â bwyta ar adeg syn arferol i chi fwyta. Maen debygol y byddwch yn gorfwyta y diwrnod canlynol.
Dewiswch un lle yn eich cartref i fwyta fel eich bod yn datgysylltu bwyta oddi wrth unrhyw weithgaredd arall. Er enghraifft, mae llawer yn mwynhau brecwast yn eu gwlau neu fwynhau bwyd mewn moethusrwydd eu hoff gadair.
Ceisiwch arbed adwaith cadwynol. Hynny yw, pan yn dilyn patrwm bwyta, falle y byddwch yn bwyta bar o siocled os ydym yn teimlo o dan bwysau. Gall hyn arwain at deimlon euog ac iselder oherwydd fod y patrwm bwyta wedii dorri ac yna maen bosib y byddwch yn bwyta mwy o siocled. Maen ddigon posib y bydd y patrwm yn ail adrodd, felly er mwyn torrir gadwyn, gallwch wobrwyoch hun gyda rhywbeth heblaw am fwyd fel bath neu ffilm, CD newydd neu ddilledyn newydd.
Pan yn teimlon sall, ceisiwch gadw deiet iach. Maen bwysig eich bod yn bwyta brecwast ac yn bwytan rheolaidd. Maen hawdd meddwl y byddwch yn gwellach hun os ydych yn bwyta bwydydd llawn braster ond dim ond dros dro y bydd y bwydydd hyn yn codich ysbryd. Nid yw hyn yn golygu na allwch fyth wobrwyoch hun â bar o siocled bob hyn a hyn. Y peth pwysicaf iw gofio ywr idiom gormod o ddim nid ywn dda.
Yn syml, os ydych yn teimlon iach, byddwch yn awyddus i aros yn y cyflwr hwnnw:
Sicrhewch eich bod yn cael digonedd o haearn er mwyn arbed anaemia. Gellir cael haearn o gig, llysiau gwyrdd, ffacbys ac wyau.
Maen bwysig bwyta bwydydd syn cynnwys fitaminau B, fel llysiau gwyrdd, cig, marmite a bara gwenith cyflawn. Mae diffyg fitamin B yn gallu eich gwneud yn flinedig ac yn isel.
Ceisiwch fwyta pysgod olewaidd (macrell, tiwna, sardîn a samwn) o leia ddwywaith yr wythnos. Maent yn cynnwys asidau seimlyd y maer ymennydd ar nerfgelloedd eu hangen.
Ceisiwch beidio ag yfed coffi, te a diodydd meddal yn ystod y nosweithiau, oherwydd y gall hyn effeithio ar eich patrwm cysgu.
Peidiwch ag yfed gormod o alcohol. Mae alcohol yn dawelyn (depressant) a gall annog bwytar bwydydd anghywir.
Yfwch ddigon o ddwr bob dydd oherwydd y gall reoli eich chwant bwyd. Mae angen o leiaf 2 litr o ddwr arnom yn ddyddiol ond gall hyn gynyddu mewn tywydd poeth neu tran ymarfer corff.
Mae carbohydradau yn rhoi egni i ni tra bod protein yn annog tyfiant o ran ein celloedd, esgyrn, croen a gwallt. Cofiwch fod angen i brotein gael ei gyfuno â charbohydradau er mwyn cael y budd gorau o serotonin. Mae angen braster hefyd oherwydd fod 60% or ymennydd yn fraster. Fodd bynnag, dylid cyfyngu ar fraster dirlawn (saturated fat), bwydydd sydd wedi eu prosesu, cynnyrch llaeth, siwgr ac yn y blaen. Y braster da yw braster gellir ei gael o fwydydd fel olewydd, india-corn, olew sesame, pysgod olewaidd a chnau heb halen syn iach i ni eu bwyta bob hyn a hyn yn ystod yr wythnos.
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C

