GWYDDONIAETH BWYD
Maer bwyd yr ydym yn ei fwyta yn effeithio ar ein iechyd, pwysau, siâp ac yn y blaen. Mae celloedd ein cyrff yn amsugno cynnwys y bwyd, felly, yn ddibynnol ar beth yr ydym yn fwyta, gall y celloedd gael eu heffeithio mewn gwahanol ffyrdd. I ddeall mwy am sut mae bwyd yn effeithio ar ein hymddygiad, mae gwyddonwyr wedi bod yn canolbwyntio ar neutrotransmitters.
Mae neutrotransmitters yn cario negeseuon yr ymennydd o gell i gell a maent yn rheoli llawer on swyddogaethau corfforol gan gynnwys ein meddyliau, teimladau an patrymau ymddygiad a rheoli y ffordd rydym yn teimlo an awydd am fwyd. Mae yna nifer gwahanol o neutrotransmitters ond y rhai sydd yn cael eu heffeithio fwyaf a syn sensitif ir cysylltiad rhwnd deiet ar ffordd yr ydym yn teimlo yw serotonin, norepinephrine a dopamine.
Mae Serotonin yn symbylur teimlad o optimistiaeth, ymlacio a theimlon dda yn gyffredinol. Maer neutrotransmitter yma hefyd yn ein darparu âr gallu i ganolbwyntio. Gall lefel uchel o serotonin ein gwneud yn flinedig ond mae hyn yn ddibynnol fel arfer ar ba amser or dydd ydi hi. Hefyd, gall lefel isel o serotonin achosi iselder, anawsterau cysgu, yr anallu i ganolbwyntio ar awydd fwy fwy am fwyd.
Mae Dopamine a Norepinephrine yn symbylu teimlad o gyffro, bywiogrwydd a siarprwydd meddyliol. Mae lefel uchel or neutrotransmitters yman achosi iselder ysbryd, blinder a chanolbwyntio gwael tra bod lefel isel yn achosi gofid ac aflonyddwch.
Maer ymennydd yn creur neutrotransmitters hyn o asidau amino, sydd yn gyfrifol am gynhyrchu protein. Mae yna ddau fath o asidau amino syn symbylu y cysylltiad sydd rhwng ein hymddygiad ar ffordd yr ydym yn teimlo a bwyd, sef tryptophan a tyrosine. Mae Serotonin yn gwreiddio o tryptophan tra bod tyrosine yn gyfrifol am greu dopamine a norepinephrine.
Mae bwyta bwydydd syn uchel o ran eu cynnwys protein fel cig, pysgod, bîns, cnau a chynnyrch soia yn rheoleiddior lefel o tyrosine yn yr ymennydd. Mae gwyddonwyr yn honni drwy fwyta dim ond 3-4 owns o fwydydd syn uchel mewn protein, y bydd lefel ddigonol o dopamine a norepinephrine yn cael eu cynyrchu i wneud i rywun deimlon fwy egniol, mwy bywiog ac yn fwy siwr ou hunain.
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C

