BETH I FWYTA
Mae bwyta bwydydd sydd â lefel uchel o garbohydradau fel pasta, tatws, grawnfwyd a bara yn cynyddur cynyrchiad o serotonin. Mae carbohydradau yn amsugnor tryptophan, sydd mewn amser yn troi yn serotonin yn yr ymennydd sydd yn y pen draw yn achosi teimlad o lonyddwch a thawelwch meddwl. Honnir fod yr effeithiau hyn yn digwydd ymhen hanner awr o fwyta carbohydrad ac yn aros gyda ni am oriau lawer.
Fodd bynnag, gall pryd sydd â lefel uchel o brotein weithio yn erbyn yr effeithiau braf a geir o garbohydradau. Mae hyn oherwydd fod bwydydd protein yn cynnwys llawer o wahanol fathau o asidau amino (gan gynnwys tryptophan a tyrosine) syn gorlenwin system pan y bwytir a maent i gyd yn cystadlu âi gilydd i symbylur ymennydd. Mae Tryptophan yn asid amino mawr syn golygu mai dim ond nifer bach iawn syn llwyddo i gyrraedd y mannau cywir syn golygu weithiau mai dim ond nifer bychan iawn o serotonin syn cael ei greu. O ganlyniad, gall hyn achosi noson ddi-gwsg neu iselder.
Ar y llaw arall, golyga bwyta carbohydradau fod llawer iawn llai o asidau aminon cael eu rhyddhau syn goygu llai o gystadleuaeth. Maer pancreas yn cynhyrchu insiwlin pan ydym yn bwyta carbohydradau a maer insiwlin yn tywys y rhan fwyaf o asidau amino ir llif gwaed, sydd wedyn yn cael ei amsugno gan gelloedd y corff. Gan fod Tryptophan yn asid amino mwy, maen aros yn y llif gwaed gan sicrhau fod ganddo fynediad haws at yr ymennydd. Felly, maer lefelau Serotonin yn cynyddu gan helpu rhywun i ymlacio a chanolbwyntio.
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C

