dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
llun o Dudley

DILÉIT O FOROCO AR HENDRE FARM

Gyda amser i weld mor brin y dyddiau hyn, mae'n rhy hawdd i roi'r cynhwysion ffres i un ochr a mynd am y bwyd parod neu'r 'take-aways'. Ond mae yna ateb blasus i'r ty prysur wrth iddi nosi'n gynt: pryd un pot.

Yn rhaglen gyntaf y gyfres newydd, bydd y cogydd Dudley yn profi fod paratoi pryd iachus a maethlon yn gallu bod yn ddi-drafferth dros ben. Ynghyd â dod o hyd i bryd rhad ar gyfer gang o fyfyrwyr o Gaerfyrddin ac i fam brysur o Rhuthun, bydd Dudley yn cael cwmni Brychan Llyr, sy'n jyglo gyrfa canu gyda busnes tipis ar fferm y teulu, Hendre Farm ger Aberporth.

Daeth Brychan a'i dad, y bardd enwog Dic Jones, i fyny gyda'r syniad o wersyll tipis fel ffordd o arallgyfeirio eu busnes fferm. Maent erbyn hyn yn darparu llety cyfforddus sy'n ddiogel rhag y tywydd ar gyfer i fyny at 25 o bobl mewn tair pabell ar y fferm, yn darparu hafan o ffair a ffwndwr bywyd pob dydd i deuluoedd a grwpiau o ffrindiau.

Yr ochr arall i fywyd Brychan yw gyrfa llwydiannus ym myd cerddoriaeth, yn gyntaf gyda'r band Jess a nawr fel artist rhyngwladol ar ben ei hun, gyda cynulleidfaoedd parod yn yr Eidal ac yng Nghymru wrth gwrs.

Wrth gysidro fod Brychan ar daith gyda'i fand ac wedi teithio'n helaeth yng Ngogledd Affrica, yn ddiweddar dangosodd Dudley i Brychan faint mor hawdd yw hi i ddefnyddio'r perlysiau ecsotig rheiny o'i deithiau i goginio'r stiw perffaith ar gyfer noson glud yn y tipi, gan ddefnyddio y potyn goginio traddodiadol o Foroco, y Tagine.

"Mae'r Tagine yn botyn coginio syml ond effeithiol dros ben, ac yn berffaith ar gyfer stiw," meddai Dudley, "Mae'r caead yn rhyw fath o siap twmffat a'i ben i lawr, sydd yn galluogi'r stem o'r stoc a'r llysiau gylchredeg o gwmpas ceg y pot, a coginio'r cig yn araf bach. Fel hyn mae'r cig yn cael ei frwysio'n berffaith mewn saws llawn blas."

I weld os yw'r fersiwn Gymraeg mor dda a'r bwyd flasodd Brychan yn Moroco, gwyliwch Dudley ar S4C, Dydd Mercher 27 o Hydref am 8.25pm. Bydd y rhaglen yn cael ei ail-darlledu ar ddydd Sul Hydref 31 am 4:00pm

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C

RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY