
PICNICS
Mae bwyta yn yr awyr agored tra bod y tywydd yn gynnes yn arferiad poblogaidd ar draws y byd gan ddod yn uchafbwynt i ddiwrnod braf o haf.
YNGLYN Â PICNICS
RHESTR O ANGENRHEIDIAU PICNIC
Does dim byd gwaeth na dad-bacio eich offer picnic a darganfod nad ydych wedi dod â rhywbeth angenrheidiol. Yn amlwg, y bwyd ywr elfen pwysicaf, ond maen bosibl anghofio rhai or angenrheidiau fel sesnadau neu blatiau!. Isod ceir rhestr o eitemau y gallwch eu casglu cyn pararoir bwyd, i sicrhau picnic di-drafferth:
- Bag oeri neu Bocs Oeri (un ar gyfer bwydydd byrhoedlog ac un ar gyfer diodydd meddal a bwydydd hirhoedlog)
- Hamper / Gwarbac Picnic neu gynhwyswyr seliedig addas
- Blanced
- Lliain Bwrdd (os ydych yn disgwyl defnyddio bwrdd picnic)
- Napcynau
- Clytiau gwlyb (e.e. wet-wipes)
- Platiau
- Cwpannau / Gwydrau ac (os oes eu hangen) Gwydrau Gwin
- Fflasgiau Thermos
- Cadeiriau Plygu neu Stoliau (opsiynol)
- Tynnwr Corcyn / Agorwr Poteli (os yn cymryd gwin)
- Blwch Oeri Gwin (opsiynol gellir cadwr gwin yn y bocs oeri)
- Sesnadau (halen, pupur, finegr, sawsiau a.y.y.b.)
- Offer Gweini
- Taclau Bwyta (cyllyll, ffyrc a.y.y.b.)
- Eli Haul
- Chwystrell Atal Pryfed
- Bagiau Sbwriel
- Bagiau Plastig (ar gyfer cadw platiau, cwpannau a.y.y.b. sydd wediu defnyddio)
- Tywelion
- Rholyn o Bapur Cegin
- Bagiau Bwyd y gellir eu selio (ar gyfer gweddillion)
- Bwrdd Torri bychan, un pren neu un plastig
- Cyllell Min
- Siwgr / Melyswyr
- Iâ ychwanegol neu fwy o baciau o gel oer
- Sawl Potel o Ddwr
- Bwrdd Symudol (opsiynnol)
- Pethau Difyrru (cardiau, llyfrau / cylchgronau, pyslau, pêl-droed a.y.y.b.)
- Radio neu Chwaraewr CD a bateris ychwanegol (opsiynnol, ond ddim un syn rhy swnllyd!)
- Fflashlamp (rhag ofn y byddwch allan o hyd pan fydd yn nosi)
