dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
picnics picture

PICNICS

Mae bwyta yn yr awyr agored tra bod y tywydd yn gynnes yn arferiad poblogaidd ar draws y byd gan ddod yn uchafbwynt i ddiwrnod braf o haf.

BETH YW TARDDIAD PICNICAU?

Mae bwyta yn yr awyr agored tra bod y tywydd yn gynnes yn arferiad poblogaidd ar draws y byd gan ddod yn uchafbwynt i ddiwrnod braf o haf. Gall y picnic fod yn bryd rhamantus i ddau, yn achlysurol teuluol bywiog neu hyd yn oed yn ddiwrnod allan i grwp mawr o bobl. Gan fod tywydd yr haf ym Mhrydain mor ansefydlog, mae’n anodd trefnu picniciau’n rhy bell ymlaen llaw, sy’n golygu eu bod yn tueddu i fod yn achlysuron byrfyfyr, ‘ad hoc’ ­ sy’n siwr o fod yn rheswm arall pam maent yn gymaint o hwyl
  • Fe ddaw y gair picnic o’r ferf Ffrangeg piquer, sy’n golygu ‘i becian’ neu ‘i bigo’ (bwyd). Mae’n debyg i’r gair darddu o ddiwedd yr 17eg Ganrif, pan gyplysodd y Ffrancwyr y gair piquer â nique, gair a olygodd rywbeth bychan, o werth isel. Fe ddefnyddiwyd y cyfuniad piquer-nique i ddisgrifio achlysur cymdeithasol ffasiynol, lle byddai gwesteion yn ychwanegu at y digwyddiad trwy ddod â bwyd neu ddiod gyda nhw.


  • Yn ystod teyrnasiad Fictoria yn yr 19eg Ganrif mabwysiadwyd y gair picnic i olygu pryd o fwyd yn yr awyr agored. Fe dyfodd i fod yn achlysur poblogaidd tu-hwnt i bobl yr oes honno a ystyriodd y picnic yn un o ddigwyddiadau ffasiynol yr haf. Yn wir, byddai safon y bwyd a’r gwasanaeth mewn picnic Fictoraidd cystal â’r hyn a ddarparwyd adref. Byddent yn symud eu hadnoddau ciniawa allan i’r awyr agored, gyda chymorth amryw o weision, er mwyn diogelu safonau uchel.


  • Er i’r syniad o bicnic ddod yn boblogaidd yn y 1800au, roedd gwraidd yr arferiad o gwmpas yn yr Oesoedd Canol, pan fyddai minteioedd hela yn cymryd cyflenwad sylweddol o fwyd gyda nhw, i’w fwynhau yn ystod hoe yn eu hymdrechion.


  • Roedd picniciau oes Victoria yn aml yn achlysuron drudfawr, gyda digonedd o fwydydd moethus a fyddai’n plesio’r ciniäwr mwyaf anodd. Darparwyd gwledd o amrywiaeth o gigoedd, adar hela, dofednod a chimwch, yn ogystal â saladau ffres. Byddai danteithion o basteiod cartref sawrus i gyd-fynd â’r prif bryd, a phwdinau i ddilyn fel tartennau, cacennau, ffrwythau’r haf a bisgedi. Byddai’r gwin a’r siampên yn llifo ­ ond ni fyddai unrhyw bicnic Fictoriad yn gyflawn heb bot o de! Un teclyn hanfodol oedd y llosgwr cerosîn, a ddefnyddiwyd yn unswydd i ferwi’r tegell.


  • Yn raddol yn oes Victoria fe ddiddymwyd yr arferiad Ffrengig o bawb yn dod â’i fwyd ei hun fel cyfraniad, wrth i’r un gwesteiwr gyflwyno popeth i’r wledd. Wrth gwrs, y gweision a oedd yn gyfrifol am baratoi’r bwyd, tra’r swydd fwyaf llafurus i’r gwesteiwr oedd penderfynu lleoliad addas ar gyfer y wledd!


  • Ers y 19eg Ganrif, mae’r picnic wedi dod yn rhan annatod o’n diwylliant. Ar ddiwrnod braf gwelwch bicniciau ar draethau, mewn parciau a gerddi ­ hyd yn oed mewn cilfach parcio wrth ochr yr heol! Pan ar bleserdaith, cymryd picnic yw’r dewis rhatach ar gyfer bwyta ac, unwaith i chi ddod o hyd i leoliad ffafriol, gall fod y dewis mwyaf cyfleus. Hefyd fe welwn ddychweliad i’r arfer Ffrengig gwreiddiol o bicniciau mwy o faint, â phawb yn cyfrannu’i fwyd ei hun at y wledd.


  • Heddiw mae ein picniciau yn ymddangos yn fwy diymhongar na rhai oes Victoria, ond eto gallwn ddibynnu ar ddigonedd o foethau i gyfoethogi’r profiad. Mae taclau i helpu cadw’r bwydydd (bagiau oer, fflasgiau, cynhwyswyr plastig) a phethau eraill i wella’r ffordd y cyflwynir y bwyd (llosgwyr nwy biwtan, basgedi priodol ­ hampers ­ ac offer eraill). Mewn chwinciad, gallwn roi’r cwbl yn y car (ynghyd â’r bwyd a diod angenrheidiol) a gyrru i lecyn anghysbell am ddiwrnod o ymlacio … hynny yw, os nad yw’n bwrw glaw!
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY