dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
picnics picture

PICNICS

Mae bwyta yn yr awyr agored tra bod y tywydd yn gynnes yn arferiad poblogaidd ar draws y byd gan ddod yn uchafbwynt i ddiwrnod braf o haf.

AWGRYMIADAU AR GYFER PICNIC LLWYDDIANNUS

Wrth gwrs mae paratoi ymlaen llaw am bicnic yng Nghymru yn dibynnu ar gywirdeb rhagolygon y tywydd. Efallai mai dyma beth sy’n gyfrifol am y nifer o weithiau y clywn frawddegau fel "os ydi’r tywydd yn ddymunol yfory, dylem ni gael picnic". Yn ddelfrydol, dylai’r tywydd fod yn braf, gyda’r haul yn disgleirio mewn awyr las heb yr un cwmwl mewn golwg! Yn naturiol, dylai unrhywun sy’n trefnu achlysur mawreddog gadw llygad barcud ar broffwydoliaethau Jenny Ogwen yn slot tywydd S4C, ond beth bynnag yw maint eich menter, mae paratoi ymlaen llaw yn allweddol i gael picnic sy’n rhydd o helbulon. Dyma rhai awgrymiadau a chanllawiau i roi cymorth i chi:
  • Rhai o’r picniciau mwyaf pleserus yw’r rhai y gallwch chi eu paratoi yn yr awyr agored. Mae’n braf pacio casgliad o fwydydd syml, fel bara ffres, llenwadau brechdanau, jariau o biclau, bagiau o greision, ffrwythau, porc-peis ac amrywiaeth o ddiodydd mewn poteli, ac wedyn rhoi’r cyfan at ei gilydd, gan sicrhau bod pob unigolyn yn gallu creu rhywbeth sydd at ddant pawb. Bydd hyn hefyd yn helpu sicrhau na fydd gormod o frechdanau yn ofer.


  • Mae bagiau a bocsys oeri yn angenrheidiol ar gyfer cadw a chludo bwyd i’r picnic. Mae’n syniad da i gymryd dau focs oeri os y gallwch ­ un ar gyfer diodydd oer a bwyd sy’n cael eu defnyddio’n aml, tra bod y llall ar gyfer diogelu bwydydd byrhoedlog, fel llysiau i’r salad, ffrwythau a chigoedd oer. Cyn rhoi’r bwydydd ynddo, mae’n syniad da i lenwi’r bocs oeri gyda iâ, a’i adael am tua awr. Wedyn gallwch gymryd yr iâ allan a rhoi’r bwyd i fewn. Mae awyr oer yn teithio i lawr, felly y dylech roi’r iâ sy’n weddill ar ben y cyfan, neu ddefnyddio paciau o ‘gel rhewllyd’, os yw’r fath beth gennych.


  • Er mwyn cadw’r tymheredd yn isel mewn bagiau oeri mae’n syniad da i’w cadw yn y car ei hunan, yn hytrach na’u rhoi yng nghwtsh y car. Gyda’r system oeri sydd yn y rhan fwyaf o geir modern, mae’n debyg bod prif ran y car yn oerach na’r bwt, ac felly bydd eu cadw fan yno yn helpu i’r cynhwysion aros yn oer ar y daith.


  • Pan yn cyrraedd eich cyrchfan ar gyfer y picnic, rhowch eich bagiau a bocsys oeri yn y cysgod, gyda’r cloriau arnynt ac wedi’u cuddio dan flanced nes daw’r amser i fwyta. Peidiwch â gadael y bagiau oeri yn y car oherwydd bydd y tymheredd yn codi yno.


  • Os ydych am gymryd bwydydd twym gyda chi, dylech eu rhwymo mewn ffoil neu eu cadw mewn cynhwyswyr wedi’u hinswleiddio er mwyn cadw’r gwres i fewn.


  • Dylid pacio’r bwyd yn olaf, gan adael y bwydydd a diodydd oer yn y rhewgell nes ei fod yn amser llenwi’r bag oeri. Yn yr un modd, dylid cymryd y bwydydd twym yn syth o’r ffwrn neu’r meicrodon, a’u rhoi mewn ffoil neu mewn cynhwyswyr wedi’u hinswleiddio. Peidiwch byth â rhoi bwydydd oer a bwydydd twym i’w cadw gyda’i gilydd.


  • Dylid amlapio bara a chacennau yn gyntaf mewn papur-menyn neu bapur cegin, ac yna mewn ffoil. Y peth gorau yw i’w cadw mewn cynhwyswyr plastig seliedig, er bod bagiau bwyd plastig yn iawn cyhyd â’i fod yn bosibl i’w selio’n dyn.


  • Awgrym da yw i rewi diodydd meddal y noson gynt, fel y byddant yn aros yn rhewllyd trwy’r diwrnod canlynol, gan helpu i gadw’r bwydydd o’u cwmpas yn oer.


  • Bydd cymryd poteli o ddwr mwynol ar eich taith yn syniad da, ac nid i’w hyfed yn unig. Gellir defnyddio dwr mwynol i lanhau crafiadau a thoriadau man, ac ar gyfer golchi dwylo, sy’n gwbl angenrheidiol pan yn ymdrin â bwyd.


  • Mae llawer o bobl yn hoff o gymryd fflasgiau thermos llawn te neu goffi, tra bod eraill yn dewis cymryd fflasgiau llawn dwr berwedig ar gyfer creu’r diodydd twym yn ffres yn y gyrchfan. Os ydych am fynd i’r eithaf, gallwch brynu llosgwr nwy biwtan, a’i ddefnyddio i ferwi dwr mewn tegell bychan yn y fan a’r lle. Mae’r gallu i fwynhau diodydd twym ar bicnic yn syniad deniadol, yn enwedig os ydi’r tywydd Cymreig cyfnewidiol yn penderfynu troi’r awyr yn fwy oeraidd.


  • Peidiwch â gadael bwyd allan yn yr agored ar bicnic. Dylid rhoi unrhyw fwyd na ddefnyddiwyd yn ôl i’w le cadw, a dylid taflu i ffwrdd fwyd sydd wedi bod allan o’r bag / bocs oeri am fwy nag awr. Dylid rhoi bwydydd twym sydd wedi colli’u gwres yn yr un bag oeri â’r diodydd a’r bwydydd hirhoedlog.


  • Yn ddelfrydol, ni ddylai unrhyw fwyd fod ar ôl ar ddiwedd y picnic, ond os oes gweddillion, mae’n rhaid eu trin yn ofalus. Os yn bosibl, dylid adnewyddu iâ sydd wedi dad-rewi yn ystod y dydd er mwyn cadw’r tymheredd yn isel yn y bag / bocs oeri. Fodd bynnag, peidiwch ag arllwys y dwr i ffwrdd o’r gist, oherwydd ei fod yn help i gadw’r bwyd yn oer.


  • Pan yn dychwelyd adre, edrychwch ar dymheredd y bocs oeri gan ddefnyddio thermomedr. Os yw’r tymheredd uwchben 4ºC ni ddylid cadw’r gweddillion. Os nad oes gennych thermomedr yna dylech edrych i weld os oes unrhyw iâ ar ôl yn y gist, a chael gwared o unrhyw weddillion os yw’r iâ i gyd wedi toddi. Dylid bod yn ofalus, ac os oes unrhyw amheuon, teflwch y bwyd i ffwrdd.


  • Os ydych yn bwriadu cymryd unrhyw nwyddau’r llaethdy ar eich picnic (llaeth, menyn, marjarîn, a.y.y.b.) dylech sicrhau eich bod yn cadw llygaid arnynt oherwydd eu bod yn mynd yn ddrwg yn gyflymach na bwydydd eraill. Dylid osgoi defnyddio mayonnaise a chaws mewn saladau a brechdanau sydd wedi’u paratoi ymlaen llaw. Mae’n syniad llawer gwell i gadw ychydig o gaws a jar fechan o mayonnaise ar wahân mewn un o’r bagiau oeri.


  • Mae’n hwyluso’r trefniadau i gael hamper neu fasged picnic, ac mae sawl un sy’n addas ar y farchnad. Yn ogystal, mae mwy o ddewis ar gael nawr o warbaciau arbennig ar gyfer picniciau, sy’n cynnwys y taclau angenrheidiol. Gallwch gael rhain, ac phethau eraill ar gyfer picniciau o siopau gwersylla / awyr agored, neu gan gyflenwyr arbenigol (gweler y rhestr o safleoedd gwe defnyddiol isod).


  • Dylid rhoi’r bwydydd twym a’r fflasgiau thermos i fewn i’r fasged os oes un gennych. Er nad ydynt mor angenrheidiol â bagiau oeri, maent yn gyfleus iawn os ydych chi am fynd ar bicnic yn aml. Os nad oes gennych hamper (na chwaith yr awydd i brynu un) yna byddai nifer o gynwyswyr plastig / polythene â chloriau sy’n selio’n dyn (e.e. ‘Tupperware’) yn ddefnyddiol, tra bod fflasgiau thermos yn gallu sefyll ar eu pennau eu hunain.


  • Os nad ydych yn dymuno paratoi unrhyw fwyd, neu os yw gwneud penderfyniad yng ngwres y foment yn golygu nad oes amser i wneud y gwaith eich hunan, yna rhowch eich bagiau a basgedi yn y car a gyrrwch i’r archfarchnad neu’r deli agosaf. Yno, gallwch wneud eich dewis o gigoedd oer, bara, cawsiau, creision ac yn y blaen. Hefyd, mae’r rhan fwyaf o archfarchnadoedd yn gwerthu ciwbiau-iâ, felly i fewn i’r bag oeri â nhw gyda’r bwyd, a ffwrdd a chi!


  • Os ydych yn dymuno cymryd gwin gyda chi ar eich trip, yna mae’n bosibl dod o hyd i flwch oeri pwrpasol (ar gael o siopau gwersylla neu gyflenwyr arbenigol) neu, yn syml, rhoi’r poteli yn eich bagiau oeri. Y gwinoedd mwyaf addas yw’r rhai ffres fel Chablis neu Chardonnay ­ ond gwnewch yn siwr fod digon o ddiodydd meddal gyda chi ar gyfer y gyrrwr!


  • Cofiwch gymryd ychydig o flancedi digon o faint i orwedd neu eistedd arnynt. Os ydych yn teimlo’n hael ac yn dymuno cael ychydig o foethusrwydd, gallwch brynu blancedi arbennig ar gyfer picniciau gan rai o’r cyflenwyr.


  • Os ydych yn meddwl y byddwch yn blino ar eistedd ar y llawr, yna gallwch gymryd stolau neu gadeiriau ysgafn sy’n plygu i fyny. Mae’r rhain ar gael yn gyffredin ac nid ydynt yn cymryd gormod o le yng nghefn y car wedi iddynt gael eu plygu.


  • Mae pryfed yn drafferthus pan yn bwyta yn yr awyr agored yn ystod misoedd yr haf, gan eu bod yn anochel yn cael eu hatynnu gan oglau y bwyd. Cymerwch chwistrell i atal unrhyw ‘westeion’ annumynol. Hefyd, dywedir bod ambell frigyn o fint ar eich blanced bicnic yn cadw gwenyn i ffwrdd, tra bod ychydig o lwch sialc neu bowdwr talc o gwmpas eich platiau yn ddigon i atal morgrug rhag ddod yn rhy agos ­ mae’n debyg fod yn gas ganddynt oglau a theimlad y powdwr.


  • Gall damweiniau ddigwydd, yn enwedig pan fo plant yn rhedeg o gwmpas, felly mae’n angenrheidiol i gario pecyn cymorth-cyntaf. Gwell bod yn ddiogel nag yn flin.


  • Os byddwch yn penderfynu aros yn unrhywle heblaw man picnic swyddogol, dylid gwneud yn siwr eich bod â’r hawl i fynd yno. Byddai’n difetha’r diwrnod cyfan i gael stwr gan berchennog y tir preifat lle byddwch yn bwyta! Yn ogystal, os ydych yn bwyta mewn man sydd wedi’i neilltuo ar gyfer picniciau, gwnewch yn siwr eich bod yn dilyn unrhyw reolau sydd wedi’u penodi.


  • Os byddwch yn cael eich picnic o amgylch pobl eraill, cofiwch eu hystyried a pheidiwch â gwneud gormod o swn. Dylech sicrhau nad ydych yn tarfu pobl eraill pan yn chwarae pêl-droed neu ryw weithgarwch arall.


  • Yn olaf, parchwch yr amgylchedd a gwnewch yn siwr eich bod yn cymryd ychydig o fagiau plastig ar gyfer eich gwastraff, oherwydd does dim byd gwaeth i ddifetha diwrnod pawb na llond lle o sbwriel.
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY