Byddai rhai yn meddwl fod ymddeol yn golygu rhoi eich traed i fyny, ymlacio ac arafu lawr ryw ychydig. Ond nid yw hyn yn wir o gwbl am bedair menyw o Bontarddulais, a benderfynodd ddechrau clwb coginio wedi iddynt ymddeol er mwyn ymestyn eu sgiliau coginio i'r eithaf.
Mae Jean Bolton, Gwenda Miles, Nesta Treharne ac Iris Thomas i gyd yn aelodau bywiog o gymuned Bontarddulais, ac yn rhannu diddordeb mewn coginio. Yn dilyn eu hymddeoliad (y tri'n gyn athrawon), dilynodd y bedair gwrs coginio yng Ngholeg Sgeti yn Abertawe. Mae'r bedair yn cwrdd yn rheolaidd i drafod ryseitiau ac i osod sialensau newydd i'w gilydd. Mae pob un yn coginio cwrs yr un, ac yn cwrdd unwaith y mis yn nhy'r person sy'n coginio'r prif gwrs am bryd gwerth chweil.
"Rydym yn ceisio gwneud dipyn o ymdrech - tynnu'r llestri cinio gore mas, dewis gwin neis a gwisgo lan ryw ychydig, mae'n rhan o'r hwyl i gyd" meddai Gwenda Miles. Pan gyflwynwyd hwy â rysetiau y cogyddion byd enwog, Raymond Blanc a'r brodyr Roux, roedd y bedair yn ymwybodol iawn fod y dasg a her iddi:
"Rhaid cyfadde' fod yr her yn un digon brawychus i gychwyn - wedi'r cyfan, mae'r rhain yn gogyddion uchel eu parch dros y byd i gyd, gyda sêr Michelin a phob math!" eglura Nesta Treharne, "ond roedd Dudley'n huderus fod yr her o fewn ein cyrraedd, ac roedd ei frwdfrydedd yn cael ei basio mlaen atom ni. Fi oedd yn gyfrifol am y cwrs cyntaf, sef terrine cyw iâr a pherlysiau gan y brodyr Roux. Mi fyddwn in sicr yn defnyddio'r rysait eto, falle ar gyfer bwffe neu achlysur arbennig. Y rhan bwysicaf am ryseitiau uchelgeisiol yw paratoi. Mae'n gwneud byd o wahaniaeth i gael yr holl offer a'r cynhwysion yn barod o flaen llaw."
Mae steil coginio y brodyr Roux wedi cael gymaint o ddylanwad ar Nesta fel ei bod hi a'i gwr wedi archebu bwrdd ym mwyty tair seren Michelin Michael Roux yn Bray, ger yr Afon Dafwys.
Dwi'n gobeithio y gallaf gymryd copi o'r rysait a ddefnyddiais yn y rhaglen a'i gael wedi ei arwyddo gan y dyn ei hun," meddai Nesta, "Mae ein merch yn byw yn yr ardal ac yn darlithio yn Surrey, felly mae hyn yn esgus perffaith i fynd i brofi'r peth go iawn!"
8.25PM
BOB NOS MERCHER
gydag isdeitlau Cymraeg
AILDDARLLEDIAD BOB DYDD SUL
4:00PM
gydag is-deitlau ar y sgrin
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C

