dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
dudley picture

Y PASG

"Mae Bara brith yn un o’m hoff ddanteithion", meddai Dudley, "ac mae blas y bara sbeislyd hwn yn rhagorol, yn enwedig gyda haenen o fenyn hallt Cymreig."
Bydd Dudley yn dychwelyd i S4C ar nos Fercher gyda chyfres newydd sbon, sy’n dechrau gydag ymweliad i Sir Gaerfyrddin, lle bydd ein cogydd lliwgar yn coginio prydau traddodiadol Cymreig, sydd wastad yn ddanteithfwyd pleserus bob Pasg.

Yma yng Nghymru, mae sgons, crempog a phice-ar-y-mân / cacenni cri yn apelio’n gryf am ein dannedd melys, a chawn esgus bob Pasg i dretio’n hunain i fwy o’r danteithion hyn. Ychwanegwch ychydig o fara brith traddodiadol a rhai golwythion cig oen i ginio, wedi’u coginio gan Dudley yn ei steil unigryw ei hunan, ac mae gennym yr agoriad delfrydol i’w gyfres newydd ar S4C.

Bydd y cogydd yn teithio tua’r gorllewin yn y rhaglen gyntaf, i Sir Gaerfyrddin lle y bydd yn cwrdd â’r wraig gyntaf i ddod yn weinidog yn y sir, y Parchedig Beti Wyn. Gan ei bod yn bugeilio dros dair eglwys yn yr ardal, mae gan Beti fywyd prysur, yn gweithio saith diwrnod yr wythnos, ond mae’n bwysig iddi fod ei theulu yn sicrhau’r cyfle i ddod at ei gilydd o gwmpas y bwrdd ginio i fwynhau eu pryd.

Mae cynulleidfaoedd Beti yn gwerthfawrogi ei brwdfrydedd ac yn aml caiff hi ei gwobrwyo gydag amrywiaeth o ddanteithion blasus. Mae hyn at ddant Dudley hefyd, gan ei fod yn ymuno â Beti i fwynhau rhai o’i ffefrynnau personol, wedi’u coginio adref.

"Mae Bara brith yn un o’m hoff ddanteithion", meddai Dudley, "ac mae blas y bara sbeislyd hwn yn rhagorol, yn enwedig gyda haenen o fenyn hallt Cymreig."

Ni’n gwybod bod pice-ar-y-mân / cacenni cri a sgons erioed yn boblogaidd yng Nghymru, ac mae amlwg o’r rhaglen hon nad yw Dudley yn eithriad.

"Roedd y pice ar y bwrdd yn barod pan gyrhaeddais i yng Nghaerfyrddin, ac roedd cael rhywun arall i’w coginio drosto’i yn fy nghymryd nôl i’m plentyndod pan fyddai Mam yn dosbarthu nhw, yn boeth oddi ar y maen", meddai Dudley.

"Ac mae sgons yn fyrbrydau amryddawn ar gyfer amser te, yn ddelfrydol pan fo ffrindiau yn galw’n ddirybudd, gan eu bod yn syml ac yn hawdd i’w coginio gan ddefnyddio cynhwysion sy’n eistedd yn eich cwpwrdd."

Ymunwch â Dudley wrth iddo fwynhau prydau traddodiadol Cymreig adeg y Pasg.

Mae’r ryseitiau a welir yn y rhifyn hwn o Dudley ar gael ar y wefan hon, a gallwch ddarllen mwy am fwydydd y Pasg trwy glicio ar y teitlau hyn.
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY