Dathliad yn neuadd bentref Llandudoch ger Aberteifi syn dod â rhaglen Dudley i orllewin Cymru yr wythnos hon. Cawn weld Dudley yn paratoi pryd o fwyd arbennig ar gyfer unigolyn arbennig - arweinydd tri o gorau lleol.
Mae gan Dudley gwmni mawreddog yr wythnos hon wrth iddo deithio i bentref bychan yng Ngheredigion syn gartref i arweinydd y côr a enwyd y gorau yng Nghymru ym 2003. Ond yn ogystal ag arwain Côr Ysgol Gerdd Ceredigion, mae Islwyn Evans hefyd yn gofalu am ddau gôr arall yn yr ardal, ac mae pob un or aelodau yn fawr eu diolchgarwch i Islwyn am ei ymroddiad ai egni.
Neuadd pentref Llandudoch ywr lleoliad ar gyfer cyngerdd a barbeciw arbennig i 200 o bobl leol, ond mae aelodaur côr yn cynllunio rhywbeth fwy moethus nar byrgers a selsig arferol ar gyfer dathliad Islwyn. Ac felly, dyma pam y gwahoddwyd Dudley! Gofynnwyd iddo gan aelodau ifanc y corau i greu rhywbeth arbennig i Islwyn er mwyn iddynt ddangos eu gwerthfawrogiad. Gyda thrysorfa o gynhwysion lleol ar flaen ei fysedd, fe aeth Dudley ati, gyda chymorth brwd rhai o aelodaur corau!
Fe wnaeth Dudley ddarganfod fod y trigolion lleol yn hapus iawn i ddarparu cynhwysion ffres ar gyfer y tri chwrs o wledd Islwyn, wrth iddo dderbyn cyflenwad o Gaws Cenarth, eog gwyllt ffres or afon Teifi a blawd or hen felin dd_r yng Nghenarth syn dyddio nôl ir 17ed Ganrif.
Meddai Dudley "Does dim byd fel gweld cynhwysion yn cael eu paratoi yn y ffordd draddodiadol".
I ddechraur wledd, mae cwrs o darten gaws a chennin, gyda Dudleyn defnyddio dau fath o Gaws Cenarth - Perl Wen, caws sydd wedi ennill gwobrwyon sydd â blas syn eich atgoffa o Brie ac o Gaerffili, a Lancych, caws aeddfed unigryw.
"Ni fyddai pob math o gaws yn addas ar gyfer y rysáit arbennig yma", eglura Dudley, "ond maen werth i chi arbrofi gydag amrywiaeth o gawsiau Cymreig."
Y prif gwrs yw caneloni eog Teifi gyda saws tomato, syn ddewis addas gan fod Afon Teifi yn enwog am ei eog ai sewin. Yn wir, mae pysgota o hyd yn ddifyrrwch poblogaidd ar yr afon, lle byddai un yn gweld y pysgotwyr yn eu cwryglau yn yr hen ddyddiau, yn defnyddio rhwydau i gasglu eu dalfa, a fyddain bwydor cymunedau ar hyd yr afon.
"Mae pysgod syn llawn olew, megis eog, yn cynnwys asidau brasterog sydd o gymorth i osgoi clefyd y galon gan eu bod yn lleihau tueddiad y gwaed i geulo, a chan eu bod yn lliniaru enyniad" meddai Dudley. "Rwyn gredwr mawr mewn pysgod ffres lleol, ac mae llawer iw cael yng Nghymru."
Yn olaf, paratôdd Dudley dwr o ffrwythau ffres i bwdin - ffordd berffaith o gwblhau gwledd swmpus fel hyn. Dywed bod Islwyn yn berffeithiwr, ac felly beth all fod yn well na pharatoi pryd perffaith o fwyd ar gais y côr gorau yng Nghymru.
Gwyliwch y rhaglen i weld sut mae Dudley yn rhoi tri chwrs y pryd at ei gilydd - gallwch ddod o hyd ir ryseitiau trwy glicio ar y lluniau sydd ar waelod y tudalen.