dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
dudley picture

Y GWYR

Mae Penrhyn Gwyr yn haeddiannol adnabyddus am fwydydd ffres y môr, megis cocos a bara lawr, y ddau ddanteithfwyd enwocaf a ddaw o’r gornel brydferth hon o Gymru.
Mae cocos a bara lawr yn ddau o ddanteithion De-Orllewin Cymru ac maent wedi’u sefydlu yna fel bwydydd arbennig ers canrifoedd, er eu bod yn para’n ddirgelwch i lawer mewn rhannau eraill o Gymru. Yn y rhaglen ddiweddaraf o’r gyfres newydd, bydd Dudley yn anelu tua phenrhyn Gwyr - ardal sydd â llawer o draethau gogoneddus ac sy’n gartref i hen ddiwydiant traddodiadol.

Mae Penrhyn Gwyr yn haeddiannol adnabyddus am fwydydd ffres y môr, megis cocos a bara lawr, y ddau ddanteithfwyd enwocaf a ddaw o’r gornel brydferth hon o Gymru. Mae casglu’r cocos a’r bara lawr yn waith llafurus, sy’n galw am lawer o ymdrech.

Ers dyddiau’r Rhufeiniaid mae trigolion y penrhyn wedi bod wrthi’n casglu’r cocos, ac fe ddaethpwyd o hyd i’r cregyn mewn sawl llecyn o ddiddordeb hanesyddol yr ardal, er enghraifft cestyll ac ogofâu. Ers yr Oesoedd Canol caiff cocos ffres eu gwerthu yn Abertawe, ac yn wreiddiol ystyriwyd y gwaith o’u casglu yn ddyletswydd y merched. Aethant i’r traethau mewn gwisgoedd a oedd yn debyg eu golwg i’r wisg draddodiadol Gymreig, a byddant yn llafurio am oriau lawer yn chwilota yn y tywod am ddigon o gocos i wneud elw. Byddant yn llwytho’u cocos mewn basgedi ar gefn asynnod ac yna grwydro trwy’r pentrefi cyfagos yn eu gwerthi.

Heddiw, mae gwisg casglwyr y cocos wedi newid ond mae rhinweddau’r gwaith yn ddigyfnewid. Mae o hyd yn waith llafurfawr, a dynion yn hytrach na merched sy’n ymgymryd â’r llafur, gan ddefnyddio tractorau a land-rovers yn lle’r asynnod. Nid yw’r taclau wedi newid llawer, gyda rhaca byr yn cael ei ddefnyddio i ddod â’r cocos i wyneb y tywod, ac yna ceir eu hidlo trwy ridyll sy’n sicrhau bod y tywod a’r cocos llai yn cwympo trwyddo. (Caiff y cocos bychan eu gadael er mwyn gadael iddynt dyfu ac atgynhyrchu).

Unwaith iddynt gael eu casglu maent yn cael eu golchi a’u pecynnu. Dywed bod cocos gorau Prydain yn dod o benrhyn Gwyr, a Phenclawdd yn enwedig. Saif y Penclawdd Shellfish Company drws nesaf i’r traeth sy’n golygu bod y cocos yn mynd yn syth ac yn ffres i’r ffatri. Dim ond 55 o drwyddedi sy’n cael eu rhyddhau bob blwyddyn i ganiatáu i’r deiliaid casglu’r cocos â rhaca. Caiff y cocos eu casglu bob dydd heblaw’r Sul, a gall pob un o’r deiliaid gasglu rhwng 300kg â 600kg bob dydd. Dywed nad ydym ni ym Mhrydain yn gwerthfawrogi’r cocos gymaint â phobl Sbaen, oherwydd bod yn rhaid i’r traethau cocos yna gael eu gwarchod gan geidwaid arfog!

Ers ganrifoedd lawer mae pobl wedi bod yn bwyta bara lawr ym Mhrydain - efallai o anghenraid pan nad oedd pethau eraill ar gael. Pan ddatblygwyd y diwydiant glo yn y 18fed ganrif fe ddaeth bara lawr yn rhan o brif ymborth y glowyr, a fyddai’n ei fwyta am frecwast. Cafodd ei rolio mewn blawd ceirch ac yna ei ffrio mewn saim cig moch neu ei gymysgu â sudd lemwn ac yna ei osod ar dost.

Mae’r lafwr ei hunan yn fath o wymon, sy’n ddu sgleiniog ac i’w darganfod yn gorwedd yn fflat ar ben creigiau. Mae’n hawdd ei gasglu ond yna mae’n rhaid ei olchi’n ofalus i gael gwared ar yr holl dywod, ac yna ei ferwi am ddeg awr i greu’r mwtrin sy’n gyfarwydd i ni fel bara lawr. Heddiw, mae’n arferol i fara lawr gael ei brosesu a’i becynnu gan gwmnïau mawr bwydydd y môr.

Gelwir bara lawr weithiau yn ‘y cafiâr Cymreig’. Mae’r cynnyrch yn uchel ei gynnwys o brotein, ïodin a fitaminau (A, B, B2, C, a D) ac yn isel iawn mewn calorïau. Mae’n debyg iawn i’r Nori a ddaeth o Siapan, sydd hefyd yn fath o wymon, a werthir ym Mhrydain fel dalennau sych. Mae ganddo flas unigryw, ac mae’i werthiant wedi bod ar i lawr dros y blynyddoedd, ond mae fwyfwy o fwytai yn gwerthu bara lawr fel rhywbeth i gyd-fynd â bwydydd y môr, neu’n rhan o brydau llysfwytäol.

Yn ogystal â chocos a bara lawr, mae dyfroedd o gwmpas penrhyn Gwyr yn cynnig dewis eang a blasus o fwydydd y môr gan gynnwys crancod, eog gwyllt, sewin a llawer iawn mwy. Yn wir, mae penrhyn Gwyr yn berl o blith ardaloedd Cymru!
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY