dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
dudley picture

Y 1970au

Yn y saithdegau, roedd pob unigolyn yn bwyta, ar gyfartaledd bob wythnos, 2.6 litr o laeth, 4.5 wy, 339g o saim ac olew a 1050g o fara.
Y 1970au: cyfnod o wallt hir, esgidiau platfform, dungarîs a throwsus fflêr blêr. Roedd yn gyfnod pan oedd y siartiau pop yn llawn cerddoriaeth disgo a phync, pan oedd y Bay City Rollers ac Abba ar frig y don. Bryd hynny, tîm pêl-droed Lerpwl, nid Man United, oedd y grym pennaf yn y byd pêl-droed, tra bod tîm rygbi Cymru’n cael eu hofni ledled y byd.

Hefyd, efallai’n bwysicach, roedd yn gyfnod pan ddaeth coginio adref dipyn yn fwy anturus, gyda phobl yn arbrofi gyda mwy o ryseitiau egsotig, amrywiol. Gyda dewis ehangach o gynhwysion a mathau o fwyd yn cyrraedd Prydain, roedd pobl yn barod i fentro y tu-hwnt i’r syniadaeth draddodiadol o fwydydd "cig a llysiau".

Yn ystod y degawd hwn, fe ddaeth gwyliau rhad tramor o fewn cyrraedd y rhan fwyaf o bobl, gan roi’r cyfle i fwy o bobl flasu bwydydd estron ar eu teithiau. Yn sgil hwn, roedd pobl eisiau ail-greu’r prydau hyn yn eu cartrefi eu hun, ac fel canlyniad fe ddaeth y galw am bitsas, pasta ffres a’r cynhwysion ar gyfer sawsiau pasta, olew olewydd a bara Ffrengig. Serch hynny, y pryd o fwyd mwyaf nodweddiadol o’r 1970au oedd Coctêl Corgimychiaid i ddechrau, gyda phrif gwrs o stêc a sglodion, cyn gorffen gyda llond blât o Black Forest Gateau!

Yn y saithdegau, roedd pob unigolyn yn bwyta, ar gyfartaledd bob wythnos, 2.6 litr o laeth, 4.5 wy, 339g o saim ac olew a 1050g o fara. Ym 1974, fe ddechreuwyd gwerthu torthau bara gwyn mewn bagiau plastig, yn hytrach na’r hen bapur cwyrog. Mewn rhai cylchoedd fe dyfodd bwydlysyddiaeth i fod yn boblogaidd iawn.

Un o’r datblygiadau mwyaf a welwyd yn y degawd oedd sefydliad y diwydiant mewn bwydydd cyflym ­ agorodd bwyty cyntaf McDonalds ei ddrysau ym Mhrydain yn 1974 yn Woolwich, De Llundain. Fe ddilynodd mwy o fwydydd parod, wrth i’r diwydiant bwydydd ymateb i’r newid mewn cyflymdra bywydau pobl gan gyflwyno prydau a oedd yn gyflym, yn hawdd ac yn gyfleus i’w paratoi. Tra bod bwydydd mewn tuniau yn aros yn boblogaidd, roedd newydd-ddyfodiaid fel cyris Vesta a’r tatws stwmp bythgofiadwy, Smash. Roedd ymgyrch hysbysebu Smash yn tynnu coes y tatws stwmp traddodiadol, lle roedd yn rhaid tynnu croen y tatws â’u berwi cyn eu stwnsio.

O ganlyniad i’r galw mawr am fwydydd parod fe welwyd codiad yn y gwerthiant o rewgistiau, ac fe gafodd y rhein eu marchnata fel offer hanfodol ar gyfer cartrefi effeithlon a iach.O’r blaen byddai perchenogion rhewgistiau yn eu cadw yn y garej, ond yn y saithdegau fe’u hail-gynlluniwyd i eistedd yn y gegin, ac fe ddaethant yn boblogaidd iawn. Yn ychwanegol, cafodd syniad y gegin osod ei ddatblygu yn ystod y degawd. Am y tro cyntaf, fe ddaeth pecynnau celfi’r gegin mewn meintiau safonol, a arweiniodd at ail-gynllunio’r offer gegin, gan fod yn rhaid iddynt ffitio i fewn i ofod penodol.

Fe ddechreuodd pobl i siopa’n wythnosol gan brynu llwyth o nwyddau ar yr un pryd, a arweiniodd at dwf archfarchnadoedd allan o ganol trefi, ac at ddirywiad mewn siopau lleol. Gyda’r cwsmeriaid yn rhoi eu nwyddau yn y rhewgistiau, fe ddaeth mwy o fwydydd rhewllyd a phrydau parod ar y farchnad, wrth i’r diwydiant bwyd ymateb i’r datblygiadau a newid eu ffordd o ddarparu cynnyrch.

Gyda mwy o gynhwysion amrywiol yn cyrraedd y wlad, gan gynnwys dewis helaethach o win, fe gychwynnodd nifer o fwytai a gynigai amrywiaeth o ffurf newydd o fwyd. Dechreuodd tafarndai gynnig prydau rhad, hwyliog (e.e. Cyw iâr mewn basged). Gyda phobl yn bwyta allan yn fwy rheolaidd, neu’n coginio prydau parod, fe dreulion nhw lai o amser yn y gegin.

Ac yna, fe ddaeth Delia Smith i’r golwg. Roedd ei hagwedd blaen, ddi-ffwdan, tuag at goginio gartref yn boblogaidd, ac wedi iddi ddangos sylfeini coginio, fe gafodd nifer fawr o bobl eu temtio nôl i’r gegin. Roedd cogyddion enwog cyn Delia, er enghraifft Graham Kerr (The Galloping Gourmet) a Fanny Craddock, ond doedd yr un ohonynt â’r un argraff â hithau. Yn wir, ers y 1970au rydym wedi mwynhau toreth o gogyddion ar y teledu (gan gynnwys ein hannwyl Dudley!) sy’n diddanu ac addysgu’r cyhoedd am grefft coginio.

Mae’n wir i ddweud mai yn y 1970au y cychwynnodd yr agwedd gosmopolitaidd tuag at fwyd sydd gennym heddiw ­ er gwaetha’r ffaith bod y degawd wedi’i nodweddu gan chwifiant uchel ac ansicrwydd economaidd. Fe barhaodd y chwyldro bwyd, gyda’r archfarchnadoedd yn cyflwyno mathau o fwyd o dan eu labeli eu hunan, i gynnig dewis rhatach pan oedd amseroedd yn anodd yn economaidd.

Mae arnom ni ddyled mawr i’r 1970au. Cyflwynodd y degawd i ni fathau newydd o fwyd, cynhwysion amrywiol ffres, y gegin osod, rhewgistiau a’r hyder a’r gallu i goginio yn ein ceginau ein hunan. Mentrwch ar ryseitiau Dudley isod i gael gwir blas y 70au!
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY