Bruschetta gyda Tomatos a Brenhinllys
Cynhwysion
- 6 / 7 tomatos plwmp aeddfed ( tua 1½ pwys)
- 2 gewyn garlleg, wedi malu'n fân
- 1 llwy fwrdd olew olewydd gwyryf cryf
- 1 llwy de finegr balsamig
- 6-8 dail brenhinllys ffres, wedi dorri'n fân
- Halen a pupur i'w flasu
- 1 baguette Ffrenig neu fara Eidalaidd tebyg
- ¼ cwpan o olew olewydd
Dull
- Paratoi'r tomatos yn gyntaf. Rhoi nhw mewn dwr berw am funud ac yna eu draenio. Gan ddefnyddio cyllell fach, gwaredu croen y tomatos ac unwaith mae nhw wedi cael eu plicio eu torri yn hanner neu chwarter a gwaredu'r hadau a'r sudd or canol. Bydd angen gwaredu'r canol caled hefyd.
- Cynhesu'r ffwrn i 450°F.
- Torri'r tomatos yn fân iawn. Yna eu rhoi gyda gyda'r garlleg, olew gwyryf cryf a'r finegr mewn powlen a'u cymysgu. Ychwanegu'r brenhinllys. Yna pupur a halen i'w flasu.
- Sleisio'r bara ar ei hyd yn ddarnau ½ modfedd o drwch. Brwsio un ochr o'r bara gyda olew olewydd. Eu rhoi ar dun pobi ochr yr olew olewydd i lawr. Wedi'r ffwrn gynhesu rhoi'r bara i mewn a'u tostio am 5-6 munud hyd nes bo'r bara'n troi'n euraidd.
- Fel arall mae modd tostio'r bara heb eu hiro â olew gynta drwy eu tostio ar ridyll am tua munud pob ochr. Gyda cyllell siarp rhoi 3 hollt ym mhob sleisen a rhwbio ychydig o garellg ar bob un. Ysgeintio tua hanner llwy de o olew olwydd ar bob ochr. Hwn ydi'r ffordd mwya traddodiadol o wneud bruschetta.
- Rhoi'r bara ar blât gweini ochr yr olew i fyny, ac unai rhoi'r gymysgedd tomato mewn powlen i bawb helpu eu hunain neu rhoi ychydig o'r gymysgedd ar bob darn bara a'i weini. Os am roi'r gymysgedd dros y bara gwnewch hyn cyn gweini neu mi fydd y bara'n mynd yn slwch.
- Bydd digon ar gyfer 6-10 fel pryd cychwynol. Gweini 3-4 fel cinio. Mae'r rysait yma'n ddigon i greu 24 sleisen fach.

Crempogau
Cynhwysion
- 110g blawd plaen wedi hidlo
- Pinsied o halen
- 2 wy
- 200ml llefrith wedi gymysgu gyda 75ml o ddwr
- 50g menyn
Dull
- Hidlo'r blawd a'r halen i bowlen fawr. Rhoi twll yn y canol a torri'r wyau i mewn. Chwisgio'r wyau gyda chwisg llaw neu bydd fforc yn iawn.
- Yn raddol ychwanegu'r llefrith fesul tipyn ( peidiwch a poeni am unrhyw lympiau fe fydda nhw'n diflannu fel da chi'n chwisgio). Pan fo'r holl hylif wedi ei ychwanegu defnyddiwch sbatwla i gael pob un darn o'r cytew o'r ochrau i'r canol. Ei chwisgio unwaith eto hyd nes bod y cytew yn esmwyth a gyda ansawdd hufen tennau.
- Toddi menyn mewn padell. Ac yna ei arllwys i mewn i'r cytew a'i adael i orffwys am hanner awr.
- Cynhesu'r badell hyd nes yn boeth iawn, yna troi'r gwres i lawr i gymhedrol. Ychwanegu ychydig o fenyn a gwnewch brawf gyda'r grempog cyntaf i weld os ydych yn defnyddio y swm cywir o gytew. Rhowch ddigon o'r cytew i orchuddio gwaelod y badell. Munud for cytew yn taro'r badell poeth, gwyro'r badell o ochr i ochr i gael y gwaelod yn haenen o gytew cyfartal. Dylai'r grempog fod yn barod ar ôl ryw hanner munud, ac fe ellwch godi ochr y grempog gyda cyllell palet i weld os yw'n liw euraidd. Troi'r grempog drosodd a'i goginio am ychydig eiliadau yn unig ac yna ei lithro o'r badell i blât.

Pwdin Eryri
Cynhwysion
- 15-25g menyn, meddal
- 100g rhesins
- 175g briwsion bara ffres gwyn
- 75g siwet mân
- 75g sigwr brown ysgafn
- 25g blawd corn
- 1 lemon, croen wedi gratio'n fân iawn
- 2 wy
- 85g marmalêd oren
- 30ml sudd lemwn ffres
Ar gyfer y saws
- 3 lemwn , sudd a chroen
- 25g blawd corn
- 300ml llefrith braster llawn
- 80g sigwr mân
- 25g menyn
Dull
- Rhwbio menyn tu mewn i bowlen 1.2litr (2 beint) a gwthio hanner y rhesins i'r menyn.
- Mewn powlen, cymysgu'r briwsion bara, siwet, sigwr brown, blawd corn, croen y lemwn a gweddill y rhesins. Mewn powlen arall curo'r wyau, marmalêd a sudd lemwn a'i gymysgu i mewn i'r cynhwysion sych.
- Llwyo'r gymysgedd i mewn i'r bowlen gyda'r menyn gan fod yn ofalus i beidio symud y rhesins ar y gwaelod.
- Gorchuddio'r cyfan gyda papur menyn (wedi plygu yn y canol) a darn mawr o babur gloyw ( hefyd wedi blygu yn y canol). Plygu'r ochrau yn dynn o gwmpas y bowlen a'i stemio dros badell o ddwr berw am 1¾ awr.
Dull ar gyfer y saws
- Rhoi croen y lemwn i sosban gyda 150ml o ddwr, sigwr a'r sudd lemwn. Dod ar cyfan i'r berw a'i adael i ffrwtian am 10 munud. Mewn powlen fach, cyfuno'r blawd corn gyda'r llefrith a'i gymysgu mewn iI'r sosban. Ychwanegu'r menyn a parhau i chwisgio'r cyfan hyd nes bod y saws yn tewhau ac yn dod ir berw. Ei dynnu oddi ar y gwres a parhau I'w chwisgio i arbed lympiau.
- I'w weini, troi'r pwdin ar blât cynnes arllwys ychydig o'r saws ar ei ben a gweni gweddill y saws ar wahân.

Stecen llyged yr asen mewn saws gwin coch a sialots
Cynhwysion
- 2 x 250g Stecen llyged yr asen, wedi dorri'n drwchus
- 250g sialots, wedi torri'n fân
- 25g menyn
- 1 gewyn garlleg, wedi sleisio'n denau
- 1 sbrigyn o rosmari
- 4 llwy fwrdd o finegr balsamig
- 400ml gwin coch - Wnes i ddefnyddio gwin coch Rondo, Pant Du
- 400ml stoc cig eidion
- Ychydig o fenyn
Dull
- Coginio'r stecen i'ch dant chi, ei dynnu o'r badell a'i adael i orffwys mewn lle cynnes tra bod chi'n gwneud y saws yn yr un badell.
- Cynhesu'r menyn yn y badell a ffrio'r sialots dros wres uchel am oddeutu 2 funud hyd nes yn lliw euraidd, gan eu troi'n rheolaidd i arbed nhw rhag llosgi.
- Ychwanegu'r garlleg a'r rhosmari a coginio'r cyfan am 3 munud arall gan barhau i'w troi i arbed y sialots rhag llosgi.
- Arllwys y finegr a'i goginio hyd nes wedi anweddu a throi'n surop, yna arllwys y gwin coch a'i goginio hyd nes ei fod yn lleihau i bron I ddwy ran o dair.
- Arllwys y stoc a'i ddod i'r berw. Troi'r gwres i lawr a'i adael i ffrwtian hyd nes ei fod wedi lleihau unwaith eto i bron dwy rhan o dair, oddeutu 250ml. Tynnu'r garlleg a'r rhosmari a chwisgio'r menyn ychwanegol i'r saws. Ychwanegu unrhyw sudd o'r stecen cyn ei weini.

Tiramisu
Cynhwysion
- 3 melynwy
- 50g sigwr caster
- 1 llwy de rhin fanila / 1 pod fanila
- 250g mascarpone
- 250ml hufen dwbl, wedi chwipio yn ysgafn
- 350ml coffi cryf, wedi oeri
- 2 llwy fwrdd Marsala
- 2 llwy fwrdd Tia Maria
- 300g bysaidd sbwng
- 2-3 llwy fwrdd powdr coco, wedi hidlo
Dull
- Hollti'r podyn fanila ( os yn ei ddefnyddio) yn hanner ar ei hyd a chrafu'r hadau gyda blaen cyllell.
- Mewn powlen gwrth-wres chwisgio'r melynwy a'r sigwr a'r hadau fanila neu rhin fanila gyda chwisg llaw trydan dros sosban o ddwr sy'n ffrwtian. Mae'r gymysgedd yn barod pan fo chi'n gallu gweld ol ewyn wrth godi'r ffyn curo.
- Ei dynnu oddi ar y gwres ai adael I oeri. Curo'r mascarpone ac yna plygu'r hufen iddo'n ysgafn. Ei roi I un ochr.
- Cymysgu'r coffi gyda'r Marsala a'r Tia Maria. Yna trochi'r bisgedi sbwng yn sydyn yn y gymysgedd coffi gan wenud yn siwr bod nhw'n gael I gorchuddio'n llwyr. Os yn defnyddio bisgedi spwng yna byddwch yn ofalus I bedio gadael nhw am ddim mwy na ychydig eiliadau yn y coffi neu fe awn nhw'n slwjch. Gosod hanner y bisgedi ar waelod powlen weini a rhoi hanner y gymysgedd mascarpone a'r hufen ar ei ben.
- Ail adrodd y broses gyda'r bisgedi a gweddill yr mascarpone a hufen. Hidlo'r powdwr coco dros y cyfan yn gyfartal. Ei orchuddio a'r gadw yn yr oergell am oleia dwy awr.

Lasagne crempog gyda madarch gwyllt
Cynhwysion
- 1/2 litr dwr berw
- 60g madarch porcini wedi sychu a'u socian mewn dwr berw am 20 munud
- 1 nionyn canolig, wedi dorri
- 1 gewyn garlleg, wedi gratio neu dorri'n fân
- 2 lwy fwrdd olew olewydd gwyryf cryf
- 700g madarch castan ffres, wedi torri'n drwchus
- 1/2 llwy de o halen
- 2 pinsiad go lew o bupur gwyn
- 2 llwy de o olew cloron gwyn
Saws Béchamel
- 4 llwy fwrdd menyn di-halen
- 3 llwy fwrdd blawd plaen
- 400ml llefrith llawn, wedi gynhesu
- 100ml hufen dwbl
- 200ml stoc porcini
- 1 gewyn garlleg, wedi mal
- 3/4 llwy de halen
- 2-3 pinsied dda o bupur gwyn
- 25g caws Parmesan, wedi gratio
Dull
- Socian y madarch mewn dwr berw yn unol ar cyfarwyddiadau ar y pecyn.
- Cynhesu olew mewn padell ffrio fawr a coginio'r nionyn a'r garlleg hyd nes yn feddal ac yn dryloyw. Eu tynnu o'r badell a'u rhoi mewn powlen cynnes, yna sesno'r madarch castan gyda pupur a halen a'u ffrio yn yr un olew hyd nes yn liw euraidd. Tynnu'r madarch o'r badell a'u hychwanegu at y nionod.
- Drainio'r madarch porcini ( gan gadw stoc y madarch ar gyfer y saws béchamel) gwaredu'r dwr a'u torri'n fras. Eu sychu a'u coginio yn yr un badell ar madarch castan a'u coginio hyd nes eu bod yn troi'n liw brown ysgafn. Eu tynnu o'r badell a'u hychwanegu at y gymysgedd nionyn a madarch.
- Ysgeintio'r olew cloryn gwyn dros y gymysgedd madarch a'i gyfuno'n dda. Ei adael i un ochr tra'n gwneud y saws.
Dull
- Cynhesu'r llefrith, hufen a'r stoc madarch mewn sosban maint canolig.
- Mewn sosban arall, toddi'r menyn a coginio'r garlleg hyd nes yn liw euraidd ac yna ei waredu.
- Ychwanegu'r blawd a'i gymysgu'n dda i greu 'roux' ( past) a'i gognio am ychydig funudau.
- Ychwanegu'r hylif cynnes mewn tri llwyth, gan gymysgu'n dda i waredu unrhyw lympiau, coginio'r cyfan am 5 munud dros wres isel gan barau i gymysgu'n rheoliadd.
- Sesno gyda halen a pupur.
Adeiladu'r lasagne
- I adeiladu'r lasagne, llwyo chwater o'r saws Béchamel ar waelod desgyl addas ar gyfer y popty.
- Rhoi haenen o grempogau ar ben y saws yna dwy ran o dair o'r gymysgedd madarch and yna chwarter o'r saws.
- Ail adrodd y broses a gorffen y pryd gyda gweddill y saws ac ysgeintiad o gaws Parmesan wedi gratio.
- Ei bobi yn y popty ar 180°c hyd nes yn liw euraidd.

Pysgodyn wedi bobi gyda Saws Tomato, Taragon a Olifau Du
Cynhwysion
- 1 llwy fwrdd olew olewydd
- 1 nionyn mawr, wedi dorri'n fras
- 1 gewyn garlleg, falu'n fân
- 1 llwy fwrdd o biwre tomato
- 1 gwydriad gwin gwyn canolig
- 400g tun tomatos wedi malu
- 1 llwy de o sigwr bras
- 175g olifau du mewn olew, cerrig wedi gwaredu
- 25g menyn
- 1 lemwn wedi dorri'n 4 darn
- 4 ffiled o cegddu gwyn, heb esgyrn ac yn pwyso oddeutu 200g
Dull
- Cynhesu'r ffwrn i 180C(ffan) / confensiynol 200C/nwy 6.
- Cynhesu 1 llwy fwrdd o'r olew o'r olifau mewn padell gwrth wres. Tollti'r nionyn i'r badell a'i gymysygu'n dda ac yn rheolaidd i arbed llosgi a'i ei adael i goginio hyd nes yn feddal ac yn liw euraidd.
- Ychwanegu'r piwre tomato a'r sigwr a'i goginio am ychydig funudau gan barhau i'w droi i arbed llosgi, ychwanegu halen a pupur.
- Ychwanegu'r gwin, a'i ddod i'r berw a'i leihau i hanner y maint gwreiddiol, yna ychwanegu'r olifau a'i gymysgu'n dda.
- Tollti'r tomatos i'r badell a'i goginio am 10 munud a'r wres isel am oddeutu 10 munud yna ychwanegu'r menyn a'i gymysgu'n dda i'r saws.
- Torri'r taragon a'i ychwanegu i'r saws.
- Rhoi'r pysgodyn yn y saws ochr y croen i lawr ac ysgeintio ychydig o'r olew olewydd dros y cyfan. Ei bobi heb gaead am oddeutu 15 munud hyd nes bod pysgodyn yn grimp ac wedi coginio. Ei weini'n syth gyda cwscws a darn o lemwn i'w wasgu dros y cyfan.

Cregyn Gleision gyda saws gwin gwyn a tsili
Cynhwysion
- 1 kilo o gregyn gleision wedi eu glanhau
- ½ winwnsyn wedi dorri'n giwbiau
- 2 gewin garlleg wedi malu'n fan
- 50g o fenyn
- 100ml o win gwyn sy'n gymharol sych
- 2 llond llwy fwrdd o Crème Fraiche
- ½ tsili ffres neu pinsied dda o hadau tsili sych
- 1 llwy fwrdd o bersli wedi dorri'n fan
- Sudd ¼ leim
Dull
- Toddi'r menyn a ffrio'r winwnsyn a'r garlleg hyd nes yn feddal.
- Ychwanegu'r gwin a'i fyd-ferwi.
- Arllwys y cregyn gleision i'r sospan, ac ychwanegu'r Crème Fraiche a'r chilli, Gorchuddio'r sospan gyda caead a'i goginio nes bod y cregyn wedi agor.
- Ei orffen gyda parsli wedi ei dorri'n fan a sudd y leim.

Hufen Ricotta gyda bisgedi Amaretti, almonau a siocled
Cynhwysion
- 250g caws ricotta
- 250ml hufen chwipio
- 4 llwy fwrdd sigwr eisin
- 8 bricyll sych, wedi torri'n 8 a'i socian yn y gwirod am 30 munud
- 2 llwy fwrdd gwirod Kirsch
- 50g almonau wedi gwynnu a'u malu'n ysgafn
- 25g almonau tennau wedi tostio
- 30g bisgedi Amaretti, wedi malu'n fras
- 30g bisgedi sinsir, wedi malu'n fras
- 3 llwy fwrdd o siocled plaen wedi gratio
Dull
- Mewn powlen fawr, torri'r ricotta gyda fforc hyd nes yn feddal.
- Mewn powlen ar wahân, chiwpio'r hufen hyd nes yn galed ac yna'n araf ychwanegu'r sigwr.
- Yn ysgafn iawn cymysgu'r ricotta gyda'r hufen, ychwanegu'r bricyll a'r gwirod, yr almonau wedi malu'n fân, y bisgedi a hanner y siocled.
- Rhannu'r pwdin i 4 gwydyr neu bowlen a'i adael i orffwys yn yr oergell am 30 munud. Yna ei dynnu o'r oergell.
- Cyn ei weini ei ysgeintio a'r almonau wedi tostio a gweddill y siocled wedi gratio.

Pei Meringue Lemwn
Cynhwysion
Ar gyfer y crwst
- 175g blawd plaen
- 100g meyny oer, wedi dorri'n ddarnau bach
- 1 llwy fwrdd sigwr eisin
- 1 melynwy
Ar gyfer y llenwad
- 2 llwy fwrdd lefel o flawd corn
- 160g sigwr caster euraidd
- 6 lemwn mawr, croen o 5 a sudd o 6
- 85g menyn, wedi dorri'n ddarnau
- 3 melynwy ( cadw'r gwyn ar gyfer y meringue)
- 2 wy
- 4 llwy fwrdd hufen dwbl
Ar gyfer y meringue
- 4 gwynwy, gwres ystafell
- 200g sigwr caster euraidd
- 2 llwy de hafal o flawd corn
- ½ llwy de sudd lemwn
Dull
- Rhoi holl gynhwysion y crwst mewn prosesydd bwyd a'i gymysgu fel bo'r holl gwynhwysion yn dod at i gilydd, yna arllwys y crwst ar fwrdd wedi ei ysgeintio'n ysgafn gyda blawd a chreu toes esmwyth. Ei lapio mewn papur glynu a'i adael i orffwys yn yr oergell am 30 munud.
- Rholio'r crwst ar y bwrdd wedi ei ysgeintio â blawd yna leinio tun gyda gwaelod rhydd maint 23 x 2.5cm. Gwasgu'r crwst I'r tun ac os yw'r crwst yn malu does dim ond angen i chi ei wasgu yn ôl at i gilydd. Gadewch i'r crwst ddod dros ochr y tun, fydd hyn yn ei arbed rhag cywasgu yn ystod y coginio. Gwneud tyllau yng ngwaelod y crwst a'i leinio gyda papur gloyw ochr golyw i lawr a'I oeri am ½ - 1 awr ( neu dros nos).
- Cynhesu'r ffwrn i 200C/ffan neu 180C/nwy 6. Bobi'r crwst yn ddall ( wedi ei lenwi a ffa seramig) am 15 munud yna gwaredu'r ffoil a'i bobi am 5-8 munud ychwanegol hyd nes fo'r crwst yn olau, euraidd ac wedi coginio. Ei roi i un ochr ( fe all hyn gael ei wneud diwrnod yn nghynt). Dod a gwres y ffwrn i lawr i 180C/fan 160C/nwy 4.
- Cymysgu'r blawd corn, sigwr a croen y lemwn mewn sosban maint canolig. Hildo'r sudd lemwn a'i ychwanegu'n raddol. Coginio'r cyfan dros wres cymhedrol gan ei droi'n rheoliadd hyd nes wedi twchu ac yn esmwyth. Unwaith fod swigod yn ymddangos ei dynnu oddi ar gwres a curo'r menyn i mewn hyd nes ei fod wedi toddi.
- Curo'r wy cyfan a'r melwynwy gyda'i gilydd ( gan gadw'r gwyn ar gyfer y meringue) a'i ychwanegu i'r sosban a'i ddychwelyd i'r gwres cymhedrol. Cadw i'w droi'n rheolaidd ac yn egniol am ychydig funudau hyd nes bod y gymysgedd yn twchu. ( Mi fydd na swigod ond ni wnaiff geulo gan fod y blawd corn ynddo. Ei dynnu oddi ar y gwres a'I roi I un ochr tra bod y meringue yn cael ei wneud.
- Cyn cychwyn mae angen sicrhau bod y bowlen yn hollol lân, yna ychwanegu'r gwynwy gyda ½ llwy de o sudd lemwn a'i chwisgio i greu pegynnau ysgafn, ychwanegu hanner y sigwr tua llwyiaid ar y tro gan ei chwisgio ar ôl pob ychwanegiad. Chwisgio'r blawd corn i'r meringue a gweddill y sigwr hyd nes yn esmwyth a trwchus. Yn sydyn ail gynhesu'r llenwad a'i arllwys i'r crwst. Yn syth rhoi llwyiaid o'r meringue o amgylch ochr y llenwad a'i wasgaru fel ei fod yn cyffwrdd y crwst. Rhoi'r gweddill yn y canol a'i wasgaru fel ei fod yn cyffwrdd y llenwad cynnes yn y canol (ac yn dechrau coginio ) Ei ddychwelyd i'r ffwrn am 18-20 munud hyd nes bo'r meringue yn crimp ac yn euraidd. Ei adael yn y tun am 30 munud yna ei dynnu ai adael am oleiad awr cyn ei sleisio ai fwyta yr un diwrnod.

Cwscws llysiau wedi rhostio
Cynhwysion
- 200g cwscws
- Stoc cyw iar
- 2 llwy fwrdd olew olewydd
- 2 sialot wedi gwaredu'r croen a'u deisio
- 1 pupur coch, wedi rostio, plicio, gwaredu'r hadau a'i giwbio
- 1 pupur coch, wedi rostio, plicio gwaredu'r hadau a'i giwbio
- 1 gorpwmpen wedi dorri ar ei hyd, gwaredu'r hadau a'i ddeisio i ddarnau 1cm
- ½ pecyn o goriander, wedi falu'n fras
- 1 twb bach o iogwrt Groegaidd brasder isel ( opsiynol )
Dull
- Coginio'r cwscws gan ddefnyddio'r stoc cyw iâr ac yn ôl y cyfarwyddyd ar y pecyn.
- Cynhesu un llwy fwrdd o'r olew mewn padell ffrio ddofn, ychwanegu'r sialots a'u ffio'n ysgafn i'w meddalu, eu tynnu or badell a'u rhoi ar blat cynnws.
- Cynhesu gweddill yr olew a coginio'r corbwmpen hyd nes yn frown, eu sesno gyda halen a pupur yna ychwanegu'r nionod a'r puprau wedi rhostio.
- Gan ddefnyddio fforc, gwahanu'r cwscws sydd wedi coginio ac arllwys y llysiau, y coriander a'r olew olewydd or badell dros y cwscws, ei gymysgu'n dda a'i weini'n gynnes gyda creon lemwn wedi gratio a iogwrt Groegaidd.

Porc Marsala Sain Ffagan
Cynhwysion
- Menyn
- 2 Ffiled o Borc (y croen gwyn wedi dynnu, yna eu torri'n dafelli a'u curo'n escallop tenau)
- 1 Sialot wedi ei dorri'n fân
- 2 Gewin Garlleg wedi eu torri'n fân
- 50ml Gwin Marsala
- 1 gwydriad o win Rosè
- 4 llwy fwrdd o hufen curo
- 1 llwy bwdin o fwstard cyflawn
- Dail perlysiau wedi eu torri'n fân - 1 deilen saets, 2 goes o bersli ffres, ac 1 coes teim - dail yn unig.
- Halen a Phupur
DULL
- Gorchuddio'r porc gyda halen a phupur.
- Ffrio'r darnau porc mewn digon o fenyn gan sicrhau bod y ffrimpan yn boeth cyn ychwanegu'r porc fel bo'r cig yn coginio mewn munudau.
- Ychwanegu'r sialot a'r garlleg a'u coginio hyd nes yn feddal.
- Ychwanegu'r gwin Marsala i felysu'r saws, a'i leihau.
- Ychwanegu'r gwin Rosè, a berwi'r cyfan gan gadw'r gwres yn uchel.
- Ychwanegu hufen i dewhau'r saws, yna'r mwstard.
- I orffen, ychwanegu'r perlysiau a'u cymysgu mewn i'r saws cyn ei weini.

Salad som tam gyda cyw iar a saws sbeisi
Cynhwysion
- ¼ Bresych gwyn wedi ei dorri'n fân
- 1 Moron wedi ei dorri'n stribedi tenau
- ¼ Ciwcymbr wedi ei dorri'n stribedi tenau
- 12 Tomato bach melys wedi eu torri'n hanner
- Ffa Ffrengig wedi eu torri'n 8
- ½ Mango wedi dorri'n stribedi tenau
- Sudd 1 leim
- 1 Tsili coch wedi ei dorri'n fân
- 2 lwy de Siwgr brown
- 2 lwy bwrdd Cnau
- 2 lwy de Nam Pla
- 2 lwy de Olew Sesame
Dull
- Rhoi'r llysiau a'r cnau mewn powlen a defnyddio rholbren i ryddhau y sudd naturiol o'r cynyrch.
- Ychwanegu'r sudd leim, siwgwr, nam pla a'r olew sesame a cymysgu'r cyfan yn dda, gallwch ychwanegu mwy o tsili os am salad sbeislyd iawn.

Spotted dick
Cynhwysion
- 350g blawd plaen
- 100g siwet llysiau
- 100g sigwr caster euraidd
- 1 llwy fwrdd powdwr pobi
- ½ llwy de sinamon
- 1 oren croen a sudd
- 100ml llefrith
- 150g cymysgedd i rhesins, ceirios sych a llugaeron ffre
- 75g sigwr brown ysgafn
Ar gyfer y saws
- 125g menyn
- 150g sigwr brown tywyll
- 1 llwy fwrdd sinamon
- 1 llwy de rhin fanila
- 1 oren sudd yn unig
- Llond llaw o malws melys
Dull
- Rhoi'r blawd, siwet, sigwr caster, powdwr pobi a sinamon mewn powlen.
- Ychwanegu'r sudd oren a'r croen a'r llefrith i greu toes meddal.
- Rhowlio'r toes I greu siap hirsgwar. Yna ei roi ar bapur menyn.
- Ysgeinito'r toes gyda'r ffrwythau sych a'r sigwr.
- Rhowlio'r toes I siap silindr a'I lapio mewn ffoil.
- Rhoi'r cyfan mewn stemar a'I roi dros sosban o ddwr berw.
- Ei orchuddio ai stemio am 1-1¼ awr.
- I wneud y saws, rhoi'r menyn, sigwr brown, sinamon, fanil a'r sudd oren I sosban a;I ddod I'r berw yn ysgafn.
- Pan fo'r pwdin yn barod tywllat y saws melys dorsto a'I roi yn ol yn y ffwrn am 10 munud.
- Ei dynnu o'r ffwrn yna eu ysgeintio ar malws melys a nol ir ffwrn I doddi.

Sgalopiaid wedi Ffrio gyda spigoglys ifanc, bacen crensiog a 'beurre blanc' seidr
Cynhwysion
Ar gyfer y sgalopiaid
- 4 haenen o facwn brith wedi fygu
- Olew olewydd
- 12 scalopiau brenin wedi glanau ac o'u cregyn
- Halen a pupur
- 50g menyn di halen
- 650g spigoglys ifan wedi golchi
Ar y beurre blanc
- 200ml finag seidr
- 150g sialots wedi malu'n fân
- 250ml siedr melys
- 1 afal Cox yn delfrydol wedi plcio a'i gratio'n fân
- 375g menyn wedi giwbio a'i oeri
Dull
- Cynhesu'r ffwrn i wres 200C/400F/Nwy 6. Rhoi'r bacwn rhwng dau ddarn o babur menyn a'u rhostio am 20 munud hyd nes yn grimp. Eu rhoi i un ochr hyd nes wedi oeri ac yna eu malu mewn pestl a mortar.
- Ar gyfer y beurre blanc, rhoi'r finag seidr a'r sialots mewn sosban fach drom a'i adael i ffrwtian am 8-19 munud neu hyd nes wedi lleihau i bron i hanner. Ychwanegu'r seidr a'r afal wedi gratio a'i leihau unwaith eto o un rhan dair.
- Rhoi cynhwysion y badell i bowlen fawr a'i roi dros badell o ddwr sy'n ffrwtian. Ychwanegu'r menyn ychydig ar y tro a'i chwisgio'n rheoliaidd, a parhau i'w chwisgio hyd nes bo'r saws yn drwchus a hufenog. Peidiwch ai or boethi neu mi fydd y saws yn hollti.Rhoi'r gwres i ffwrdd a cadw'r saws yn gynnes cyn ei weini.
- I goginio'r sgalopiaid cynhesu'r olew olewydd mewn padell ffrio fawr. Sesno'r sgalopiaid gyda halen a pupur a'u selio am un munud. Troi'r sgallopiaid ac ychwanegu'r menyn a'u gorchuddio a'u coginio am funud hyd nes yn liw euraidd. Eu tynnu o'r badell a'u rhoi i ddraenio ar bapur cegin.
- Dod a sosban fawr o ddwr i'r berw ac ychwanegu'r spigoglys a'i goginio am un munud. Ei ddraenio'n dda ar bapur cegin. Sesno gyda halen a pupur.
- I'w weini, gwenud pwll o'r saws beurre blanc ar bob plat. Llond llaw o sbigoglys yna'r sgalopiaid cyn rhoi'r bacwn dros y cyfan.

Pwdin Mynwy
Cynhwysion
- 425ml llefrith
- 25g sigwr caster
- Croen mân 2 lemwn
- 175g briwsion bara ffres
- 2 wy wedi gwahanu
- 120ml jam mafon
- 1 llwy de rhin fanila
- 50g Mafon ffres wedi gwasgu rhyw fymryn
Dull
- Cynhesu'r ffwrn i 150c / 300f / Nwy 2. Iro desgyl addas ar gyfer y ffwrn maint 23cm / 9 modfedd.
- Arllwys y llefrith i sosban ac ychwanegu'r sigwr a'r croen lemwn a'r rhin fanila a'i ddod i'r berw.
- Rhoi'r briwsion bara mewn powlen gymysgu fawr ychwanegu'r llefrith poeth a'i gymysgu'n dda a'i adael am 15 munud.
- Ychwanegu'r melynwy a'i gymysgu'n dda.
- Chwisgio'r gwynwy gyda ½ llwy de o sudd lemwn hyd nes bod pegynnau called yn ffurfio yna eu plygu i mewn i'r gymysgedd briwision bara gyda llwy fetel peidiowch a curo'r gymysgedd neu mi fyddwch yn colli ysgafnder y gwynwy.
- Toddi'r menyn ( ar hob neu microdon) ac ysgeintio hanner ohonno i waelod desgyl wedi ei iro.
- Llwyo hanner y gymysgedd briwsion bara dros y jam ac yna haenen o'r mafon ac yna mwy o'r jam cyn gorffen ddesgyl gyda gweddill y gymysgedd briwsion bara.
- Ei bobi yn y ffwrn am oddeutu 30-40 munud neu hyd nes yn liw euraidd ar y top ac wedi coginio trwyddo. Ei weni gyda hufen dwbl, digon ohonno!

Stecen cig oen morfa heli gyda cacennau bara lawr a chocos
Cynhwysion
- 2x 250g stecen cig oen morfa heli
- Halen & Pupur
- 3 llwy fwrdd o fara lawr
- 1 llwy fwrdd cocos
- Pinsiad dda o bupur du
- 1 llwy fwrdd o geirch canolig ar gyfer cymysgu yn y bara lawr
- 2 llwy fwrdd o geirch canolig i orchuddio'r gacen bara lawr
- 6 Tomato bach wedi hanneru
- 1 llond llaw da o ferllys y môr wedi olchi
- 25g Menyn
- 2 llwy fwrdd pesto
Dull
- Cynhesu padell ffrio ddigon mawr i goginio dwy stecen.
- Sesno'r cig oen gyda halen a pupur a gafael yn y cig a choginio'r braster yn gyntaf, eu brownio a rhyddhau ychydig o'r braster, tua 2 funud, yna eu coginio am 3 munud pob ochr. Eu tynnu o'r badell a'u gadael i orffwys am 10 munud.
- Cymysgu'r bara lawr, cocos, pupur du a un llwy fwrdd o geirch a'u siapio'n 2 gacen bach. Os yw'r gymysgedd yn rhy wlyb ychwanegu mwy o geirch bydd hyn yn helpu'r gymysgedd gadw at ei gilydd pan yn coginio. Gorchuddi'r gyda gweddill y ceirch.
- Ychwanegu menyn i badell ffrio a ffrio'r cacenau bara lawr hyd nes yn liw euraidd.
- Ychwanegu'r merllys y môr a'r tomatos a'u cynhesu trwyddynt.
- Rhannu'r merllys y môr rhwng y plateau. Sleisio'r cig a'i orffwys ar y merllys y môr. Rhoi ambell i domato ar y plat a llwyo ychydig o'r sudd o'r badell ac yna ysgeintiad o besto.

Rhac cig oen a ysgwydd cig oen gyda powdwr pum sbeis
Rhac o gig oen
- 1 x 6 Rhac cig oen ( fel arfer yn ddigon i ddau berson ond gyda'r parseli ysgwydd bydd 1 rhac yn ddigon i dri ) *
- 1 llwy de olew olewydd
*Gofynnwch i'r bwtcher baratoi y cig I chdi neu :
- Torri 1/3 or cig brasterog uwchben y llygaid o gig yr oen. Gwaredu unrhyw cig oddi ar yr asgwrn.
- Sesno'r cig gyda halen a pupur.
- Cynhesu padell ffrio ac ychwanegu 1 llwy de o olew olewydd. Selio'r cig am 3 munud bob ochr ei dynu oddi ar y gwres ai adael i oeri. Ei roi i un ochr hyd nes yn barod i'w ddefnyddio.
Parseli ysgwydd cig oen
- ½ Ysgwydd yr oen
- 1 Moron wedi dorri'n 4
- 1 Ffon helogen wedi dorri'n 4
- 1 Nionyn wedi dorri'n chwarteri
- 6 Gewyn garlleg
- Halen a pupur
- 1 sbrigyn o rosmari
- 1 llwy de powdwr 5 sbeis ( yn ddibynnol ar eich blas)
- ½ litr o stoc cig oen neu gyw iar
- 1 pecyn o grempogau Tseiniaidd
Dull
- Rhoi'r llysiau mewn tun rhostio gyda'r rhosmari, gorwedd y cig oen ar ei ben, ei sesno a'i rostio mewn ffrwn wedi gynhesu yn barod ar wres 180°C am ddwy awr hyd nes fo'r cig yn dyner. Angen ireiddio'r cig yn aml.
- Wedi coginio ei dynnu o'r tun a'i adael i oeri.
- Gwaredu'r braster a cadw'r llysiau yn y tun rhostio i wneud y saws.
- Ychwanegu ½ litr o stoc cig oen neu gyw iâr at y llysiau ai adael i ffrwtian a'i leihau i hanner y maint gwreiddiol.
Cynhwysion y saws
- 1 Sialot wedi dorri'n fân
- 6 madarch castan wedi sleisio
- 1 gwydriad o win Gewürztraminer
- 25g menyn di-halen
Dull y saws
- Toddi'r menyn mewn sosban.
- Ychwanegu'r nionod a'u coginio hyd nes yn dryloyw.
- Ychwanegu'r madarch wedi sleisio a'u coginio hyd nes yn dechrau brownio.
- Ychwanegu'r gwin, dod ar cyfan i'r berw a'i leihau i hanner y maint gwreiddiol.
- Draenio'r stoc llysiau ( gweler rysait y cig oen ar gyfer y stoc yma) i'r saws, a'i goginio hyd nes bo'r saws wedi ei leihau i hanner y maint gwreiddiol mae hyn yn bwysig fel bod modd cael y blas gore.
- Draenio'r saws i sosban lan, gwaredu unrhyw sudd o'r nionod a'r madarch a'i adael i un ochr i oeri.
Parseli cig oen
- Unwaith fo'r cig oen wedi oeri a'i rwygo i bowlen.
- Ychwanegu'r madarch a'r nionyn a'r powdr 5 sbeis, a'i gymysgu'n dda.
- Cymeryd un haenen o grempog, a rhoi un llwy fwrdd o'r gymysgedd cig oen a'i osod yn un pen gan adael 4cm o'r grempog heb lenwad. Yna plygu'r grempog unwaith, plygu'r ochrau i mewn, gwlychu'r pen gyda mymryn o ddwr a'i rolio i greu parsel bach fydd yn selio'r llenwad. Dylie chi gael siap sigar. Ei gadw yn yr oergell hyd nes yn barod i'w ffrio.
I orffen y pryd cig oen
Rac
- I orffen coginio'r rac, cynhesu'r ffwrn i 180°C, rhoi'r rac ar dun rhostio a'i rostio am 15-20 munud, ei dynnu o'r tun a'i adael i orffwys mewn lle cynnes.
Parseli ysgwydd cig oen
- Cynhesu digon o olew cneuen daear mewn padell ddofn a ffrio'r parseli hyd nes yn liw euraidd, eu draenio ar bapur cegin cyn eu gweini.
I'w weini
- Sleisio'r rac yn 6 cytlet, a rhoi 2 ar bob plât.
- Sleisio'r parseli sydd wedi ffrio ar ongl a'u gweini ar y blat gyda'r cytlets a mymryn o'r saws a'r llysiau. Gweini gweddill y saws mewn desgyl addas.

Pwdin bara siocled ac oren
Cynhwysion
- 9 tafelli tew o fara gwyn da
- 3 llwy bwdin o farmaled oren tywyll
- 150g sioceld tywyll ( 75g cocoa)
- 75g menyn di halen
- 425ml hufen chwipio
- 1 oren croen
- 4 llwy fwrdd gwirod oren
- 110g siwgr caster
- 3 wyau mawr
- Hufen dwbl trwm wedi oeri
Dull
- Rhoi'r darnau siocled, hufen chwipio, gwirod, croen oren, sigwr a'r menyn mewn powlen gwrth wres. Gorwedd y bowlen dors sosban o ddwr sy'n ffrwtian gan fod yn ofalus i beidio cael y bowlen i gyffwrdd y dwr. Troi'r cynhwysion ambell waith a'i adael hyd nes bo'r menyn a'r sigwr wedi toddi. Tynnu'r bowlen oddi ar y gwres a'i dorri'n dda.
- Gwaredu crwst y bara a'i wasgaru gyda marmaled dros hanner y tafelli a chreu brechdan gyda'r gweddill. Torri'r brechdanau yn 4 triongl.
- Mewn powlen ar wahân chwisgio'r wyau yn ysgafn ac yna arllwys y gymysgedd siocled a'I gymysgu'n dda.
- Mewn desgyl addas ar gyfer y ffwrn ( tua 7 x 9 modfedd/18 x 23 cm) arllwys tua ½modfedd (1cm) o'r gymysgedd siocled.Yna'n ofalus gosod y brechdanau marmaled ar ben y gymysgedd sioceld.
- Arllwys hanner y gymysgedd dros y bara.
- Arllwys y gweddill o'r gymysgedd sioceld a'i wasgu lawr gyda fforc.
- Gorchuddio'r ddesgyl gyda papur glynu a'i adael i oeri'n gyfan gwbl mewn oergell am oleiaf 24 awr, 48 yn ddelfrydol.
- Cynhesu'r ffwrn i 350°F/180°C/nwy 4.
- Gwaredu'r papur glynu. Rhoi'r ddesgyl mewn mewn tun rhostio mwy ac arllwys digon o ddwr i orchuddio hanner ffordd y ddesgyl. Ei bobi ar silff uchel am oddeutu 30-35 munud. Erbyn hynny fe fydd y top yn grensiog a'r tu mewn dal yn feddal!
- Gadael y pwdin i orffwys am 20-30 munud, ei weini gyda jwg o hufen dwbl trwm oer.

Fondant Siocled
Cynhwysion
- 225g siocled tywyll (70%)
- 225g menyn di-halen
- 5 wy
- 5 melynwy
- 150g sigwr caster
- 40g blawd plaen
- Powdr coco
Dull
- Iro tuniau ( dariole moulds) a'u ysgeintio gyda powdwr coco.
- Toddi menyn a siocled mewn powlen dros ddwr sy'n ffrwtian.
- Cymysgu'r wyau a'r sigwr gyda'i gilydd ac yna ei ychwanegu at y menyn ar sioceld sydd wedi toddi. Ei gymysgu'n dda.
- Plygu'r blawd i'r gymysgedd a'i blethu'n dda.
- Llenwi'r tuniau i dri chwarter llawn a'u pobi ar wres 180C am 7/8 munud.

Pei Cyw Iâr, Madarch a Pancetta
Cynhwysion
- 120g blawd plaen
- Pinsiad o halen
- 60g menyn
- 40g caws Cheddar wedi gratio yn fân
- Wy i feindio'r cyfan
Y llenwad Cyw Iâr a Madarch
- 2 llwy fwrdd o olew olewydd
- 150g pancetta wedi dorri'n fân
- 3 ffiled cyw iâr heb groen ac wedi giwbio
- 150g madarch botwm wedi chwarteru
- 1 nionyn bach wedi dorri'n fras
- 1 gewyn garlleg wedi dorri'n fân
- 50g menyn
- 2 llwy fwrdd o flawd plaen ac ychydig mwy i ysgeintio
- 300ml peint o lefrith
- 200ml stoc cyw iâr
- Pupur gwyn
- Pinsied o halen
- 2 llwy fwrdd o genin syfi wedi malu'n fân
- 2 llwy de o bersli wedi malu'n fân
- 1 wy wedi guro
Dull
Crwst brau
- Hidlo'r blawd a'r halen i bowlen fawr ac yna ychwanegu'r menyn wedi ddeisio. Rhwbio'r cyfan rhwng eich bysaidd a chreu cymysgedd sy'n debyg i friwsion bara. Cymysgu'r caws i mewn a digon o wy i ddod ar gymysgedd at i gilydd fel toes cadarn. Ei ddylino'n ysgafn a'i lapio mewn papur glynu a'i oeri hyd nes yn barod i'w ddefnyddio.
- Cynhesu'r ffwrn i 200°C/400°F/nwy 6.
Y llenwad
- Cynhesu olew mewn padell fawr dros wres cymhedrol, ffrio'r pancetta hyd nes yn liw euraidd, yna eu tynnu o'r badell a'u roi mewn powlen gymysgu, yn yr un badell ffrio'r nionyn a'r garlleg hyd nes yn liw euraidd. Eu rhoi at y panchetta ac yna ffrio'r madarch hyd nes yn liw euraidd a'u sesno gyda halen a pupur. Pan yn barod eu ychwanegu at y pancetta a'r gymysgedd nionod a garlleg.
- Ychwangeu un llwy fwrdd o olew olewydd mewn padell ffrio gan wneud yn saff bod y cyw iâr wedi sych cyn ei ffrio, yna sesno'r cyw iâr gyda pupur a halen a coginio'r cyfan fesul tipyn hyd nes bod y cyw yn troi'n liw euraidd o gwmpas yr ochrau. Tynnu'r cyw iâr a'i ychwanegu at y madarch, nionod a pancetta.
Y saws gwyn
- Toddi'r menyn mewn padell ffrio fach, glanhau'r badell ac ychwanegu'r blawd a'i goginio am oddeutu 3 munud gan ei droi'n rheolaidd hyd nes bod past trwychus yn cael ei greu 'roux'.
- Cynhesu'r stoc a'r llefrith ac ychwanegu pupur a halen i'w flasu. Arllwys yr hylif yn ofalus i mewn i'r gymysgedd blawd mewn tri rhan gan ei chwisgio drwy'r amser hyd nes yn esmwyth. Ei ffrwtian dros wres isel gan ei droi'n rheolaidd am oddeutu 5 munud neu hyd nes fo'r saws yn drwchus.
- Ychwnegu'r persli a'r cenin syfi a'r arllwys dros y cyw iâr a'r madarch. Ei gymysgu'n dda a llwyo'r cyfan i ddesgyl pei a'i adael i oeri'n llwyr.
- Rhowlio'r crwst ar fwrdd wedi ei ysgeintio'n ysgafn gyda blawd a'i rhowlio hyd nes â trwch o ddarn punt.
- Brwsio ochrau'r pei gyda wy wedi guro a gorffwys y crwst ar ei ben. Gwasgu'r ochrau i lawr a rhoi 2-3 hollt yn y top i adael y stem i adael y pei.
- Pobi yn y ffwrn am 25-30 munud neu hyd nes yn euraidd ar y top.

Crymbl Rhiwbob, Ceirios a Dwr Rhosyn
Cynhwysion
Llenwad
- 4-5 coes rhiwbob mawr wedi torri'n ddarnau cyfatral o tua 1" yr un
- 2 gwpan o geirios melys wedi gwaredu'r hadau a'u hanneru
- 2 llwy de dwr rhosyn
- 1 llwy fwrdd sudd lemwn
- 150g sigwr
- 3 llwy fwrdd o flawd corn
- Pinsied o halen
Y Crymbl
- 80g blawd plaen
- 50g sigwr caster
- 1½ llwy fwrdd o sigwr brown
- 55g menyn oer di-halen wedi torri'n fras
- 1 llwy de powdwr sinamon
- 120g cnau pistasio wedi malu'n fân
Dull
Y Crymbl
- Cynhesu'r ffwrn i 190C/375F/Nwy 5.
- Rhoi cynhwysion y crymbl mewn prosesydd bwyd ( heblaw'r cnau) a'u cyfuno gyda'i gilydd, dylai'r gymysgedd edrych yn debyg i dywod.
- Tynnu'r llafn torri a cymysgu'r cnau pistasio i mewn.
- Rhoi'r gymysgedd mewn tun pobi a'i rhoi yn y ffwrn am 15 awr hyd nes yn liw euraidd. Ei gymysgu gyda fforc a'i ddychwelyd i'r ffwrn am 5 munud yn fwy. Mae'r dull yma'n sicrhau bod y glwten sydd yn y blawd yn cael cyfle i goginio gan roi crwst ysgafnach a llawer iawn haws i'w dreulio.
- Pan yn oer ei dorri a'i roi mewn tun aerglos hyd nes yn barod i'w ddefnyddio.
Y llenwad
- Mewn powlen fawr, paratoi'r llenwad gan gymysgu'r rhiwbob, ceirios, dwr rhosyn, sudd lemwn, halen a blawd corn. Gwnewch yn saff fod popeth wedi ei gymysgu'n dda.
- Gwasgaru'r ffrwyth mewn tun pobi neu ddesgyl caserol 9" yngyd a unrhyw sudd fydd wedi cael ei ryddhau. Ei bobi yn y ffwrn am 30 munud hyd nes bo'r gymysgedd yn dechrau twchu a swigod i weld ar y top. Rhoi'r gymysgedd crymbl ar ei ben a'i wasgaru dros y ffrwythau.
- Rhoi'r ddesgyl/ tun bobi ar hambwrdd pobi a'i goginio am 30 munud neu hyd nes fo'r top yn euraidd a'r llenwad yn ymddangos mewn ambell ran.

Saws dipio ar gyfer y tempura
Cynhwysion
Saws
- 3 llwy fwrdd o saws soi
- 3 llwy fwrdd o sieri sych
- 1 llwy fwrdd o sigwr
- 1 lemwn, croen yn unig
Llysiau
- 2 corbwmpen
- 4 india corn bach
- 1 wylys
Dull
- Cynhesu'r ffwrn i 150C/ffan 130C/nwy 2. Cymysgu'r cynhwysion y saws mewn powlen fach. Gorchuddio tun pobi efo haenau o bapur cegin. Dechrau cynhesu padell ffrio ddofn neu woc mawr yn draean o lawn efo olew a byddwch yn barod gyda'r fasgiad ffrio neu llwy dyllog wrth law.
- Pan fo'r olew yn cyrraedd 190C dipio rhai o'r llysiau yn y cytew gwaredu gormodedd o'r cytew a'i ollwng yn syth i'r olew poeth.Peidiwch a gor lenwi'r badell. Ffrio'r cyfan am oddeutu 2 funud hyd nes yn liw euraidd ac yn grimp yna eu dreinio ar y papur cegin.
- Ail adrodd y broses gyda gweddill y llysiau, eu dipio i'r cytew cyn i chi eu ffrio a cofiwch i adael gwres yr olew gynhesu yn ôl cyn rhoi y gweddill i mewn. Cadw'r tempura yn gynnes yn y ffwrn gan gadw'r drws ychydig bach yn agored fel eu bod yn aros yn grimp. Mae nhw'n well yn cael eu gweini'n syth ar blât gyda'r saws a'r yr ochr.

Saws dipio ar gyfer y tempura
Cynhwysion
- 85g blawd plaen
- 1 llwy fwrdd blawd corn
- ½ llwy de halen mor mân
- 200ml dwr pefriog oer iawn gyda darnau rhew
Dull
- Hidlo'r blawd, blawd corn a'r halen i bowlen fawr.
- Chwisgio'r dwr a'r rhew ond peidiwch a'i or-guro. Does dim ots am ychydig o lympiau. Gwnewch y gymysgedd yma fel bo chi am ei ddefnyddio.
- PWYSIG - peidiwch a'i or gymysgu, nai adael i orffyws; cadw'r cytew yn oer iawn a'r olew yn boeth iawn; peidiwch a ffrio gormod o ddarnau yr un pryd gan bydd hyn yn dod a tymheredd yr olew i lawr.

Stroganoff cig byfflo
Cynhwysion
- 500g ffiled cig byfflo
- 1llwy de paprica
- 1 lemwn wedi gratio
- 1 nionyn coch wedi falu'n fân
- 1 gewyn garlleg wedi dorri'n fân
- 1 llwy fwrdd o olew olewydd
- 2 llond llaw o gnau madarch y maes, wedi glanhau a'u torri'n chwarteri
- Darn o fenyn
- Gwydriad bach o frandi
- 50ml hufen chwerw
- Dail o 4 sprigyn o bersli deilen wastad wedi malu'n fân
- Reis gronyn hir, berwi
Dull
- Torri'r ffiled yn sleisus trwchus 1 ½ cm yna i faint trwch bys. Cymysgu'r paprika, croen lemwn, halen a pupur gyda'i gilydd mewn bag bwyd plasic. Rhoi'r cig yn y bag a'u gorchuddio gyda'r sesnad.
- Cynhesu padell ffrio fawr dros wres cymhedrol a ffrio'r nionyn ar garlleg hyd nes wedi meddalu. Troi'r gwres i fyny ac ychwanegu'r madarch a'r menyn a coginio'r madarch hyd nes yn liw euraidd, eu tynnu a'u rhoi ar blât cynnes a'u cadw'n gynnes.
- Ychwanegu olew i'r badell a ffrio'r cig am oddeutu 2 funud, eu troi a'u coginio hyd nes yn fron ond dal yn binc tu mewn.
- Dychwelyd y gymysgedd nionyn ar madarch i'r badell, ychwanegu'r brandi, ei danio a'i adael i leihau am oddeutu munud neu hyd nes ei fod bron a diflanu.
- Ei dynnu o'r gwres a cymysgu'r hufen a'r persli. Ei weini gyda reis wedi ferwi.

Pei Pysgodyn
Cynhwysion
- 1kg o bysgod; 200g eog, 200g cegddu, 200g Celog, 200g cregyn bylchog, 200g gorgimychiaid mawr wedi gwaredu'r gragen a torri'n hanner, 200g maelgi
- 1 Winwnsyn
- 4 clofau
- 2 dail llawryf
- 500ml llaeth
- 75g menyn
- 45g blawd plaen
- 100ml Hufen dwbl
- 5 llwy fwrdd dail persli wedi torri'n fras
- 2 llwy fwrdd o daragon ffres wedi dorri'n fras
- Halen a pupur i'w flasu
Tatws stwnsh:
- 1kg tatws Maris Piper wedi berwi a'u stwnsio
- 100g Menyn
- 100g hufen dwbl
- 2 melynwy
- 100g caws wedi gratio
- 2 cenin wedi sleisio
- 50g menyn
- Halen a pupur
DULL
- Tynnu croen oddi ar y pysgod, gwaredu'r esgyrn a'u torri'n giwbiau.
- Rhoi'r pysgod mewn desgyl fawr addas ar gyfer y ffwrn.
- Rhoi'r clofau yn y nionyn a'u rhoi mewn sosban gyda'r llaeth a 100ml o hufen a'r dail llawryf.
- Gadael ir llaeth ffrwtian ac yna ei dynnu oddi ar y gwres a gadael i'r winwnsyn a'r dail llawryf i fwydo yn y llaeth a'r hufen.
- Mewn sosban lan toddi 75g or menyn, a cymysgu'r blawd iddo i greu past,'roux'.
- Ychwanegu'r llaeth yn raddol gan ei gymysgu'n dda i arbed lympiau.
- Ychwanegu'r perlysiau a sesno'r saws béchamel gyda halen a pupur.
- Mewn padell lan toddi 50g or menyn ac ychwanegu'r cenin a'i goginio hyd nes yn feddal. Eu sesno gyda halen a pupur.
- Rhoi'r cenin ar ben y pysgodyn ac arllwys y saws dros y cyfan a'i orchuddio'n dda.
- Stwnsio'r tatws gan ychwangeu 100g o fenyn, 100ml o hufen dwbl a dau felynwy. Curo'r cyfan yn dda.
- Peipio'r tatws dros y gymysgedd a'i orchuddio gyda caws.
- Pobi am 45 munud ar wres 180ºC, hyd nes yn liw euraidd.
Tip: I gadw'r ffwrn yn lan rhowch y ddesgyl ar hambwrdd pobi.

Pwdin taffi sticlyd gyda cardamom
Cynhwysion
- 150g datys wedi gwaredu'r hadau a'u malu'n fras
- 175ml dwr berw
- ½ llwy de o rhin fanila
- 2 llwy de o rhin coffi
- ¾ llwy de hafal o soda pobi
- 75g menyn ar dymheredd ystafell
- 140g sigwr brown tywyll
- 2 wy wedi guro
- 2 hadau carmamom hadau wedi gwaredu ac wedi malu'n fân iawn mewn pestl a mortar
- 150g blawd codi wedi hidlo
Ar gyfer y saws
- 25g cnau ffrengig neu pecan wedi malu'n fras
- 175g sigwr brown
- 110g menyn
- 130ml hufen dwbl trwm
- 4 llwy fwrdd wisgi Penderyn
Byddwch angen 8 tun 'dariole' wedi ei iro â menyn.
DULL
- Yn gyntaf rhoi'r datys mewn powlen maint canoliog ac arllwys dwr berw dros y cyfan.
- Ychwnaegu'r rhin coffi a fanila a'r powdr soda a'u cymysgu.
- Gan ddefnyddio chwisg trydan llaw, hufennu'r menyn a'r sigwr brown hyd nes yn olau ac yn ysgafn.
- Ychwanegu'r wyau yn raddol gan ei curo'n dda.
- Yn ofalus plygu'r blawd a'r cardamom.
- Ychwanegu'r gymysgedd datys a'i gymysgu'n dda.
- Rhannu'r gymysgedd rhwng y tuniau 'dariloe' a'u rhoi ar dun pobi.
- Eu rhoi mewn ffwrn ar wres 180ºc/350ºf ar shilff ganol au pobi am oddeutu 25 munud, hyd nes bod y topiau yn gadarn ac yn ysgafn i gyffwrdd.
- Tra bo'r pwdinau'n coginio gwnewch y saws.
- Rhoi'r cnau ffrenig / pecans, sigwr brown, menyn a'r wisgi mewn sosban fach gyda gyda gwaelod trwm.
- Cymysgu'r cyfan dros wres cymhedrol hyd nes bod yr holl fenyn a'r sigwr wedi toddi, yna troi'r gwres i uchel ac ychwanegu'r hufen.
- Dod ar cyfan i'r berw gan ei gymysgu trwy'r amser.
- Ei adael i ferwi am odduetu 4 munud hyd ne sod ganddo chi saws trwchus sgleiniog. Ei roi i un ochr.
- Tynnu'r pwdinau o'r popty a'u gadael i orffwys am 5 munud cyn eu tynnu o'r tuniau bach. ( llithrwch gyllell o amgylch tu allan ir pwdin a'u troi ar blât cynnes.)
- Arllwys 2 llwy fwrdd o'r saws wisgi cynnes dros bob pwdin a'i weini yn syth.
- Mae rhain yn wych gyda llwyiad dda o hufen ia fanila cartref.
- Mae'r pwdinau yma'n well wedi cael eu gwneud y diwrnod cynt, eu tynnu or tuniau au rhoi ar blat a'u gorchuddio gyda papur glynu. Eu rhoi yn yr oergell a'u cynhesu yn y microdon am oddeutu 2-3 munud hyd nes wedi cynhesu trwyddynt, yna eu gweini ar blatiau unigol gyda'r saws poeth drostynt.

Fajitas Mecsicanaidd gyda cyw iar
Cynhwysion
- 6 cyw iar heb groen nac asgwrn wedi hanneru
- 2 tsili coch wedi gwaredu'r hadau a'u torri'n stribedi ¾ modfedd
- ¾ cwpan o goriander wedi falu'n fras
- 3 llwy fwrdd sudd leim ffres
- 2 llwy fwrdd powdwr nionyn
- 2 gewyn garlleg wedi gratio
- 1 llwy de powdwr tsili
- 2 llwy de powdwr cwmin
- ½ cwpan olew olewydd
- Halen a pupur du
- 12 ffon merllys wedi trimio
- 1 pupur coch wedi gwaredu'r hadau a'u torri yn eu hyd yn 6 darn
- 1 pupur melyn wedi gwaredu'r hadau a'u torri yn eu hyd yn 6 darn
- 2 winwnsyn coch wedi hanneru a'u sleisio yn 8
- 2 Corbwmpen wedi torri'n 12 stribed hir
- 12 tortilla blawd
Gweini gyda reis mecsicanaidd, Guacamole, Salsa, caws wedi gratio, hufen wedi suro, puprau Jalapeno,saws tsili poeth a coriander ffres.
Dull
- Piwrio'r sudd leim, powdwr tsili, cwmin, olew olewydd a'r coriander a'i sesno gyda halen a pupur.
- Rhoi'r cyw iar mewn bag plastic ac arllwys y marined dros y cyfan a'I orchuddio yn dda. Ysgeintio ychydig o halen a pupur dros y cyfan a'i oeri am awr.
- Cynhesu llwy fwrdd o olew olewydd mewn padell fawr a ffrio'r merllys, corbwmpen, winwns a pupur hyd nes yn feddal. Eu rhoi mewn tun rhostio i gadw'n gynnes yn y ffwrn.
- Tynnu'r cyw iar or marined ac yn yr un badell ffrio'r cyw iar am 3 munud pob ochr hyd nes wedi brownie ac wedi coginio trwydo. Os nad ydych yn saff torri un or ffiledau drwy'r canol i weld os yw'n barod.
- Grilio'r tortillas am funud pob ochr neu eu cynhesu yn y ffwrn.
- Gosod y cyw iar ar llysiau ar blât cynnes au rhoi yng nghanol y bwrdd I bawb gael helpu eu hunain.
- Gweini yn gynnes gyda reis mecsicanaidd, Guacamole, Salsa, caws wedi gratio, hufen wedi suro, puprau Jalapeno,saws tsili poeth a coriander ffres.

Cig Carw wedi rostio mewn padell gyda saws mwyar duon
Cynhwysion
- 1 llwy fwrdd olew olewydd
- 2 ddarn trwchus o gig carw neu 4 darn medaliwn
- 1 llwy fwrdd finag balsamig
- 150ml stoc cig eidion
- 2 llwy fwrdd jeli cwrens coch
- 1 gewyn garlleg wedi falu'n fân
- 85g mwyar duon ffres neu wedi rhewi
DULL
- Cynhesu olew mewn padell ffrio a coginio'r cig carw am 5 munud yna ei droi a'i goginio am 3-5 munud yn fwy yn ddibynol ar pa mor amrwd da chi'n ei hoffi a hefyd trwch y cig (coginio am 5-6 munud bob ochr os am gig wedi goginio trwyddo) Codi'r cig o'r badell a'i adael i orffwys.
- Ychwanegu'r finag i'r badell ac yna'r stoc, jeli cwrens coch a'r garlleg. Cymysgu'r cyfan dros wres uchel a cyfuno'r cyfan yna ychwangu'r mwyar duon a parhau i goginio hyd nes bod y mwyar yn meddalu.
- Gweini'r cyfan gyda bresych Savoy a cnau castan.

Guacamole
Cynhwysion
- 2 afocado aeddfed
- 1/2 winwnsyn coch wedi falu'n fân
- 1 gewyn garlleg wedi gratio
- 1-2 tsili wedi gwaredu'r hadau ac wedi torri'n fân
- 2 llwy fwrdd dail coriander wedi dorri'n fân
- 1 llwy fwrdd o sudd leim ffres
- 1/2 llwy de o halen bras
- Pupur du
- 2 domato aeddfed wedi gwaredu'r hadau ar cnawd wedi giwbio
Dull
- Torri'r afocado yn hanner, gwaredu'r garreg a llwyo'r afocado i bowlen.
- Gan ddefnyddio fforc, stwnsio'r afocado. Ychwanegu'r winwnsyn, garlleg, coriander, leim, halen a pupur a'i stwnsio ychydig bach mwy. Mae tsili yn amrywio yn eu poethder felly cychwyn gyda hanner tsili i'r gwacamole ac yna ei addasu i'ch blas personnol chi. Ychwanegu'r tomatos a'i gymysgu.
- Cychwyn gyda'r rysait yma a wedyn ei addasu i siwtio eich blas personnol chi.
- Gorchuddio arwyneb y guacamole gyda papur glynu wnaiff hyn arbed i'r gymysgedd droi'n frown ac ocsideiddio. Ei gadw yn yr oergell hyd nes yn barod i'w ddefnyddio.

Tarten Mwyar ac Afal
Cynhwysion
- 2 afal coginio ( 300g) wedi plicio a'u torri'n ddarnau 2cm
- 1 afal bwyta, wedi blicio a'i dorri'n ddarnau 1cm
- 2 llwy de blawd corn
- 350g mwyar duon
- 3-4 llwy fwrdd o sigwr caster ac ychydig mwy o ysgeintio
- Llefrith i frwsio
Ar gyfer y crwst
- 250g blawd plaen
- 25g sigwr caster
- 150g menyn wedi oeri a'i dorri'n giwbiau bach
- 1 wy
Dull
- Cynhesu'r ffwrn i wres 190c / 375f / Nwy 5.
- Hidlo'r blawd mewn powlen ac ychwanegu'r sigwr. Ychwanegu'r menyn a'i rwbio i'r blawd hyd nes bod y gymysgedd yn debyg i friwsion bara. Cymysgu'r wy i mewn o digon o ddwr oer hyd nes bo'r gymysgedd yn dod at i gilydd a chreu toes esmwyth. Lapio'r crwst mewn papur glynnu a'i roi yn yr oergell am 20-30 munud.
- Rholio hanner y toes ar fwrdd wedi ysgeintio'n ysgafn gyda blawd, gwnewch gylch digon mawr i leinio tun dwfn 23cm / 9inch neu ddesgyl addas i'r ffwrn. Gwasgu'r crwst yn ysgafn i'r corneli a gadael i'r grwst hongian dros yr ochrau rhyw fymryn. Rhowlio gweddill y toes i siap crwn ddigon mae i wneud caead i'r holl darten.
- Taflu'r darnau afal yn y blawd corn hyd nes wedi eu gorchuddio'n llwyr ac yn gyfartal a'u gosod ar walod y darten. Ysgeintio'r mwyar dros y top ac yna'r sigwr.Yn ysgafn brwsio ochrau'r crwst gyda dwr.
- Gorffwys caead y toes dros y llenwad ffrwythau. Gwaredu'r gormodedd crwst a'i selio'n dda. Rhoi dau hollt yng nghanol y toes yna ei frwsio gyda llefrith ac yna ei ysgeintio â sigwr.
- Ei roi mewn ffwrn poeth a'i goginio am 30-40 mundu hyd nes bo'r crws yn crimp a lliw euraidd arno a'r llenwad wedi coginio trwyddo. Tra bo'r crwst dal yn boeth ei ysgeintio gyda mwy o sigwr.

Salsa Tomato
Cynhwysion
- 6 tomato mawr wedi gwaredu'r hadau a deisio'r cnawd
- 2 llwy fwrdd pupurau jalapenos wedi malu'n fân
- 1 tsili coch hadau wedi gwaredu ac wedi falu'n fân
- 1 gewyn garlleg wedi gratio
- 1 winwnsyn bach wedi ddeisio
- ½ bwnsiad bach o goriander ffres wedi falu
- 2 sbrigyn o fintys ffres wedi falu
- 1 llwy fwrdd o bersli ffres wedi falu
- Sudd 2 leim neu i flas
- 2 llwy fwrdd olew olewydd
- Halen i flasu
- Pinsiad dda o sigwr
Dull
- Torri'r tomatos, jalapeno, winwnsyn, tsili, mint a persli a gratio'r garlleg.
- Cyfuno'r holl gynhwysion mewn powlen fawr a'i sesno gyda sudd leim, halen a sigwr.
- Ei weini ar unwaith neu ei roi yn yr oergell am ychydig oriau I adael i'r blasau fwydo a bydd hyn hefyd yn golygu bod salsa fwy poeth ganddo chi.

Ffa Gwyrdd Dull Gujerati
Cynhwysion
- 450grams ffa Ffrenig ffres
- 4 llwy fwrdd olew llysiau
- 1 llwy fwrdd haday mwstard cyfan
- 4 gewyn garlleg, wedi gwaredu'r croen a'u malu'n fân
- ½ - 1 tsili poeth sych, wedi flau'n fras mewn pestl a mortar
- 1 llwy de halen
- ½ llwy de sigwr
- Pupur du ffres
Dull
- Tocio'r ffa a'u torri'n ddarnau 1modfedd / 2.5cm o hyd. Eu gwynnu drwy eu gollwng i sosban o ddwr berw a'u berwi'n gyflym am 3-4 munud neu hyd nes yn dyner. Eu draenio'n syth mewn colander a'u rinsio dan dap o ddwr oer. Eu rhoi i un ochr.
- Cynhesu'r olew mewn padell ffrio dros wres cynhedrol. Pan yn boeth rhoi'r hadau mwstard i mewn. Munud bo'r hadau yn dechrau sboncio rhoi'r garlleg i mewn. Symud y darnau garlleg o gwmpas y badell hyd nes yn troi'n liw euraidd.
- Rhoi'r tsili wedi falu i mewn am ychydig eiliadau. Ychwanegu'r ffa gwyrdd a halen a sigwr i flas. Cymysgu'r cyfan yn dda.
- Troi'r gwres i gymhedrol-isel. Cymysgu'r cyfan a choginio'r ffa am 7-8 munud neu hyd nes eu bod wedi amsguno blasau'r sbeisus. Ychwanegu pupur du i flas a'i weini.

Tarten Gellyg ac Almonau
Amser coginio: 40 munud. Cynhesu'r ffwrn i 180C.
Cynhwysion
Ar gyfer y crwst melys
- 60g Menyn di- halen, gwres ystafell, wedi hufennu
- 40g Sigwr eisin, wedi hidlo
- 1 melynwy
- Pinsiad bach o halen
- 125g Blawd plaen wedi hidlo
- 1llwy fwrdd o ddwr
Ar gyfer y llenwad almwn
- 50g Menyn di- halen, gwres ystafell
- 50g Sigwr eisin wedi hidlo
- 50g Almonau wedi malu'n fân
- 1 Wy cyfan
- 1 ½ llwy fwrdd o hufen chwipio
- 1 llwy fwrdd o rwm
4 Gellygen wedi torri'n hanner, y croen wedi cael ei waredu, eu potsio, eu hoeri a gwaredu'r canol
Menyn i iro'r ddesgyl darten. Un desgyl darten yn mesur 20cm mewn diamedr gyda gwaelod rhydd.
Dull
Y crwst
- Mewn powlen fawr cymysgu'r sigwr eisin, wy, y menyn a'r pinsied o halen a'i gymysgu hyd nes bod y gymysgedd yn esmwyth.
- Ychwanegu'r blawd a'i rwbio hyd nes bod ansawdd tebyg i dywod ganddo chi.
- Ychwanegu'r dwr a'i gymysgu gyda'i gilydd.
- Rhoi'r toes ar fwrdd wedi ysgeintio yn ysgafn gyda blawd. Dylino'r toes gyda'ch dwylo hyd nes wedi cymysgu'n dda; yn fwy egniol yn ystod yr eiliadau olaf. Ei lapio menw papur glynu a'i oeri mewn oergell am oleiaf 4 awr.
Mae'n bwysig gorffwys y toes fel ei fod yn ymlacio a cholli ei ystwythder, mi fydd hi'n haws i'r rowlio wedyn.
Paratoi y crwst
- Iro ochrau a gwaelod y ddesgyl darten.
- Ar hambwrdd wedi ysgeintio yn ysgafn â blawd rhowlio'r toes i drwch o tua 3mm bydd hyn yn rhoi toes o tua 28cm mewn diamedr i chi. Ei lapio o gwmpas pin rholio a leinio'r ddesgyl darten gyda'r ochr blawd ar i fyny a defnyddio eich bodiau i'w wasgu'n dda i'r corneli.
- Gadewch y gormodedd toes i blygu dros ochr y ddesgyl, bydd hyn yn arbed iddo grebachu a lleihau pan yn ei goginio. Gyda fforc gwneud tyllau bach yng ngwaelod y toes a'i orffwys eto yn yr oergell am o leia awr. ( bydd hyn yn galluogi'r toes i orffwys eto ac arbed lleihau yn ystod y coginio )
Hufen almwn
- Rhoi'r cynhwysion i gyd mewn powlen a'i gymysgu'n dda. Ei roi i un ochr.
- Lledaenu'r hufen almon ar waleod y darten, ar ben y toes.
- Torri'r gellyg yn sleisus llorweddol. Rhoi pedwar hanner ar ffurf croes ar ben yr hufen almwn. Fe all y gellyg fod yn fach ar brydiau felly falle bydd angen ychwanegu hanner arall i'r darten.
- Rhoi'r darten mewn popty sydd wedi cynhesu'n barod i wres 180 a'i bobi am 40 munud. Ei dynnu o'r ffwrn a'i adael i oeri.
Gweini
Gwasgu gwaelod y ddesgyl a thynnu'r ochrau. Twtio'r toes a'i ysgeintio'n ysgafn gyda ychydig o sigwr eisin a'i weini.

Cyw Iar Dull Goan
Cynhwysion
- 1 ½ llwy fwrdd o hadau coriander cyfan
- 1 ½ llwy fwrdd o hadau cwmin cyfan
- 1 llwy de o hadau mwstard cyfan
- 1 darn un modfedd o ffon sinamon wedi dorri'n 3 / 4 darn
- 4 colf cyfan
- ¼ llwy de o puprau du cyfan
- 1/6 o nytmeg cyfan
- 1 tsili coch poeth cyfan( gwaredu'r hadau os am gyri llai poeth)
- Digon o goconut ffres i lenwi jwg mesur hyd at 425ml lefel
- 6-8 gewyn garlleg wedi gwaredu'r croen
- 1 darn modfedd o sinsir ffres, wedi gwaredu'r croen a'i falu'n fân
- ½ -1 tsili gwyrdd poeth ffres
- 4 llwy fwrdd o ddwr a ½ peint
- 4 llwy fwrdd o olew llysiau
- 175grams nionod wedi gwaredu'r croen a'u creu'n bast
- 1kg darnau cyw iâr wedi gwaredu'r croen
- 1 ½ llwy de halen
Dull
- Rhoi'r hadau coriander, cwmin, mwstard, sinamon, clofau, puprau du, nytmeg a'r tsili mewn padell ffrio fach un haearn os yn bosib. Rhoi'r badell dros wres cymhedrol, yna ffrio'r sbeisus yn sych gan eu troi'n rheoliadd hyd nes eu bod yn rhyddhau arogl rhost dymunol. Gwagio'r sbeisus i beiriant malu coffi neu sbeis a'u malu'n fân hyd nes fel powdwr. Rhoi'r sbeisus mewn powlen hyd nes yn barod i'w defnyddio.
- Rhoi'r coconyt yn yr un badell a'u ffrio'n sych dros wres cymhedrol gan ei droi drwy'r amser. Dylia'r coconyt gael ambell un wedi troi'n liw euraidd ac yn arogli fel eu bod wedi rhostio. Rhoi'r coconyt mewn powlen gydda gweddill y sbeisus sych.
- Rhoi'r garlleg, sinsir a'r tsili gwyrdd mewn cymysgydd trydan gyda 4 llwy fwrdd o ddwr. Ei gymysgu hyd nes yn bast.
- Cynhesu olew mewn padell ffrio 10-12 modfedd a'i gynhesu dros wres cymhedrol - uchel. Pan yn boeth ychwanegu'r nionod. Cymysgu'r nionod a'u ffrio hyd nes yn troi'n liw euraidd. Yna ychwanegu'r past garlleg a'r sinsir a'i gymysgu. Troi'r gwres i gynhedrol.
- Rhoi'r darnau cyw iâr, halen yn ogystal ar sbeisus a'r coconyt mewn powlen. Cymysgu a frio'r cyfan am 3-4 neu hyd nes for' cyw iâr yn colli ei liw pinc ac yn troi'n liw euraidd.
- Ychwanegu ½ peint o ddwr a dod ar cyfan i'r berw. Ei orchuddio a throi'r gwres i lawr a'i gognio am 25-30 munud neu hyd nes fo'r cyw iâr wedi coginio. Troi'r gymysgedd bob hyn a hyn fel bod pob darn o gyw iâr yn liw euriadd.

Stecen Tartar
Cynhwysion
- 250grams stecen braster isel gore, wedi falu'n fân
- 2 llwy de caprynau, wedi malu'n fân
- 2 llwy de gherkins bach wedi malu'n fân
- 2 llwy de nionyn coch wedi falu'n fân
- 2 llwy de o bersli ffres wedi malu'n fân
- 2 llwy de o sos coch
- 2 llwy de o fwstard Dijion
- ½ - 1 llwy de o Halen mon wedi falu'n fân
- Ychydig o saws pupur poeth ( Tabasco) a saws Caerwrangon
- 1 melynwy ieir rhydd
Dull
- Rhoi'r cynnhwysion sydd wedi cael eu malu'n fân mewn powlen a'u cynysgu'n dda.
- Ychwanegu wy i'w feindio.
- Halen i'w flasu.
- Ei fwyta!

Brest Hwyaden gyda peli stwffin a saws llus
Cynhwysion
4 brest hwyaden, Halen a pupur
STWFFIN
- 200g cig selsig porc
- 1 croen lemwn
- 1 gewyn garlleg wedi gratio
- 1modfedd o sinsir ffres
- 2 sialot
- 100g briwsion bara
- 1 wy, mwy os bydd y gymysgedd rhy sych
- 6 dail saets ffres wedi torri'n fân
- Olew olewydd
Saws
- 400ml gwin coch
- 200g jeli cwrens coch
- Croen un oren
- Sudd un oren
- 150ml stoc cyw iâr
- 150g llus
- 50ml Cassis
ROSTI
- 2 daten Maris Piper wedi gwaredu'r croen a'u gratio
- 2 sialot wedi torri'n fân
- 150g Lardons
- Halen a pupur
- 1 llwy fwrdd o fraster hwyaden wedi doddi
DULL
- Cynhesu padell ffrio fawr.
- Sgorio croen yr hwyaid a'u sesno gyda halen a pupur.
- Rhoi'r hwyaid yn y badell ochr y croen i lawr, bydd y braster yn dechrau dod oddi ar y croen a bydd angen tynnu'r braster yma a'i roi mewn powlen a'i gadw.
- Pan fo'r croen yn liw euraidd eu troi a'u brownio'r ochr arall yn ysgafn am 2 funud. Eu trosglwyddo i dun glân a'u rhostio am 15 munud ac yna eu gadael i orffwys mewn lle cynnes am 15munud.
- Toddi menyn yn yr un badell a'r hwyiaid a coginio'r sialots hyd nes yn feddal.
- Ychwanegu'r llus a'u coginio hyd nes yn dynner.
- Ychwanegu'r gwin a'i leihau o hanner yna'r stoc cyw iâr a'i leihau o hanner eto.
- Ychwanegu croen yr oren a'r sudd, y cassiss a gadael y cyfan i ffrwtian a'i weini gyda;r hwyaden.
STWFFIN
- Mewn powlen fawr cymysgu'r cig selsig, croen lemwn, sialot, sinsir, garlleg, dail saets, briwsion bara, wy, halen a pupur a'i gymysgu'n dda a'u siapio yn faint peli golf. Eu ffrio mewn padell hyd nes yn liw euraidd ac i'r ffwrn am 15 munud.
TATWS ROSTI
- Ffrio'r lardons hyd nes yn liw euraidd.
- Gratio'r tatws yn fras a'u rhoi ar dywel cegin glân, casglu ochrau'r tywel a gwasgu'r dwr o'r tatws, rhoi'r tatws wedi gratio mewn powlen lân gyda'r sialot, lardons, braster y hwyaden a halen a pupur a'i gymysgu'n dda.
- Cynhesu padell ffrio a llwyo ychdig or gymysgedd i gylchoedd coginio metel a'u ffrio pob ochr hyd nes yn liw euraidd, eu rhoi ar hambwrdd au pobi yn y ffwrn hyd nes wedi coginio trwyddynt, tua 15 munud yn ddibynnol ar drwch y rosti.

Pwdin Plwm ac Almonau
Cynhwysion
- 400g blawd codi
- 450g menyn di halen
- 450g sigwr caster
- 8 wy
- 3 rhin fanila
- 100g almonau wedi malu'n fân
- Llond llaw o ddarnau almwnau
- 6 llwy de surop euraidd
- 12 plwmsen wedi hanneu
- 25g menyn
DULL
- Curo'r menyn gyda'r sigwr hyd nes yn liw hufenog.
- Ychwanegu'r wyau un ar y tro a'u curo'n dda ar ôl pob wy.
- Ychwanegu'r blawd, almonau man, fanila a'i gymysgu'n dda.
- Iro a leinio tun gyda menyn a papur pobi.
- Arllwys y surop ar y papur pobi a gosod y plwms yn daclus ar ei ben mewn rhesi.
- Arllwys y gymysgedd cacen dros y ffrwythau a'u bobi am 45 munud ar wres 170ºC.
- Troi'r pwdin o'r tun ac ar blât. Ei orchuddio gyda'r darnau almonau.

Pwdin Reis wedi Garamaleiddio gyda jin
Cynhwysion
- 450ml llefrith llawn
- 400ml hufen dwbl
- 50g menyn
- 50g sigwr caster
- 50g rhesins
- 1 podyn fanila neu 1 llwy de o rin fanila
- 75g pwdin reis wedi ei olchi mewn dwr
- 3 llwy fwrdd sigwr caster ar gyfer y caramaleiddio ar dop y pwdin
- 3 llwy fwrdd o jin
Dull
- Rhoi'r llefrith, hufen, menyn, sigwr a fanila mewn sosban a'i ddod i bwynt ffrwtian.
- Ychwanegu'r reis a'r rhesins i'r llaeth a'r hufen a'i adael i ffrwtian am 30 munud hyd nes for gymysgedd yn twchu. Parhau i gymysgu'r reis.
- Rhoi'r gymysgedd reis mewn desgyl addas ar gyfer y ffwrn a choginio'r pwdin ar wres 150c am 30 munud yn fwy.
- Pan fo'r reis wedi coginio ei dynnu o'r ffwrn a'i orhuddio'n drwchus gyda'r sigwr caster a'i roi o dan y gril hyd nes fo'r sigwr yn dechrau caramaleiddio.
- Ei dynnu o'r ffwrn a'i adael i orffwys am 5 munud cyn ei weini.
- Pan fo'r pwdin yn barod i'w fwyta arllwys joch dda o jin drosto a'i weini.

Salad tatws Sir Benfro gyda pancetta, cyw iâr a dresin mafon
Cynhwysion
- 50g lardons wedi mygu
- 1 Brest cyw iâr wedi gwaredu'r croen a'i dorri'n 12 ciwb
- 10 taten fach newydd Sir Benfro wedi torri'n hanner
- ¼ pupur coch wedi dorri'n 6 darn
- ¼ pupur melyn wedi dorri'n 6 darn
- ½ winwnsyn coch wedi sleisio
- 1 llwy fwrdd olew olewydd
- 1 llwy fwrdd finag mafon
- Halen a pupur du
- ¼ letisen iceberg wedi dorri'n fân
Dull
- Cynhesu padell ffrio ac ychwanegu'r lardons a'u coginio hyd nes yn liw euraidd.
- Ychwanegu'r darnau cyw iâr ym mrastder y lardons hyd nes eu bod yn troi'n liw euraidd yna eu rhoi ar blât.
- Coginio'r tatws newydd yn y badell ffrio ochr wastad yn gyntaf hyd nes yn troi'n liw euraidd.
- Ychwanegu 1 llwy fwrdd o olew olewydd y puprau ar nionyn a'u ffrio hyd nes yn meddalu, ei sesno gyda halen a pupur.
- Dychwelyd y cig i'r badell, ychwanegu'r finag a cymysgu'r cynhwysion yn dda.
- Ei weini ar wely o letis.
