dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
seafood picture

BWYD Y MÔR

Rydym ni yng Nghymru yn ffodus bod gennym arfordir ar hyd ochrau gogleddol, gorllewinol a deheuol ein gwlad.

GWREIDDIAU HYNAFOL

  • Ers miloedd o flynyddoedd, mae’r ddynoliaeth wedi edrych tuag at y môr ar gyfer cyflenwad o fwyd. Nôl yn amseroedd cyn-hanesyddol, byddai dynion yn defnyddio darnau o esgyrn fel bachau, a hydau o winwydden fel llinyn, er mwyn dod o hyd i’w dalfeydd. Mae tystiolaeth archeolegol yn dangos bod y ddynoliaeth yn bwyta pysgod rhyw 400,000 o flynyddoedd yn ôl, gydag eog yn profi’r mwyaf poblogaidd.

  • Roedd yr Eifftiaid hynafol, y Rhufeiniaid a’r Tsieineaid i gyd gyda meddwl mawr o bysgod, ac mae’r rysáit hyn i ddefnyddio pysgod yn salad o Tsieina, sy’n dyddio nôl i 1300 CC. Roedd y galw am bysgod ffres yn ysgogi dyfeisiau newydd mewn cadw a chludo. Byddai pysgod yn cael eu dal, eu cludo a’u gwerthu’n fyw mewn marchnadoedd. Mae’r archeolegwyr wedi darganfod hefyd bod y Rhufeiniaid a’r Tsieineaid yn defnyddio iâ i gadw’r pysgod yn ffres (weithiau gyda chymysgedd o wymon) mor bell yn ôl â 1000 CC. Maent hefyd wedi dangos bod y diwylliannau hynafol yn defnyddio gwialenni ar gyfer pysgota, a’u bod yn hwylio allan i’r môr mewn llongau a oedd wedi’u cynllunio’n arbennig er mwyn dal heigiau o bysgod mewn rhwydi enfawr.

  • Yn ogystal, roedd nifer o’r diwylliannau hynafol wedi datblygu nifer o ffyrdd i gadw pysgod. Roedd sychu’r pysgod, eu halltu neu eu trin gyda mwg yn rhannau hanfodol o’r diwydiant pysgota, a oedd yn ffynnu yn yr Ymerodraeth Rufeinig o gwmpas 100 CC. Fe ddefnyddir y dulliau hyn hyd heddiw ond, wrth gwrs, mae’r technegau wedi’u diweddaru llawer dros y canrifoedd.

  • Un o’r technegau mwyaf defnyddiol i ddod allan o’r amseroedd hynafol oedd ffermio pysgod. Dywed mai’r Tsieineaid oedd y cyntaf i ymarfer hyn rhwng 2000 a 1500 CC, pan fyddent yn magu carpiaid mewn pyllau. Diolch i’r Rhufeiniad, fe ledaenwyd ffermio pysgod trwy Ewrop, a bu’r gweithgareddau’n parhau wedi diwedd yr Ymerodraeth. Yn wir, fe ddaeth yn gyffredin trwy Ewrop i gael cyflenwad o bysgod wedi’u ffermio a rhai gwyllt (o’r moroedd ac o afonydd a llynau).
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY